Skip to content

Gweithgarwch Llywodraeth Cynulliad Cymru Gydag Uwchfarchnadoedd I Hyrwyddo Nwyddau Lleol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog Dros Yr Amgylchedd, Cyllunio A Chefn Gwlad

Drwy'r Is-adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, mae Llywodraeth y Cynulliad mewn cysylltiad agos a rhagweithiol ag Uwchfarchnadoedd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae'r prif uwchfarchnadoedd mewn sefyllfa gref ac yn gyfrifol am 78% o'r farchnad fwyd ac maent yn sianel bwysig i gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.

Lluniwyd y Rhaglen Datblygu Manwerthwyr i ddiwallu anghenion uwchfarchnadoedd i'w galluogi i ddod o hyd i gyflenwyr lleol newydd ac i drefnu digwyddiadau ar gyfer cwrdd â'r prynwyr.

Cynhaliwyd adolygiad llawn o'r nwyddau bwyd lleol a restrir yn uwchfarchnadoedd Cymru. Bydd Morrisons yn lansio amrediad newydd o 22 o nwyddau oer Cymreig yn ystod yr ychydig wythnosau newydd o ganlyniad i'r gweithgarwch hwn. Mae Tesco wedi cyhoeddi y bydd yn ymrwymo i gael mwy o nwyddau lleol ac mae cysylltiad wedi'i wneud i ddatblygu hyn. Gwnaed trefniadau i adolygu nwyddau Cymreig gydag ASDA ym mis Tachwedd ac mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd gyda Waitrose, Sainsbury a Somerfield.

Lluniwyd y Rhaglen Datblygu Cyflenwyr i weithio gyda chynhyrchwyr bwyd i'w galluogi i ddatblygu ei sgiliau a'u capasiti i gystadlu ac i sicrhau sianelau eraill i'w marchnata.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfres o seminarau o dan ofal Mynd ar Dwf, a mentora a chymorth un i un drwy'r rhaglen Gwir Farchnata. Yn 2005 roedd 50 o gynhyrchwyr bwyd wedi cymryd rhan yn y rhaglen.

Cynhyrchodd y gweithgarwch Datblygu Marchnad £5,700,000 mewn cyfleoedd busnes yn ystod 2005-06, gan greu 118 o swyddi yn ogystal â diogelu 532 arall.

Mae Gwobrwyon Gwir Flas a rhaglen cyllid grant yr Wyl Fwyd yn codi ymwybyddiaeth ymysg y defnyddwyr o'r nwyddau lleol sydd ar gael.

Hydref 6, 2006