Gwahoddir yr Aelodau i nodi'r sefyllfa bresennol o ran yr achosion o gryptosporidiosis yng Ngogledd Cymru, o E.coli O157 yn Ne Cymru ac o Ffliw adar yn Nhwrci.
Cryptosporidiosis
Ddydd Mercher, 4 Ionawr 2006, cadarnhawyd un achos pellach o Gryptosporidiwm yn ardal Ynys Môn a Gwynedd, gan ddod â chyfanswm yr achosion o heintiad yn ardal Ynys Môn a Gwynedd i 226 ers 1 Hydref. Dyma gynnydd o 10 ar nifer yr achosion a gadarnhawyd yn fy natganiad ar 23 Rhagfyr 2005.
Mae'r Tîm Rheoli Achosion (OCT) wedi adolygu statws cyfredol yr achosion, canfyddiadau'r ymchwiliadau cyfredol a'r angen parhaus am Rybudd i Ferwi Dŵr. Er bod llai o achosion o gryptosporidiwm wedi'u cadarnhau gan labordy ers i'r Rhybudd i Ferwi Dŵr gael effaith, mae achosion newydd yn dod i'r amlwg o hyd. Nid yw'r OCT yn hyderus fod y perygl o heintio ar ben, ac maent yn ystyried y gallai cael gwared ar y Rhybudd i Ferwi Dŵr nawr arwain at don newydd o achosion o gryptosporidiosis.
Mae'r OCT felly wedi cynghori Dŵr Cymru i ailadrodd y Rhybudd i Ferwi Dŵr fel mesur rhagofalus. Er mwyn caniatáu ymateb hyblyg, bydd y Rhybudd yn sefyll am gyfnod amhenodol.
Mae Aelodau'r Tîm Rheoli Achosion yn adolygu'r sefyllfa yn ddyddiol, ac maent yn dal i fod yn hyderus mai dŵr o Gronfa Ddŵr Cwellyn yw ffynhonnell debygol yr achosion. Fodd bynnag, mae dŵr Llyn Cwellyn wedi bod yn cael ei drin yn ôl yr arfer drwy gydol y cyfnod y bu cynnydd yn y salwch a achosir gan gryptosporidiwm. Dim ond lefelau isel o gryptosporidiwm sydd wedi'u canfod yn y cyflenwad dŵr gan arbrofion; ymhell o fewn y safonau triniaeth. Fodd bynnag, caiff y gronfa ddŵr ei monitro ymhellach ar gyfer öosytau cryptosporidium.
Fel mesur rhagofalus, ac er mwyn calonogi pobl am eu dŵr tap, mae Dŵr Cymru yn cyflwyno triniaeth ychwanegol i gyflenwadau dŵr o Lyn Cwellyn. Mae'r cwmni yn gosod offer a fydd yn trin y dŵr â golau uwchfioled yng nghweithfeydd Llyn Cwellyn. Bydd y broses hon yn golygu na fydd unrhyw öosytau cryptosporidiwmyn y dŵr yn hyfyw. Ar ôl gweithredu'r cam ychwanegol hwn, bydd y Tîm Rheoli Achosion yn cynghori Dŵr Cymru i gael gwared ar y Rhybudd i Ferwi Dŵr.
Dylai'r bobl sydd wedi cael cyngor ysgrifenedig i ferwi eu dŵr tap cyn ei yfed a'i ddefnyddio i baratoi bwyd, barhau i wneud hynny. Mae llawer o'r achosion a welir yn y gymuned wedi'u trosglwyddo yn eilaidd o berson i berson. Dylai pobl fod yn arbennig o drylwyr wrth olchi eu dwylo'u hunain. Gall yr haint drosglwyddo'n hawdd iawn rhwng plant ifanc, felly dylai oedolion oruchwylio plant yn y grwp oedran hwn yn y toiled ac wrth iddynt olchi eu dwylo.
Mae Dŵr Cymru wedi anfon llythyrau i'r 28,000 o gartrefi a busnesau sydd wedi'u heffeithio, gan ailadrodd yr angen i barhau i ferwi dŵr. Mae swyddogion Iechyd yr amgylchedd wedi anfon mwy o gyngor ysgrifenedig at reolwyr busnesau bwyd, deintyddion a phyllau nofio, gan eu hatgoffa o'r cyngor cynharach, er mwyn lleihau'r risg o salwch. Pan gaiff y Rhybudd i Ferwi Dŵr ei godi, bydd llythyrau yn cael eu hanfon at yr holl unigolion yr effeithiwyd arnynt.
Ddydd Mawrth 3 Ionawr 2006, es i i'r Gogledd i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Grwp Rheoli Achosion o Gryptosporidiosis. Cynhaliwyd y cyfarfod yn swyddfeydd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd yng Nghaernarfon ac roedd cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a Dŵr Cymru yn bresennol. Cefais hefyd gyfle i ymweld â Llyn Cwellyn. Cyfarfum hefyd ag arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth ac o'r Uned Cyfeirio Cryptosporidiwm ddydd Gwener 6 Ionawr. Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn y trafodaethau yw cymaint sydd ar ôl i'w ddysgu am y paraseit hwn. Gyda datblygiad technoleg ymchwil DNA, mae dirnadaethau newydd yn datblygu. Er nad oes amheuaeth fod y Rhybudd i Ferwi Dŵr yn achosi anghyfleustra i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio, dylai'r achosion hyn roi dealltwriaeth newydd ar sut i reoli ein cyflenwadau dŵr i'r diwydiannau dŵr ar draws y DU.
Fel gydag unrhyw achosion difrifol, rwy'n disgwyl y bydd y Tîm Rheoli Achosion yn cyhoeddi adroddiad cyn bo hir, yn unol â'r templed cenedlaethol ar gyfer rheoli achosion o glefydau trosglwyddadwy.
Gall pobl â phryderon am eu hiechyd barhau i ffonio rhif ffôn arbennig Galw Iechyd Cymru: 0845 600 6086 rhwng 9-6 o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9–4 ar benwythnosau.
E.coli
Yn fy natganiad diwethaf, hysbysais Aelodau'r Cynulliad fod y Tîm Rheoli Achosion wedi datgan bod yr achosion o E.coli O157 yn Ne Cymru ar ben.
Yr achosion o E.coli yn Ne Cymru oedd y gwaethaf a welwyd yng Nghymru erioed, gyda 158 o achosion ar draws 42 o ysgolion. O'r holl achosion, roedd tua 65 y cant yn rhai primaidd – lle daliwyd yr haint o'r ffynhonnell wreiddiol.
Hysbyswyd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru am yr achosion cyntaf ar 16 Medi, a gwnaed datganiad am yr achosion ar y diwrnod hwnnw. Nodwyd a dilëwyd y ffynhonnell debygol dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf. Dros y pythefnos nesaf, daeth mwy o achosion i'r amlwg, oherwydd bod yna gyfnod magu cyn i'r clefyd gael effaith. Daeth pawb a heintiwyd mewn ysgol i gyswllt â'r ffynhonnell wreiddiol cyn i'r mesurau rheoli gael eu gweithredu.
Mae ymchwiliadau pellach i'r achosion yn Ysgol Babanod Abercynon wedi dangos ei bod hi'n anhebygol eu bod yn gysylltiedig â'r prif achosion. Mae'r math o E. coli a gafwyd yn wahanol yn enetig. Nid oes tystiolaeth o gysylltiad â'r achosion eraill, ac nid yw dyddiad cyhoeddi'r achosion yn cyd-fynd yn gronolegol â'r prif achosion. Felly, yn yr un modd â'r achosion a gafwyd yn Aberhonddu, mae'r achosion yn Abercynon yn cael eu rheoli ar wahân er mwyn sicrhau nad oes pobl eraill mewn perygl. Mae yna 15 o achosion yn Abercynon.
Cyhoeddwyd Adolygiad y Prif Swyddog Meddygol o'r achosion o E.coli yn y De ar 6 Ionawr 2006 ac mae weddi gwneud 22 o argymhellion. Edrychodd adolygiad Prif Swyddog Meddygol Cymru Dros Dro, Dr David Salter, ar y systemau a'r prosesau a oedd yn eu lle cyn, ac yn ystod yr achosion, er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi uniongyrchol yn cael eu dysgu a'u rhoi ar waith. Roedd cyfyngiadau ar yr hyn y gallai'r adolygiad ei ymchwilio oherwydd ymchwiliad parhaus Heddlu De Cymru.
Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA). Mae'n galw ar y FSA i adolygu'r ddeddfwriaeth fwyd gyfredol a'r canllawiau i awdurdodau lleol o ran pa mor aml y dylent arolygu safleoedd, ac a oes angen mwy o ddeddfwriaeth. Bydd angen iddo hefyd edrych a yw'r awdurdod lleol wedi defnyddio'r ddeddfwriaeth hon yn gywir o ran safle 'John Tudor and Son'.
Ceir saith argymhelliad ar gyfer awdurdodau lleol, gan gynnwys yr angen iddynt gydweithio'n agos â'r FSA i gyflwyno unrhyw fesurau newydd i wella hylendid bwyd ac edrych a oes ganddynt ddigon o staff i ddelio ag achosion o wenwyn bwyd neu haint. Mae hefyd yn galw ar gynghorau i wahodd cyrff llywodraethu ysgolion i adolygu'r cyngor ar lanhau ysgolion, yn enwedig y toiledau, er mwyn sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at sebon a dŵr poeth.
Ceir tri argymhelliad ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a'r Tîm Rheoli Achosion. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen iddynt ystyried dulliau amgen o gyfathrebu â'r cyhoedd, ac eithrio drwy'r cyfryngau. Gallai'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, er enghraifft, wneud defnydd gwell o'i wefan, fel bod y cyhoedd yn gallu cael mynediad at y wybodaeth gywir ddiweddaraf am achosion. Mae hefyd yn galw ar y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i sicrhau bod adroddiad ysgrifenedig llawn yn cael ei gwblhau a'i gyhoeddi ar gyfer achosion mawr cyn gynted ag sy'n bosibl, er mwyn i ni allu dysgu o brofiad yn barhaus.
Ymysg y tri argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae'r adroddiad yn galw am sefydlu Grwp Llywio i sicrhau bod yr holl argymhellion yn cael eu datblygu a'u gweithredu. Mae hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth y Cynulliad weithio i ddatrys yr anawsterau sy'n gysylltiedig â cheisio cynnal adolygiad ochr yn ochr ag ymchwiliad gan yr heddlu.
Yn olaf, mae'r adroddiad yn argymell y dylai Canolfan Iechyd Cymru gydweithio'n agos â'r Tîm Rheoli Achosion wrth helpu i wella'r dasg o gyfathrebu â'r cyhoedd pan fo achosion yn dod i'r amlwg.
Rwy'n derbyn yr argymhelliad i sefydlu Grwp Llywio i fonitro'r cynnydd a wneir ar argymhellion yr adroddiad. Byddaf nawr yn ystyried pwy a fydd yn rhan o'r grwp. Y cam nesaf fydd dechrau Ymchwiliad Cyhoeddus y Cynulliad i'r Achosion.
Ffliw Adar yn Nhwrci
Ar sail y wybodaeth a gafwyd ynghylch adroddiadau bod clwstwr diweddar o 4 o bobl yn marw o ganlyniad i ffliw adar yn Nhwrci, ni fydd Sefydliad Iechyd y Byd eto'n newid statws lefel y rhybudd i Ffliw pandemig. Ar hyn o bryd, rydym ar Gyfnod 3 - Haint (Heintiau) dynol Sefydliad Iechyd y Byd, gydag is-deip newydd, ond nid yw'n cael ei drosgwlyddo drwy gyswllt o berson i berson, a phrin iawn y caiff ei drosglwyddo drwy gyswllt agos.
Yn ôl yr adroddiadau, roedd y bobl hynny a fu farw yn Nhwrci wedi'u heintio â math H5N1 y ffliw, ac roeddent yn byw mewn cysylltiad agos â dofednod. Fodd bynnag, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y byddant yn cadw llygad craff ar y sefyllfa wrth iddi ddatblygu. Nid oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd sy'n awgrymu bod y feirws wedi newid i ffurf a allai gael ei droslwyddo o berson i berson.
Nid yw'r achosion yn Ankara wedi'u cadarnhau eto gan labordai Sefydliad Iechyd y Byd. Nid yw'n glir eto sut ddaliodd y bobl hyn yr haint, er y bu adroddiadau bod yna hwyaid sydd wedi'u heintio â'r feirws yn y ddinas dan sylw. Ochr yn ochr â'n cydweithwyr mewn adrannau iechyd eraill, bydd fy swyddogion a minnau'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos.