Skip to content

Brand Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog

Mae'r broses o uno'r CCNCau â'r adrannau perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfle inni symleiddio'r amrywiaeth o frandiau a hunaniaethau sydd wedi cael eu defnyddio hyd yma ar draws y llywodraeth.  O 1 Ebrill ymlaen bydd yr holl swyddogaethau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol amdanynt yn gweithredu o dan frand Llywodraeth y Cynulliad, fel sy'n briodol o safbwynt rhesymegol.
Mae'r canllawiau'n dal i ganiatáu defnyddio gwahanol frandiau'n effeithiol pan fo angen, megis ar gyfer ymgyrchoedd ac amgylchiadau lle mae'r Llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.                                                                               Nid yw'r WDA, Bwrdd Croeso Cymru, ELWa nac ACCAC bellach yn bodoli o safbwynt cyfreithiol na gweinyddiaethol, ac o ganlyniad mae eu brandiau wedi cael eu diddymu.
Mae'r gwaith o hyrwyddo Cymru i’r byd yn bwysig, ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn gweithio hefyd ar y broses o greu brand newydd i Gymru er mwyn hyrwyddo Cymru dramor mewn dull mwy cydlynol. Bydd hyn hefyd yn sefydlu delwedd gyson o Gymru a fydd yn annog y byd i brynu'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae'n frand sy'n berthnasol i'r rheini sy'n hyrwyddo Cymru i dwristiaid ac i'r rheini sy'n hyrwyddo Cymru fel partner busnes neu fel lle i astudio.  Bydd y brand newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno dros y misoedd nesaf, ynghyd â dau amrywiad ar gyfer twristiaeth a masnach/buddsoddi.