Skip to content

Cytundeb Cyflog Addysg Uwch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Minister For Education Lifelong Learning And Skills
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn croesawu'r newyddion a gyhoeddwyd neithiwr [6 Mehefin] fod yr undebau llafur sy'n cynrychioli staff prifysgol a chyflogwyr prifysgol wedi dod i gytundeb ar gyflogau'r sector addysg uwch.  Mae'n hynod galonogol y bydd Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU), sydd newydd ei ffurfio, yn cynnal pleidlais ymysg ei aelodau ar y cynnig cyflog newydd, ac o safbwynt y myfyrwyr yn arbennig, mae'n arwyddocaol iawn fod aelodau'r UCU wedi rhoi'r gorau i'w gweithredu diwydiannol.

Er bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parchu annibyniaeth sefydliadau AB, rydym wedi bod yn dra phryderus y dylid datrys yr anghydfod hwn ar yr adeg dyngedfennol hon o'r flwyddyn academaidd. Gan gadw hyn mewn cof rwyf wedi cynnal cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr Addysg Uwch Cymru; yr Undeb Prifysgolion a Cholegau sydd newydd ei sefydlu; ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn ystod y pythefnos diwethaf.   Yn ystod y cyfarfodydd hyn rwyf wedi nodi'n ofalus safbwyntiau pob ochr ac wedi tanlinellu'r pwysigrwydd a roddais i amddiffyn buddiannau myfyrwyr.

Rwy'n deall bod y cytundeb cyflog sy'n cael ei gynnig i aelodau UCU yn adlewyrchu cynnydd o 10.37% yn lefelau cyflog dros 22 mis, o fis Awst 2006, yn ogystal ag isafswm o 2.5% yn y drydedd flwyddyn yn dilyn y setliad.   Cafwyd hefyd gytundeb y cynhelir adolygiad annibynnol o'r cyllid sydd ar gael yn y sector AB a bydd adroddiad am hyn yn nhymor yr hydref 2008.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi croeso cynnes i'r datblygiad diweddaraf hwn.