Skip to content

Uno Bwrdd yr Iaith Gymraeg â Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch manylion uno Bwrdd yr Iaith Gymraeg â Llywodraeth y Cynulliad. Trafodwyd y manylion mewn pump cyfarfod cyhoeddus a derbyniwyd mwy na 200 o ymatebion ysgrifenedig. Rydym wedi gwrando ar sylwadau pobl ac wedi ystyried yr ymatebion ysgrifenedig yn ofalus. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu uno’r Bwrdd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydlu swydd statudol Dyfarnydd drwy un set o newidiadau deddfwriaethol yn hytrach na dwy. Rydym yn bwriadu defnyddio darpariaethau Mesur Llywodraeth Cymru i wneud hyn.

Yr egwyddor sy’n ein llywio o ran trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yw sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir i ddinasyddion Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cynnal a’u gwella. Mae’n bwysig bod y trefniadau sy’n ymwneud â chynlluniau iaith yn glir ac yn hawdd i’r cyhoedd eu deall a’u defnyddio. Rydym o’r farn mai dyna’n union y mae penderfyniad heddiw yn ei sicrhau.

Mae cynnig Llywodraeth y Cynulliad ar Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a’r Cynllun Iaith Gymraeg 2005-06 yn ailddatgan ein hymrwymiad fel Llywodraeth i helpu i greu Cymru ddwyieithog.