Skip to content

Y Cytundeb Deintyddol Newydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yr ydym wedi treulio cryn dipyn o amser yn y Cyfarfod Llawn ac mewn cyfarfodydd pwyllgorau yn trafod deintyddiaeth y GIG. Fis nesaf bydd y rhan fwyaf o’r ddadl honno yn cyrraedd uchafbwynt yn sgîl cyflwyno’r contract deintyddol newydd yng Nghymru. Rhydd y newidiadau a gyflwynir ddechrau newydd i ddeintyddion a chleifion. Drwy sefydlu contract deintyddol newydd byddwn yn rhoi’r gorau i’r system bresennol o dalu am wasanaethau deintyddol cyffredinol fesul eitem, ac yn newid i daliad blynyddol nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgarwch deintydd mwyach.

Mae deintyddiaeth y GIG yn rhoi’r gorau i ymagwedd gyffredinol ac yn symud tuag at wasanaeth hyblyg, o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion cleifion, gyda gofal therapiwtig rhagweledol, ataliol ac adweithiol. Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol ar gyfnodau ail-alw yn ategu’r penderfyniad i roi’r gorau i wasanaeth sy’n seiliedig ar eitemau rheolaidd o wasanaeth i un â llai o ymyriadau, sy’n rhyddhau amser ar gyfer ymagwedd fwy ataliol.

Un o nodau canolog y broses ddiwygio yw sicrhau y gall mwy o bobl fanteisio ar wasanaeth deintyddol y GIG, a chaiff adnoddau ychwanegol sylweddol eu buddsoddi yn neintyddiaeth y GIG o 2006-07. Mae’r system gomisiynu newydd yn golygu os bydd deintydd yn gadael practis, bydd yr adnoddau ar gyfer ei gontract ef neu ei chontract hi yn dychwelyd i’r bwrdd iechyd lleol. Bydd hyn yn rhoi adnoddau pendant i Fyrddau Iechyd Lleol ac ni fydd penderfyniad deintydd unigol yn effeithio arnynt.

Mae’r system ad-dalu bresennol yn dyrannu adnoddau’n fympwyol yn ôl lleoliad ac ymrwymiad ymarferwyr cyffredinol ac ymarferwyr deintyddol, nid anghenion iechyd y geg lleol. Mae hyn wedi arwain at ddyrannu adnoddau a darparu gwasanaethau mewn modd anghyfartal. Bydd cyfrifoldeb newydd BILl am wasanaethau deintyddol lleol yn caniatáu iddynt gomisiynu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion iechyd y geg lleol a phenodol. Bydd faint o gleifion a all gofrestru yn dibynnu ar y contract rhwng y bwrdd iechyd lleol a’r deintydd.

Ychydig o dan flwyddyn yn ôl, bu imi gymeradwyo cyflwyno gwasanaethau deintyddol personol ledled Cymru. Yr oedd y rhain yn seiliedig ar ffyrdd newydd o weithio ac maent wedi bod yn boblogaidd gyda deintyddion a chleifion fel ei gilydd. Mae bron i 50 y cant o ddeintyddion wedi penderfynu newid i gynlluniau peilot PDS cyn i’r contract newydd gael ei gyflwyno a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio yn gynnar. Mae hynny nid yn unig yn galluogi deintyddion i fwynhau incwm gwarantedig ac yn rhoi cyfle iddynt gynllunio gwasanaethau a rhoi’r gorau i’r system eitem o wasanaeth, ond mae wedi galluogi 193,000 o gleifion newydd ledled Cymru i gofrestru gyda deintydd. Mae hyn yn stori lwyddiant.

Drwy bractisau deintyddol sy’n bodoli eisoes sydd wedi ymrwymo’n hirdymor i’r GIG y llwyddodd y mwyafrif helaeth o bobl i gofrestru. Dengys holl dystiolaeth cynlluniau peilot PDS fod rhoi’r gorau i’r system o dalu am eitem o wasanaeth yn golygu bod deintyddion yn rhoi triniaeth symlach i gleifion, gyda 30 y cant yn llai o eitemau o wasanaeth ar gyfartaledd o fewn un cwrs o driniaeth, sy’n caniatáu mwy o amser i wneud gwaith ataliol. Yn awr yr ydym am sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar feysydd nad ydynt wedi elwa i’r graddau y mae eraill wedi gwneud yn sgîl y ffaith bod mwy o gleifion yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth drwy gynlluniau peilot PDS.

Ymddengys fod rhywfaint o gamddealltwriaeth wedi bod ynghylch beth fydd yn digwydd i’r cynlluniau PDS ar ôl 1 Ebrill, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i egluro’r trefniadau. Bydd deintyddion sy’n rhan o gynlluniau PDS yn cael dewis contract GDS newydd neu gytundeb PDS parhaol. Os byddant yn dewis y cytundeb PDS, bydd eu cynllun peilot PDS presennol yn ffurfio sylfaen y contract, ond bydd angen ei ddiwygio er mwyn ystyried y ffyrdd newydd o fonitro ymrwymiad deintyddion, drwy newid i gyrsiau o driniaeth wedi’u pwysoli, gan adlewyrchu eu gwaith hanesyddol yn ystod y cyfnod prawf. Yn sicr, ni fwriedir ail-lunio’r cynlluniau peilot PDS—gan gynnwys y trefniadau ariannol—ond ymdrin â’r gwahaniaethau rhwng darpariaethau trosiannol ar gyfer deintyddion GDS a chynlluniau peilot PDS yn unig: mewn geiriau eraill, y ffyrdd newydd o fonitro’r system a’r system newydd o godi tâl ar gleifion. Gall deintyddion â threfniadau peilot PDS benderfynu pa fath o gontract yr hoffent, ond ni fydd rhaid iddynt newid y math o wasanaethau a ddarperir ganddynt.

Yn anochel, mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd mawr i rai ym maes deintyddiaeth. Mae’r diwygiadau yr ydym yn eu gweithredu yn hanfodol a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r proffesiwn yng Nghymru—fel yr ydym wedi ceisio ei wneud wrth lunio manylion y contract—er mwyn sicrhau bod y diwygiadau yn sicrhau’r manteision bwriadedig. Byddwn hefyd yn rhan o grwp gweithredu Cymru a Lloegr, a sefydlir gan yr Adran Iechyd ar hyn o bryd, a byddwn yn edrych i weld pa fesurau eraill sydd eu hangen er mwyn cynorthwyo’r proffesiwn a BILl yn lleol.

Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ynghylch ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddeintyddiaeth y GIG, ac i wasanaeth deintyddol modern ac ymatebol ledled Cymru.