Skip to content

Y brechlyn rhag y ffliw ar gyfer tymor y gaeaf 2006/07

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons,Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae cynhyrchwyr y brechlyn wedi rhoi gwybod i lywodraethau'r DU eu bod yn cael problemau wrth dyfu un o'r mathau o firysau y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylid ei gynnwys yn y brechlyn rhag y ffliw ar gyfer eleni.  Cafodd Practisau Meddygon Teulu wybod ym mis Gorffennaf 2006 (Cylchlythyr Iechyd Cymru (2006) 047 dyddiedig 17 Gorffennaf 2006) y byddai peth oedi'n bosibl wrth gyflenwi'r brechlynnau yr oeddent wedi'u harchebu.  

Gwelwyd bod un o'r mathau o firysau sydd yn y brechlyn, sef H3N2, yn tyfu'n araf yn y meithriniadau cychwynnol. Dyna oedd wrth wraidd yr oedi, a bu'n rhaid ailddechrau'r broses gan ddefnyddio firws newydd. Mae'n cymryd tua 10 mis i gyd i gynhyrchu brechlyn, felly, mae unrhyw oedi o'r math hwn yn rhwym o effeithio ar y broses ar ei hyd.

Yn ddiweddar, cadarnhaodd y cynhyrchwyr y byddai oedi wrth gynhyrchu'r brechlyn, ond maent wedi rhoi sicrwydd i ni y byddant yn gallu cyflenwi'r holl archebion ac y byddant yn cysylltu â phractisau meddygon teulu i gadarnhau pryd y byddant yn dosbarthu'r brechlyn. Ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol at y practisau ar 27 Medi yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.

Ym mis Gorffennaf, cynghorwyd meddygon teulu drwy Gylchlythyr Iechyd Cymru y dylent roi blaenoriaeth, wrth gynllunio, i'r poblogaethau hynny a oedd "mewn perygl". Serch hynny, gan fod y cynhyrchwyr wedi cadarnhau’n ddiweddar y byddant yn gallu cyflenwi pob archeb, bydd modd rhoi'r brechlyn eleni i bawb sy'n arfer cael eu brechu rhag y ffliw e.e. gweithwyr gofal iechyd a gofalwyr.