Skip to content

Penodiadau Grŵp Cynghori'r Gweinidog a`r Panel Cynghori ar Dwristiaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Grŵp Cynghori'r Gweinidog

Cadeirir y grŵp gan Richard Parry-Jones, Is-lywydd Cwmni Moduro Ford. Crëwyd y Grŵp Cynghori er mwyn rhoi cyngor allanol annibynnol ar bolisïau economaidd a thrafnidiaeth i Lywodraeth y Cynulliad.

Bydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn defnyddio ystod eang o brofiad ac arbenigedd ei aelodau i gynghori'r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ar lunio polisïau newydd, craffu ar eu cyflawniad a gwerthuso eu heffeithiolrwydd.

Mae Cadeirydd presennol Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, Valerie Barrett, yr Athro Emeritws Garel Rhys, cadeirydd y Panel Cynghori Ymchwil Economaidd, a Chadeirydd y Panel Cynghori ar Dwristiaeth, Keith Brooks, yn aelodau yn rhinwedd eu swyddi.

Bydd y Grŵp Cynghori yn rhoi cyngor allanol ar ddatblygu polisi ac yn chwarae rôl allweddol wrth herio, llywio a llunio polisïau, cynlluniau a darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Richard Parry-Jones, Cadeirydd y Grŵp, yw Is-Lywydd Grŵp Ford ac mae'n arweinydd busnes byd enwog gyda 37 mlynedd o brofiad ym maes peirianneg, gweithgynhyrchu a rheoli ar lefel uwch reolwr. Mae'r swydd yn rhan amser a bydd yn parhau yn ei rôl bresennol yng Nghwmni Moduro Ford.

Ganwyd Mr Parry-Jones ym Mangor, ac yn 2005 dyfarnwyd CBE iddo am wasanaethau i'r diwydiant moduron.  Ef yw'r Prif Swyddog Technegol yng Nghwmni Moduron Ford ym Michigan, yn gyfrifol am yr holl faterion ymchwil a datblygu byd-eang. Dyfarnwyd y wobr 'Dyn y Flwyddyn' iddo gan y cylchgrawn Autocar yn 1994 am ei lwyddiant wrth drawsnewid cynnyrch Ford, ac mae'n un o Gymrodorion yr Academi Beirianneg Frenhinol, Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, a'r Gymdeithas Ystadegau Frenhinol.

Mae Dai Davies yn entrepreneur sydd â phrofiad busnes rhyngwladol. Fe'i ganed yng Nghaerfyrddin, ac mae'n un o aelodau bwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn un o Lywodraethwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ogystal, ef yw cyn-gadeirydd Grŵp Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chwaraeodd ran hanfodol wrth sefydlu Both Diwydiannau Creadigol Cymru a'r Gronfa Eiddo Deallusol gysylltiedig.
Margaret Llewellyn, cyn Gymraes y Flwyddyn, yw Rheolwr Gyfarwyddwr Swansea Container Terminal ccc, cwmni a berchnogir yn breifat a chyfleuster pennau rheilffyrdd rhyngwladol. Dyfarnwyd OBE iddi am wasanaethau i ddatblygu economaidd yng Nghymru, ac mae ganddi dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ym maes trafnidiaeth, yn cynnwys amser fel perchennog llongau, gweithredwr cludo ar y ffyrdd a pherchennog wagenni rheilffyrdd preifat. Un o sefydlwyr International Shipping and Trading Association i ferched, a Chadeirydd Porthladd Dover, mae Ms Llewellyn yn asesydd annibynnol ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr ac yn aelod o Fforwm Emily Davies, Coleg Girton Caergrawnt.

Mae'r Athro Robin Williams CBE, yn Athro Ymchwil yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Yn un o Gymrodorion y Gymdeithas Frenhinol, chwaraeodd ran fawr wrth gysylltu addysg uwch â datblygiad economi Cymru. Gweithiodd yr Athro Williams yn agos ag Awdurdod Datblygu Cymru gynt wrth sefydlu llwybrau i'r economi gael budd o ymchwil ac addysgu, er enghraifft, drwy rwydwaith Technium. Cyn ei benodiad presennol treuliodd cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe ddeng mlynedd fel y Pennaeth Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Yn ogystal, roedd yn aelod o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn eistedd ar grwpiau gorchwyl amrywiol, a Phwyllgor Monitro Rhaglen Amcan Un.

Mae Martin Mansfield yn Swyddog Rhanbarthol gyda'r undeb llafur Amicus, yn cynrychioli aelodau mewn diwydiannau gweithgynhyrchu a chyllid yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae'n gyfrifol am ddatblygu polisi economaidd yr Undeb i Gymru ac am ymateb i ymgynghoriadau'r Cynulliad ar ddatblygu economaidd, trafnidiaeth a sgiliau. Mae Mr Mansfield yn un o gyn-gyfarwyddwyr ymchwil TUC Cymru ac yn gyn-Gynghorydd Arbenigol ar Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth i Lywodraeth y Cynulliad.  Mae'n aelod o Grŵp Rhaglenni Gweithredol Cronfeydd Strwythurol Ôl-2006, ac yn gyn-aelod o Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru, a'r Grŵp Sgiliau Sector Gwyddoniaeth, Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Thechnoleg.

Dr Janet Wademan yw Rheolwr Gyfarwyddwr Van Helsing Limited, cwmni sy'n defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i wneud sefydliadau'n fwy craff. Mae hyn yn cynnwys ffurfio grwpiau deinamig, hunangynhaliol o fewn sefydliadau mawr ar gyfer creu gwybodaeth gorfforaethol, ei lledaenu a'i defnyddio.  Mae Dr Wademan yn arbenigwr cydnabyddedig mewn e-waith a gofynnir iddi annerch cynadleddau ledled Ewrop ar y maes arbenigol hwn sy'n datblygu'n gyflym. Yn ogystal, mae'n Athro Gwadd yn Ysgol Gyfrifiaduron, Prifysgol Morgannwg

David Brown yw Rheolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd. Mae'n Economegydd a chanddo ddiddordeb mawr mewn marchnadoedd, tueddiadau byd-eang a llwyddiant economi Cymru, ac mae'n ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth.  Ef yw Is-gadeirydd Cyd-ffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, cymdeithas cwmnïau bysiau, ac ef yw cynrychiolydd Cymru ar Grŵp Trafnidiaeth Siambr Fasnach Prydain, Cyfarwyddwr Traveline Cymru, ac un o aelodau gweithredol ALBUM - Cymdeithas Cwmnïau Bysiau Annibynnol y DU.

Valerie Barrett yw'r Rheolwr Cyllid gyda Remploy Furniture ym Mhort Talbot. Yn flaenorol, hi oedd Cyfarwyddwr Cyllid Senior Flexonics ym Merthyr Tudful, ac mae ganddi un mlynedd ar bymtheg o brofiad yn gweithio yn y sector modurol a gweithgynhyrchu.  Mae Mrs Barrett wedi cymhwyso fel cyfrifydd ac mae ganddi brofiad eang mewn cwmnïau gweithgynhyrchu o feintiau amrywiol yn y DU ac Ewrop. Mae'n archwilydd ariannol a gweithredol profiadol. Mae wedi'i haddysgu mewn sawl iaith yn cynnwys Saesneg, Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg.

Yr Athro Emeritws Garel Rhys OBE yw cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Diwydiant Modurol, a'r cyn-Bennaeth Economeg yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.  Yn ogystal, mae'n Gadeirydd Fforwm Modurol Cymru; yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; Llywydd Sefydliad y Diwydiant Modurol; cynghorydd a chyn-Aelod Bwrdd Awdurdod Datblygu Cymru a Chyfarwyddwr Anweithredol Howle Holdings PLC ac ORB Communications. Yn ogystal, bu'r Athro Rhys yn gynghorydd i Bwyllgor Dethol Masnach a Diwydiant yn Nhŷ'r Cyffredin a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Yn ogystal, mae'n aelod o Bwyllgor Cynghori Mynegai Prisiau Manwerthu Trysorlys EM, yn gynghorydd i UNIDO; yn aelod o Banel Cystadleurwydd Diwydiant Modurol yr Adran Masnach a Diwydiant ac yn aelod o Ford Gron y DETR ar ddatblygu cynaliadwy.

Keith Brooks oedd Prif Weithredwr TBI ccc am 11 mlynedd hyd nes y'i prynwyd yn 2005. Mae TBI yn grŵp meysydd awyr rhyngwladol sy'n berchen ar feysydd awyr ac yn eu gweithredu ar 4 cyfandir yn cynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.  Mae Mr Brooks, cyn-bartner gyda Price Waterhouse, yn parhau'n un o gyfarwyddwyr y TBI mewn rhinwedd anweithredol. Yn ogystal, ef yw Cadeirydd y Panel Cynghori ar Dwristiaeth sydd newydd ei sefydlu a bydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar Fwrdd Visit Britain, a adwaenwyd yn flaenorol fel Awdurdod Twristiaeth Prydain.


Y Panel Cynghori ar Dwristiaeth

Penodwyd chwe pherson gyda phrofiad eang o'r diwydiant twristiaeth ar gyfer Panel Cynghori ar Dwristiaeth Llywodraeth y Cynulliad a sefydlwyd yn ddiweddar.
Eu rôl fydd rhoi cyngor annibynnol, strategol i'r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ar ddatblygu polisïau a chynlluniau twristiaeth a darparu gwasanaethau. Byddant yn cymhwyso eu profiad a'u harbenigedd cyfunol i herio ffyrdd o feddwl ar bolisïau a blaenoriaethau, nodi cyfleoedd newydd ar gyfer datblygiadau arloesol a monitro effeithiolrwydd y rhaglenni twristiaeth presennol.

Keith Brooks fydd cadeirydd y Panel Cynghori.  Mr Brooks oedd Prif Weithredwr TBI ccc am 11 mlynedd hyd nes y'i prynwyd yn 2005. Mae TBI yn grŵp meysydd awyr rhyngwladol sy'n berchen ar feysydd awyr ac yn eu gweithredu ar 4 cyfandir yn cynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.  Mae Mr Brooks yn parhau'n un o gyfarwyddwyr y TBI mewn rhinwedd anweithredol.  Cyn ei waith gyda TBI, roedd Mr Brooks yn bartner gyda Price Waterhouse yng Nghaerdydd a Llundain. Bydd Mr Brooks hefyd yn cynrychioli Cymru ar Fwrdd Visit Britain.

Dyma aelodau eraill y Panel Cynghori ar Dwristiaeth:
Julian Burrell. Uwch Bartner Wales Holidays, sef asiantaeth farchnata a llogi sy'n gosod dros 550 o eiddo hunan-ddarpar ledled Cymru.  Mae Mr Burrell yn un o Gyfarwyddwyr Tourism Quality Services, cwmni a ddynodwyd gan y Senedd i weithredu'r Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur yn y DU. Mae hefyd yn un o Gyfarwyddwyr Imaginet Cyf - cwmni sy'n arbenigo mewn marchnata ar y rhyngrwyd a darparu gwybodaeth.  Mr Burrell yw Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, corff cynrychioliadol Diwydiant Twristiaeth Cymru.

Mae Pete Bursnall yn Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored tra phrofiadol sy'n un o Gyfarwyddwyr Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, ac Eryri Bywiol, partneriaeth o fusnesau a gweithwyr sydd â'r nod o hyrwyddo a datblygu'r farchnad gweithgareddau awyr agored fel un o sectorau deinamig a chynaliadwy diwydiant twristiaeth Cymru.
Ieuan Evans MBE, cyn-chwaraewr Rygbi Rhyngwladol, a enillodd 72 o gapiau dros Gymru - 28 o'r rheini fel Capten.  Yn ogystal, mae gyrfa Mr Evans yn cynnwys profiad helaeth ym maes Marchnata a chyfathrebu.  Ar hyn o bryd ef yw Cyfarwyddwr ei gwmni Marchnata a Chyfathrebu ei hun, ac roedd Mr Evans hefyd yn aelod o Fwrdd Croeso Cymru (y Bwrdd Croeso) am bedair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ef oedd Is-gadeirydd Bwrdd arbenigol Marchnata a Chyfathrebu'r Bwrdd Croeso.

Mae gan Elizabeth Jeffreys 25 mlynedd o brofiad ar lefel uwch reolwyr mewn sefydliadau twristiaeth. Tan ei hymddeoliad yn 2004, hi oedd Prif Weithredwr Jersey Tourism, yn ymdrin ag ystod eang o ofynion o farchnata i ddatblygu cynnyrch a rheoli ansawdd.  Mae Mrs Jeffreys, sy'n hanu o Gymru, wedi dychwelyd i Gymru ac ar hyn o bryd mae'n un o Gyfarwyddwyr Gŵyl Jazz Ryngwladol Aberhonddu HSBC ac yn Aelod gweithredol o Brifysgol Trydydd Oes Aberhonddu (U3A).

Mae Kevin Jones wedi rhedeg Tŷ Aberconwy, Gwesty ym Metws-y-Coed, am naw mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw cododd y safon ansawdd o ddwy seren i bedair seren. Ymhlith cymwysterau twristiaeth Mr Jones mae sefydlu Cymdeithas Twristiaeth Betws-y-Coed a'r Cylch yn 1998, aelodaeth o Fwrdd Twristiaeth Gogledd Cymru a hyrwyddo'r defnydd o e-fasnach yn y Diwydiant Twristiaeth drwy ei gwmni Aberconwy Websolutions Cyf, a'r Gymdeithas Twristiaeth.  I gydnabod ei waith, enillodd Mr Jones y Wobr "Gwneud i TG Weithio ar gyfer Twristiaeth" gan Fwrdd Croeso Cymru yn 2002 a chategori e-fasnach Gwobrau Busnes Cymru yn 2005.

Bydd y penodiadau am gyfnod o dair blynedd, ac ar ôl hynny adolygir rôl y Panel a pherfformiad ei Aelodau. Mae'n debygol y bydd yr ymrwymiad amser sydd ei angen gan yr Aelodau yn amrywio yn dibynnu ar y materion i'w trafod - ond disgwylir i bob Panel gyfarfod o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.Cynhaliwyd y weithdrefn benodi ar gyfer Grŵp Cynghori'r Gweinidog a'r Panel Cynghori ar Dwristiaeth yn unol â chanllawiau a nodwyd gan god ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol a chan Swyddfa Cyngor Penodiadau Cyhoeddus.

Cafodd aelodau'r Grŵp Cynghori a'r Panel Cynghori ar Dwristiaeth eu cyfweld a'u dewis gan banel o uwch weision sifil ac asesydd annibynnol. Ardystiais eu hargymhellion a chadarnhawyd y weithdrefn ddethol a'r penodiadau gan gynrychiolwyr penodedig Pwyllgor Pwnc Menter, Arloesi a Rhwydweithiau, sef y Cadeirydd, Christine Gwyther a Janet Davies.