Skip to content

Diogelwch Y Terfynellau LNG yn Aberdaugleddau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economiadd a Thrafnidiaeth

GOFYNION DIOGELWCH LNG

Gallai prosiectau LNG South Hook (ExxonMobil) a Dragon (Petroplus) yn Aberdaugleddau gyflenwi 30% o holl anghenion nwy y DU.  Mae'r cyfleusterau presennol yn nyfrffordd Aberdaugleddau yn safleoedd delfrydol ar gyfer dod â'r sylweddau i fewn i'r DU.

Y prif ddarn o ddeddfwriaeth diogelwch sy'n ymwneud â safleoedd LNG yw Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 (COMAH). Diben y Rheoliadau hyn yw atal damweiniau mawr sy'n ymwneud â sylweddau peryglus, a lleihau goblygiadau unrhyw ddamwain i bobl a'r amgylchedd. Yng Nghymru (a Lloegr) mae'r rheoliadau COMAH yn cael eu gorfodi ar y cyd gan Awdurdod Cymwys sy'n cynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn achos safleoedd LNG, yr HSE yw'r awdurdod arweiniol.

Mae'r HSE wedi asesu risgiau storio LNG yn Aberdaugleddau, ac wedi llunio adroddiad diogelwch cyn adeiladu'r safleoedd er mwyn sicrhau bod materion diogelwch yn cael eu hystyried yn llawn yn ystod y camau dylunio. Bydd angen adroddiad arall, yr adroddiad diogelwch cyn gweithredu, er mwyn sicrhau bod y gweithredydd wedi cymryd pob cam angenrheidiol i atal damweiniau mawr ac i leihau'r goblygiadau i bobl ac i'r amgylchedd. Os yw'r Awdurdod Cymwys o'r farn bod tystiolaeth o wendidau difrifol yn unrhyw un o'r mesurau a gymerwyd neu a gynigiwyd, bydd yn gwahardd yr elfen honno o'r gwaith rhag mynd yn ei blaen.

Bydd yr Awdurdod Cymwys yn cynnal ymweliadau archwilio yn ystod y gwaith adeiladu er mwyn sicrhau y glynir at y safonau derbyniol. O dan ddarpariaethau COMAH, mae hefyd yn rhaid i derfynellau LNG lunio cynllun argyfwng ar y safle cyn bod y gwaith yn dechrau yno. Rhaid rhannu'r cynllun hwn â'r awdurdod lleol er mwyn eu cynorthwyo hwythau i lunio cynllun argyfwng oddi ar y safle.

 
PRYDERON YN DILYN FFRWYDRIAD BUNCEFIELD

Mae'r HSE yn parhau â'i ymchwiliadau. Mae'n rhy gynnar i ddechrau ceisio rhoi bys ar achos y ffrwydriad, ond bydd casgliadau'r HSE yn cael eu cyhoeddi i'r diwydiant a'r cyhoedd maes o law. Wrth gwrs, byddant hefyd yn helpu i atal digwyddiad o'r fath rhag digwydd yn unrhyw safle arall.


Tanciau LNG

Dywed yr HSE fod y tanciau storio tanwydd ac olew yn Buncefield wedi'u gwneud o un haen o ddur, a'u bod wedi'u dylunio i storio sylweddau dan bwysau isel ar dymhereddau arferol. Mae tanciau LNG ar gynllun cwbl wahanol.  Maent yn danciau cynhwysydd llawn, wedi'u dylunio i safonau BS7777 neu AP1620, sef y safonau mwyaf llym.  Rhaid i safleoedd fodloni'r safonau Ewropeaidd ar gyfer storio LNG ar y tir, sef safon BSEN1473.

Mae'r tanciau hyn yn cynnwys prif gynhwysydd a wnaed o ddur sy'n cynnwys 9% nicel.  Ceir haen insiwleiddio o amgylch hwn, a leinin o ddur carbon ar ben hwnnw. Ar y tu allan ceir ail gynhwysydd a wnaed o haen o goncrid.  Dyluniwyd y tanciau hyn i amddiffyn yn erbyn gwrthdrawiad, gwres o'r tu allan ac oerfel o'r tu fewn.



Ymateb y Gwasanaeth Tân

Mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi profi ac ailbrofi'r cynlluniau rheoli risg, gan eu hadolygu a'u mireinio dro ar ôl tro. Maent ar hyn o bryd yn cynnal proses fewnol o adolygu eu cynlluniau risg er mwyn ystyried y canfyddiadau cynnar sy'n deillio o'r digwyddiad yn Buncefield.  Mae'r Prif Swyddog Tân a thîm bychan wedi ymweld â Buncefield er mwyn sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth am y digwyddiad o lygad y ffynnon.  Pan y caiff y canfyddiadau ffurfiol eu cyhoeddi, bydd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn edrych arnynt yn fanwl a, lle bo angen hynny, yn eu defnyddio i wneud rhagor o addasiadau i'w cynllun rheoli risgiau.