Skip to content

Ymweliad â Lesotho

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Ar ôl ymweliad yr Anrhydeddus Mohlabi Kenneth Tsekoa, y Gweinidog dros Addysg a Hyfforddiant, Teyrnas Lesotho, â Chymru yn ddiweddar, cefais wahoddiad i ymweld â Lesotho, a bûm yno rhwng 10 – 12 Ebrill 2006. Euthum gyda fy ysgrifennydd preifat a swyddog o'r Is-adran Ymarferwyr, yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Diben yr ymweliad oedd:

  • gweld sut roedd y rhaglen lleoliadau i athrawon yn gweithredu ar lawr gwlad;
  • rhoi safbwynt annibynnol ar y cynllun a gweld sut yr oedd yn cael ei weithredu gan Dolen Cymru;
  • gweld pa effaith a gâi'r profiad ar yr athrawon, o ran eu datblygiad proffesiynol parhaus ac effaith yr athrawon ar yr ysgolion a'r cymunedau lle roeddent yn gweithio;
  • ystyried a oedd y rhaglen o fudd penodol i athrawon newydd gymhwyso;
  • gweld a oedd y rhaglen yn gwella ymwybyddiaeth athrawon o'r problemau a wynebir gan gymunedau mewn gwledydd sy'n datblygu ac felly eu gallu i ddysgu dinasyddiaeth fyd-eang mewn ffordd arloesol mewn ysgolion yng Nghymru;
  • codi proffil y cynllun newydd i annog mwy o athrawon o Gymru i ystyried ymweld â Lesotho yn y dyfodol;
  • helpu i ganfod a oes angen mireinio'r rhaglen beilot dair blynedd a/neu addasu'r cynllun o bosibl yn y dyfodol;  
  • fy ngalluogi i benderfynu ar y ffordd orau y gallai'r Cynulliad roi rhagor o gymorth ymarferol;
  • datblygu cysylltiadau rhwng ysgolion, colegau a phrifysgolion yn y ddwy wlad er budd pawb;
  • gweld fy hun effeithiau pandemig HIV/AIDS ar athrawon ac effaith newyn ar addysg i bawb
  • datblygu cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica Islaw'r Sahara o ran datblygu cynaliadwy.

Oherwydd amserau'r hediad a olygai fod yn rhaid treulio diwrnod yn Johannesburg cyn y cysylltiad nesaf â Lesotho, gwnaed trefniadau i mi gyfarfod â'r Cyngor Prydeinig yn Ne Affrica ar 9 Ebrill i archwilio'r gwaith yr oedd yn ei wneud ym maes addysg yn yr ardal honno.

Cynhaliodd y Cyngor Prydeinig ginio yn Soweto, lle roeddem yn gallu trafod manylion gweithgareddau'r Cyngor gyda Shoba Pannapa a oedd newydd gael ei benodi'n Gyfarwyddwr ac amlinellodd Andrew Templeton, y Rheolwr Addysg, Cyngor Prydeinig Cymru a minnau ddiben fy ymweliad â Lesotho.  

Eglurodd y Cyfarwyddwr mai diben y Cyngor Prydeinig, a oedd yn gweithio mewn meysydd megis addysg, arholiadau, chwaraeon, gwyddoniaeth, y celfyddydau, llywodraeth a chymdeithas, oedd meithrin cydberthnasau rhwng y DU a De Affrica a fyddai'n fuddiol i'r naill a'r llall a helpu pobl i werthfawrogi syniadau a chyflawniadau’r DU ac ennyn eu diddordeb ynddynt.  Roedd ei waith drwy'r holl raglenni a meysydd gweithgarwch yn y rhanbarth wedi'i lywio gan dair thema strategol, sef:

  • Datblygiad proffesiynol a phersonol pobl ifanc De Affrica mewn perthynas â'r DU fel gwlad sy'n bodloni uchelgeisiau personol a phroffesiynol
  • Ehangu gorwelion rhyngwladol pobl ifanc De Affrica drwy wybodaeth gyfoes am y DU a phrofiad o'r DU sy'n eu galluogi i gydnabod syniadau a chyflawniadau creadigol y DU.
  • Ennyn ymddiriedaeth yn sefydliadau a phobl y DU drwy gydberthnasau uniongyrchol rhwng pobl, gan eu galluogi i gydnabod y DU fel partner gwerthfawr i weddnewid cymdeithas.

Er i'r Cyngor Prydeinig gau ei swyddfa ym Maseru, Lesotho yn 2001, mae wedi parhau i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau yn y wlad. Wrth wneud hynny dilynodd ganllawiau'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad o ran ei ymwneud â Lesotho, yn enwedig ers i'r Uchel Gomisiwn Prydeinig gau ei swyddfa ym Maseru (fel rhan o'i raglen ad-drefnu) yn 2005.

Roedd y Cyngor yn ymwneud â nifer fach o brosiectau yn Lesotho a oedd yn cael eu rheoli drwy swyddfeydd y Cyngor Prydeinig yn Ne Affrica h.y.:

  • aelodaeth o gonsortiwm i reoli cymorth yr Adran Datblygu Rhyngwladol i Raglen Cymorth Blaenoriaeth Strategaeth Lleihau Tlodi Llywodraeth Lesotho
  • rheoli rhaglen Chevening
  • rheoli Rhaglen Cymrodoriaethau ac Ysgoloriaethau'r Gymanwlad

Roedd y Cyfarwyddwr yn awyddus i'r Cyngor Prydeinig ystyried cryfhau ei gysylltiadau â Lesotho a dymunai feithrin perthynas â phartneriaid a oedd yn ymwneud â rhaglen ysgolion Dolen  Cymru Lesotho.  Ar ôl y cyfarfod, yn ystod ein hymweliad â Lesotho, cefais ar ddeall bod y Cyngor Prydeinig yn ystyried o ddifrif gael presenoldeb yn Lesotho unwaith eto.

Yn ddiweddarach y noson honno, cyfarfuom ag Andrew Patrick, y Dirprwy Uchel Gomisiynydd a Helen Horn, Prif Ysgrifennydd, Gwleidyddol (Rhanbarthol, Lesotho a Swasiland) yr Uchel Gomisiwn Prydeinig yn Pretoria lle roeddem yn gallu trafod perthynas y DU â Lesotho a ph'un a ellid datblygu'r arferion da a ddangoswyd gan Dolen Cymru Lesotho ymhellach â rhannau eraill o'r DU. Roedd dirprwyaeth o Senedd yr Alban eisoes wedi mynegi diddordeb yn y ddolen pan oedd yn Ne Affrica yn ddiweddar a byddaf yn sicrhau y gweithredir ar hyn maes o law.

Er nad oedd Uchel Gomisiwn yn Lesotho mwyach, roedd y Prif Ysgrifennydd yn ymrwymedig i raglen o ymweliadau rheolaidd. Roedd yr Uchel Gomisiynydd hefyd yn bwriadu ymweld â Bono, o'r grŵp enwog, U2, ar 16 Mai i hyrwyddo ymwybyddiaeth o HIV/AIDS, yng nhyswllt y rhaglen Goch a chasgliad o ddillad gan Gap a lansiwyd ym Mhrydain yn ddiwedar sy'n cynnwys crys-T a wneir yn Lesotho.  

Ar ddydd Llun 10 Ebrill, sef ein diwrnod cyntaf yn Lesotho, ymwelwyd ag ysgol Qhaomane, ysgol gynradd mewn ardal wledig ar gyrion y brifddinas, Maseru. Yn ogystal â chyfarfod â'r brifathrawes, ei hathrawon ac aelodau eraill o'i staff, cyfarfuom â'r swyddog addysg rhanbarthol, swyddogion cymunedol lleol ac aelodau o'r gymuned leol a oedd yn cynnal yr ysgol. Ymwelwyd â nifer o ddosbarthiadau; y ceginau, a oedd yn cael eu rhedeg gan aelodau o'r gymuned, i drafod rhaglen bwydo'r ysgol;  a'r fferm fach a oedd yn darparu bwyd ar gyfer yr ysgol ac yn cynnig gwersi mewn hwsmonaeth.

Sefydlwyd ysgol Qhomane yn 1981 ac yn wreiddiol cafodd le mewn un bloc a adeiladwyd gan UNICEF. Erbyn hyn roedd yn cynnwys saith ystafell ddosbarth ar gyfer y 800 o fyfyrwyr, yr oedd 100 ohonynt wedi colli eu mam a'u tad oherwydd AIDS. Roedd y rhain wedi'u hadeiladu gyda chymorth y gymuned leol. Y llynedd, roedd yr ysgol wedi cael y canlyniadau profion cynradd gorau erioed am fod 43 o fyfyrwyr wedi pasio'r Arholiad i Ymadael â'r Ysgol Gynradd ac wedi mynd yn eu blaen i'r ysgol uwchradd.  

Atgyfnerthwyd yr ysgol gan y gymuned leol a oedd yn rhan o bwyllgor rheoli'r ysgol. Cynhwysai pennaeth y pentref (a oedd yn cynrychioli penaethiaid ardal), athrawon wedi ymddeol, aelod o'r eglwys a dau aelod a oedd yn cynrychioli rhieni yn ogystal ag aelodau o staff yr ysgol.  Chwaraeai aelodau o'r gymuned ran yn y gwaith o redeg a datblygu'r ysgol ac yn eu tro roedd y cyfleusterau yn yr ysgol yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol at ddibenion hyfforddi megis dosbarthiadau hunangymorth.

Roedd y Weinyddiaeth Addysg yn amlwg wedi dewis yr ysgol hon fel rhan o'm taith oherwydd ei llwyddiant mewn arholiadau a'r cymorth a'r ffocws mawr gan y gymuned.  Gwelais dystiolaeth o lwyddiant y polisi o addysg gynradd am ddim i bawb yn Lesotho, a gyflwynwyd yn 2000 ac a roddwyd ar waith yn raddol dros chwe blynedd un flwyddyn ar y tro nes cyrraedd blwyddyn 10. Roedd canran y plant 6-12 oed a oedd yn mynychu'r ysgol wedi cynyddu tua 20% ac roedd hyn wedi cau'r bwlch rhwng bechgyn a merched sy'n cofrestru.

Ar ôl gadael yr ysgol bu i ni ddychwelyd i Maseru i gyfarfod â staff swyddfa Dolen Cymru Lesotho a Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y ddolen.  Yn sgîl y ffaith nad oes gan Oxfam bresenoldeb yn Lesotho a bod Achub y Plant wedi tynnu'n ôl, mae gan Ddolen Cymru bresenoldeb allweddol yn y wlad. Mae wedi bod yn gweithio yn Lesotho ers 21 mlynedd, mewn nifer o feysydd - yr eglwys, cerddoriaeth, gweithgareddau diwylliannol, iechyd ac addysg. Mae ei Gyfarwyddwr Addysg yn Lesotho, Me Lineo Phachaka, (yr ariannwyd ei swydd gan grant Rhyngwladol y Loterïau Cenedlaethol) wedi gweithio i'r ddolen am wyth mlynedd ar ôl gyrfa yn y llywodraeth gyda diddordeb arbennig mewn plentyndod cynnar ac anghenion addysgol arbennig. Roedd yn gyfrifol am gydlynu holl weithgareddau'r ddolen yn Lesotho, gan reoli'r rhaglen cyfnewid athrawon; y rhaglen lleoliadau i athrawon a gweithgareddau gefeillio ysgolion - gyda 150 o ysgolion yng Nghymru wedi'u gefeillio ag ysgolion yn Lesotho, y mae tua 100 ohonynt yn weithgar iawn.  Esboniodd ei rôl o ran y rhaglen lleoliadau i athrawon gan drafod sut yr oedd wedi nodi adeiladau ac ysgolion priodol yn ei chymuned leol ar gyfer y chwe athro/athrawes sydd mewn lleoliad ar hyn o bryd. Roedd yn adnabyddus ac yn uchel ei pharch yn ei chymuned ac roedd hi ac aelodau o'r gymuned yn rhan bwysig o'r rhwydwaith cymorth i'r rhai sydd mewn lleoliad chwe mis.

Roedd yr adborth cychwynnol ar y ddolen gan athrawon mewn lleoliadau a'u hysgolion yn gadarnhaol iawn ac mae rhai ohonynt eisoes wedi dweud yr hoffent aros am gyfnod yn fwy na chwe mis.  Esboniais wrth Dolen Cymru fy mod yn gobeithio trafod cysylltiadau â'r Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor (VSO) sydd wedi nodi'n ddiweddar fod gan eu rhaglen 50 o leoedd i athrawon dros ben.  Er nad yw'r VSO yn gweithio yn Lesotho ar hyn o bryd, y gobaith yw y bydd yn bosibl iddynt gysylltu â rhaglen Dolen Cymru yn y dyfodol er mwyn ei gwneud yn bosibl i'r rhai sydd am estyn eu datblygiad rhyngwladol am gyfnod eto aros yn Lesotho.  I'r perwyl hwn, rwyf yn awyddus i sicrhau bod dolen Cymru Lesotho yn rhan bwysig o agenda ryngwladol Llywodraeth y Cynulliad.  Rwyf hefyd mewn cysylltiad â Paul Boateng, Yr Uchel Gomisiynydd Prydeinig yn Ne Affrica, mewn perthynas â dolen Cymru Lesotho ac rydym yn ystyried y posibilrwydd o drefnu iddo ymweld â swyddfa'r ddolen naill ai ar 16 Mai neu ryw ddyddiad arall yn y dyfodol.

Yn ystod y prynhawn, cyfarfuom â Ntate Kenneth Tsekoa, y Gweinidog dros Addysg a Hyfforddiant ynghyd â'i uwch swyddogion.  Amlinellodd rai o'i brif bolisïau ynglŷn ag addysg yn Lesotho megis integreiddio disgyblion ag AAA mewn ysgolion prif ffrwd; trefnu addysg mewn ffordd ddatganoledig; diwygio'r cwricwlwm; datblygu cyfundrefn newydd i arolygu ysgolion; ehangu a hyrwyddo gofal a datblygiad yn ystod plentyndod cynnar; a sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael addysg gynradd ac uwchradd a chwblhau eu haddysg.

Yn bwysicaf oll, roedd y polisi o ddarparu addysg gynradd am ddim wedi cynyddu nifer y disgyblion gryn dipyn, cynnydd a fyddai'n symud i'r sector uwchradd y flwyddyn nesaf.  Roedd y Llywodraeth ar y pryd yn ystyried y seilwaith uwchradd ledled y wlad i ymdopi â'r cynnydd ac ag ariannu a hyfforddi digon o athrawon i ateb y galw disgwyliedig.  Roedd Mesur i wneud addysg gynradd yn orfodol ar fin cael ei gyflwyno gyda goblygiadau o ran maint dosbarthiadau, seilwaith a'r cyflenwad o athrawon. Yn draddodiadol, mae llawer o fechgyn ifanc Lesotho mewn ardaloedd gwledig yn cael eu rhoi i fugeilio defaid a gwartheg gan eu teuluoedd yn hytrach na mynychu'r ysgol. Yn sgîl ehangu addysg a'r weledigaeth o addysgu ei holl bobl ifanc mae cyllideb addysg Lesotho wedi cynyddu i 29% o holl gyllid y llywodraeth o flwyddyn i flwyddyn.

O ystyried addysg uwchradd, er mwyn helpu i gynyddu nifer y plant yn yr ysgol, esboniodd y Gweinidog fod Banc y Byd wedi bod yn cynorthwyo drwy raglen ariannu i helpu i ddarparu adnoddau addysgol. Roedd llyfrau a oedd yn arfer costio £1,000 yn cael eu rhoi am ddim am y tair blynedd gyntaf erbyn hyn ac yn lle hynny gofynnwyd i rieni wneud cyfraniad o £220-£320, gyda phob refeniw a godwyd yn cael ei roi mewn cronfa.  Pan fydd Banc y Byd yn tynnu'n ôl yna bydd y gronfa yn cael ei defnyddio i brynu rhagor o adnoddau. Yn ogystal â hynny, wrth estyn addysg am ddim ac addysg orfodol mae'r llywodraeth yn cynyddu'r grantiau a ddarperir ar gyfer ysgolion mewn angen ac mae wedi cyflwyno bwrsarïau i dalu am gostau eitemau megis offer ysgrifennu, dillad ysgol a ffioedd arholiadau.

Yn arbennig, esboniodd y Gweinidog fod nifer gynyddol o blant amddifad oherwydd lledaeniad HIV/AIDS. Mae'r holl bobl ifanc hyn yn cael eu cynnal gan y Weinyddiaeth sy'n darparu un o'r bwrsarïau i bob plentyn yn ystod eu haddysg uwchradd sylfaenol. Yna os bydd y plentyn yn symud yn ei flaen i addysg uwchradd bellach bydd y bwrsari yn parhau.

Un o'r heriau mawr i Lywodraeth Lesotho yw sicrhau bod pobl ifanc nad ydynt wedi'u heintio â HIV/AIDS yn peidio â chael eu heintio ac mae rhaglen brofi orfodol yn cael ei chyflwyno ledled y wlad fel y gellid rhoi rhaglen ddiogelu ar waith.  Mae'r Llywodraeth wedi gweld yr arfer o'r teulu estynedig yn gofalu am blant amddifad yn chwalu'n raddol wrth i fwy o bobl farw gan roi mwy o gyfrifoldeb ar yr ysgolion i roi gofal bugeiliol. Ar yr un pryd, gyda'r gyfradd uchaf o farwolaethau oherwydd HIV/AIDS ymhlith pobl ifanc a phobl ganol oed yn y boblogaeth sy'n gweithio, ceir effaith fawr ar nifer yr athrawon ar hyn o bryd ac mae polisïau yn cael eu datblygu ar gyfer rhaglenni cwnsela a phrofi ac atal.  

Er fy mod yn ymwybodol o'r heriau gwahanol yr oedd ein dwy wlad yn eu hwynebu, roedd yn ddiddorol nodi ein bod ni hefyd yn rhannu nifer o nodau cyffredin gan gynnwys agenda o addysg gynhwysol; gwlad sy'n ymrwymedig i ddysgu gydol oes; rhaglenni wedi'u targedu yn seiliedig ar gydraddoldeb i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig; a lledaenu arferion gorau i godi safonau.  

Yn ddiweddarach yn y prynhawn, ar ymweliad â Choleg Addysg Lesotho, cyfarfuom â'r Cyfarwyddwr, Dr Lesoestsa a'i dîm rheoli.  Sefydlwyd y coleg yn 1974 ac yn 2002 rhoddwyd iddo statws trydyddol sydd wedi rhoi mwy o annibyniaeth i'r sefydliad. Y coleg, sydd yng nghanol y brifddinas, yw'r unig sefydliad sy'n gyfrifol am hyfforddi athrawon ysgol gynradd Lesotho yn y dyfodol (mae'r rhai sy'n dysgu pynciau hyd at lefel arholiad mewn ysgolion uwchradd yn cael eu hyfforddi ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho). Mae ganddo tua 3,000 o fyfyrwyr, y mae traean ohonynt yn fyfyrwyr preswyl ac mae wedi cael caniatâd gan y Llywodraeth yn ddiweddar i agor isgoleg er mwyn cael presenoldeb yn yr ardaloedd mynyddig.

Mae'r Coleg wedi datblygu cysylltiadau â Choleg y Drindod, Caerfyrddin ac mae'n ystyried cryfhau'r cyswllt hwnnw, a datblygu cysylltiadau â sefydliadau ?ITET eraill a chymharu ei safonau dysgu â hwy.  Gan mai hwn yw'r unig goleg hyfforddi athrawon yn Lesotho, teimlodd y Cyfarwyddwr ei bod yn anodd iddo feincnodi ac asesu ei safonau yn erbyn sefydliadau eraill.  Roedd yn pryderu nad oedd y cyrsiau o reidrwydd yn denu'r ymgeiswyr gorau a bod hynny yn ei dro yn arwain at broblemau o ran statws dysgu ysgol gynradd fel gyrfa. Teimlai fod nifer o'r rhai a oedd wedi derbyn lle i astudio yn y coleg wedi gwneud hynny am eu bod wedi methu â chael lle yn y Brifysgol ac nid oherwydd eu bod wedi dewis y llwybr hwn.  Fodd bynnag, roedd yn anodd dweud am mai gwlad un coleg, un brifysgol ydoedd.

Roedd rhaglen yr ymweliad hwn yn cynnwys taith o amgylch y campws, gan gynnwys ymweld â'r llyfrgell, yr adran dechnoleg, y labordy cyfrifiaduron, y gweithdy cerameg, y man ymgynnull awyr agored a'r ffreutur.  Arsylwyd ar wers lle roedd Saesneg yn cael ei dysgu fel ail iaith ac yn yr adran dechnoleg gwelsom sut y dysgid gwahanol sgiliau gwaith metel a saernïaeth i fyfyrwyr, sgiliau y gallent rannu gyda'r ystafelloedd dosbarth a'r cymunedau ar ôl iddynt ddychwelyd i'w pentrefi i ddysgu. Erbyn 2014 disgwylir i bob ysgol uwchradd gynnig gwaith coed, gwaith metel, lluniadu technegol a chynllunio graffig ond ar hyn o bryd mae prinder gweithdy a chyfarpar mewn ysgolion yn llesteirio dysgu yn y pynciau hyn.

Yn ogystal â hynny, er bod y cwricwlwm cenedlaethol yn cael ei ddiwygio i ystyried amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol y wlad (gan gynnwys mwy o bwyslais ar wyddoniaeth, technoleg ac amaethyddiaeth) yn y labordy cyfrifiaduron esboniwyd bod y cyfarpar TGCh yn hen ac yn brin. Nodwyd bod y coleg wedi gosod rhaglenni o deulu meddalwedd am ddim.  Oherwydd y prinder cyfarpar, ac ansawdd y cyfarpar, fodd bynnag, anaml y mae athrawon newydd gymhwyso yn magu digon o hyder neu allu i ddysgu'r pwnc.

Yn y dosbarth cerameg, gwelsom sut y cododd myfyrwyr refeniw i'r coleg drwy gynhyrchu eitemau i'w gwerthu.  Mae digonedd o adnoddau fel clai a phren yn eu cymunedau ac er bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio odyn drydanol yn y coleg roeddent hefyd yn dysgu sut i ffwrndanio llestri heb drydan i'w galluogi i barhau â'u gwaith mewn lleoliadau gwledig.

Nos Lun, euthum i ginio anffurfiol a gynhaliwyd gan Dr Carl Clowes, Llywydd Dolen Cymru a Chonswl Mygedol Lesotho yng Nghymru. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd cadeirydd, dirprwy gadeirydd, cyfarwyddwr a gweinyddydd swyddfa'r ddolen yn Lesotho; Cathrin Daniel, cyfarwyddwr gweithredol Dolen Cymru; aelodau o'r ddolen; Me Likeleko Mahase-Ramoeletsi y Gweinidog dros Faterion Tramor; Ntate Phapsa Motsoane, arbenigwr ar y cwricwlwm (cerdd) o Ganolfan y Cwricwlwm Cenedlaethol, Ernest Foster, diprwy gynrychioliydd preswyl Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig; ac Andrew Templeton o'r Cyngor Prydeinig. Achubais ar y cyfle i drafod y cysylltiadau posibl y gellid eu creu rhwng Dolen Cymru; y Cyngor Prydeinig; y VSO a'r Cynulliad o ran datblygu rhaglen gyfnewid ymhellach, gan edrych y tu hwnt i athrawon ystafell dosbarth.

Ddydd Mawrth 11 Ebrill, ymwelwyd ag ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen lleoliadau i athrawon.  Cyfarfu mentor y chwe athro sydd ar hyn o bryd yn cymryd rhan yn y rhaglen chwe mis â ni yn Ysgol Uwchradd Hlotse yn Leribe, ysgol o 800 o ddisgyblion wedi'i rhannu yn ddosbarthiadau A-D.  Cyflwynodd Ms Anne Loughran (o Goleg y Drindod, sir Gaerfyrddin) y staff dysgu yn Ysgol Uwchradd Hlotse.  Esboniodd ei rôl fel mentor i'r athrawon eraill o Gymru a thrafododd sut yr oedd wedi bod yn lledaenu arferion da drwy rannu sgiliau dysgu gyda'r athrawon o Gymru a'r athrawon o Basotho, gan gynnwys hyfforddiant yn y defnydd o flychau rhifedd a oedd wedi'u paratoi gan Goleg y Drindod. Roedd y blychau rhifedd yn cynnwys nifer o ffurfiau solet gan nad oedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr erioed wedi profi hyn yn eu haddysg fel yr esboniodd Ms Loughran - gan mai'r bwrdd du a sialc oedd y prif ddull addysgu. (Roedd y blychau eisoes wedi cael effaith yn y coleg hyfforddi, gan fy mod wedi gweld yn gynharach yn fy ymweliad fyfyrwyr yn creu ciwbiau, pyramidiau a ffurfiau solet eraill yn y dosbarthiadau crochenwaith i'w defnyddio fel cymhorthion dysgu.)

Roedd yn bwriadu gwneud rhagor i raeadru'r hyfforddiant mewn mathemateg nid yn unig mewn ysgolion ond mewn sefydliadau hyfforddiant cyn gadael yr ardal ym mis Mehefin. Ar ddiwedd mis Ebrill/dechrau mis Mai roedd yn bwriadu mynd i Goleg Addysg Lesotho ac roedd wedi cysylltu â Phrifysgol Lesotho gan fod cynlluniau ar y gweill i ddechrau cwrs cynradd yn y brifysgol.  Fodd bynnag, nododd, pa hyfforddiant bynnag a roddwyd, fod angen rhaglen gynnal ar gyfer y blychau rhifedd a'r blychau llythrennedd y bwriedid eu datblygu a'u cyflwyno yn yr ysgolion ar ôl i staff o Goleg y Drindod gynnal yr hyfforddiant cychwynnol.  

Wrth ddysgu mathemateg, roedd Ms Loughran ac athrawon lleoliad eraill wedi nodi nad oedd gan blant fawr o syniad ynglŷn â gwrthrychau 3D, eu hymddangosiad a sut brofiad oedd cyffwrdd â hwy oherwydd y prinder adnoddau gweladwy yn yr ystafell ddosbarth, fel y gwelwyd yn y Coleg. Yn ogystal â hynny, nid oedd y disgyblion yn hyderus iawn wrth ddefnyddio rhifyddeg pen, ac roedd ffracsiynau yn gysyniad anodd iddynt. Gofynnodd yr athrawon lleol am adnoddau a syniadau i wneud mathemateg yn hwyl.

Roedd Ms Loughran yn pryderu ynglŷn â nifer y disgyblion a roddodd y gorau i'w haddysg yn ystod Dosbarth D (dros 16 oed) am fod nifer fawr o blant yn methu'r dystysgrif - roedd Lesotho yn defnyddio Tystysgrif Ysgolion Tramor Caergrawnt, a oedd rhwng TGAU a Safon Uwch o ran lefel.  Teimlai fod y lefel yn rhy uchel i'r myfyrwyr ac y byddai llawer yn methu ag ennill y cymhwyster yn enwedig mewn mathemateg.  Fodd bynnag, cadarnhawyd yn ddiweddarach fod hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan y Weinyddiaeth Addysg a Hyfforddiant a oedd yn ystyried cyflwyno arholiadau TGAU yn lle'r Dystysgrif.

Yna ymwelwyd ag Ysgol Uwchradd Malapo lle cafodd Anthem Genedlaethol Cymru ei chanu'n hyfryd yn yr iaith Sesutu i ddathlu'r cysylltiadau â Chymru, a pherfformiwyd dawnsiau a chaneuon lleol. Arsylwyd ar un o'r athrawon o Gymru (Joanne Roberts) yn dysgu gwers mewn TGCh.  Roedd Joanne a phennaeth yr ysgol fel ei gilydd yn awyddus ei bod yn estyn ei chyfnod yn yr ysgol. Roedd wedi dod â sgiliau gwerthfawr iawn mewn TG i'r ysgol - y gyntaf yn yr ardal â chyfrifiaduron (wedi'u rhoi), ac roedd yn llunio cynlluniau dysgu i'r ysgol er mwyn i'r gwaith barhau ar ôl iddi adael. Byddaf yn ystyried a fyddai'n bosibl i athrawon yn Lesotho gysylltu â'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu ac ym mha fodd y gallem harneisio'r fenter e-ddysgu o leiaf i'r athrawon yng Nghymru sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni cyfnewid a lleoliadau.  

Yna symudwyd i Ysgol Gynradd Fethodistaidd Hlotse ac arsylwyd ar un o'n hathrawon (Lowri Rees) a oedd yn rhoi gwers ar radd gymharol ansoddeiriau i ddosbarth brwdfrydig iawn. Roedd hon yn un o'r ysgolion hynaf yn yr ardal ac roedd ganddi dros 1100 o ddisgyblion a 17 o athrawon, gan arwain at rai dosbarthiadau â mwy na 100 o ddisgyblion.  Yma gwelsom raglen bwydo'r ysgol ar waith gyda'r holl blant yn cael prydau am ddim.

Ar ôl arsylwi ar wersi cyfarfuom â phob un o'r chwe athro o Gymru i drafod eu profiadau yn ystod eu lleoliadau. Dywedwyd wrthym fod y tri athro newydd gymhwyso yn arbennig yn teimlo eu bod wedi ennill llawer mwy o hyder. Roedd yr athrawon lleol yn dod atynt i geisio eu barn a gofyn am syniadau, roeddent wedi cael cyfle i arwain gweithdai i athrawon, ac roeddent wedi cael cyfle i ddysgu eu hail bynciau h.y. roedd yr athro a oedd wedi hyfforddi i ddysgu Celf i ddisgyblion uwchradd hefyd yn dysgu Saesneg a Mathemateg i ddisgyblion cynradd ac uwchradd. Teimlent na fyddent wedi gweld datblygiad o'r fath pe baent wedi mynd i ddysgu mewn ysgolion yng Nghymru yn union ar ôl cymhwyso a theimlent eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hysgolion. Roedd pob un ohonynt wedi gorfod bod yn ddyfeisgar ac yn greadigol yn wyneb yr adnoddau a oedd ar gael iddynt ac roeddent wedi dod i ddeall y problemau yr oedd yr ysgolion a'r cymunedau lleol yn eu hwynebu.

Dywedodd tri o'r athrawon fod ganddynt ddiddordeb mewn aros yn hwy. Yn yr ysgolion cynradd yn arbennig bu'n frwydr ar y dechrau i gael dysgu gwersi - roedd yr ysgol yn eu trin fel gwesteion - ond erbyn hynny roeddent wedi ymgartrefu, wedi meithrin perthynas ac roeddent yn dymuno parhau â'u gwaith.

O ystyried y ffordd y gellid gwella'r rhaglen, roedd pob un o'r athrawon yn teimlo y gallent fod wedi cael eu paratoi'n well o ran:

  • ymdrin â HIV/AIDS a'i effaith ar eu disgyblion;  
  • cael hyfforddiant ieithyddol sylfaenol cyn dechrau yn yr ystafell ddosbarth, gan mai Sesutu oedd iaith ystafell y staff a'r plan
  • cael mwy o wybodaeth am y defnydd o gosb gorfforol yn Lesotho

Ystyrir y materion hyn yn fanylach fel rhan o'r broses o fonitro a gwerthuso'r rhaglen lleoliadau gan Gyngor Prydeinig Cymru, i'w hanfon i'r Cynulliad ym mis Mehefin. Fodd bynnag roedd yn ddiddorol clywed bod yr ysgolion (yn enwedig yr ysgol a gynhelir gan Cymorth Cristnogol) wedi dechrau amau'r defnydd o gosb gorfforol ar ôl arsylwi ar y technegau disgyblu a ddefnyddiwyd gan yr athrawon o Gymru. Er mwyn adeiladu ar hyn cynigiaf y dylid cynnig copïau o Gynllun Gweithredu Rhianta'r Cynulliad i Dolen Cymru, a allai gael eu cynnig i'r ysgolion a'u defnyddio gan yr athrawon. O ran datblygu sgiliau ieithyddol mae'r Corfflu Heddwch yn cynnwys gwersi fel rhan o'i becynnau hyfforddi. Mae wedi gweithio yn Lesotho yn y gorffennol ac mae wedi cytuno ystyried hyn ymhellach i weld a ellid creu cyswllt.

Yn ddiweddarach yn y prynhawn ymwelais ar Argae Katse, rhan o brosiect dŵr Ucheldiroedd Lesotho, sydd bellach yn cyflenwi dŵr i Dde Affrica ac sy'n darparu £2m o refeniw bob mis a thrydan drwy'r orsaf bŵer hydro-electrig. Mae'r argae wedi arwain at welliannau yn y seilwaith yn enwedig o ran ffyrdd ac mae wedi dod â phobl a thechnoleg i ardal ffermio ymgynhaliol a arferai fod yn anghysbell.    Dros ginio a gynhaliwyd gan y Gweinidog dros Addysg, trafododd Ntate Phillip Mapetle, Cyfarwyddwr yr Arolygiaeth Ganolog sy'n arwain ar gyflogau, telerau ac amodau a datblygiad athrawon, yr heriau o wella sgiliau ymhlith athrawon yn Lesotho. Gyda thua 14,000 o athrawon, (y mae 9,000 ohonynt yn athrawon cynradd) a 24% heb gymwysterau, mae angen rhoi mwy o hyfforddiant a chodi statws proffesiynol addysg. Mae'r llywodraeth wedi dechrau defnyddio dysgu o bell ac eleni bydd tua 450 yn graddio - gyda Choleg Lesotho yn hyfforddi 200 o athrawon ar ben hynny. Er mwyn cadw athrawon yn eu swyddi mewn ardaloedd anghysbell, mae hefyd yn bwriadu gwella'r lwfans ar gyfer ardaloedd mynyddig.  Ynghyd â hyn mae'r llywodraeth yn ystyried sefydlu Cyngor Addysgu Cyffredinol i ddatblygu a chadw cofrestr o athrawon. Cytunwyd y byddem yn rhoi manylion Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

Y noson honno, cynhaliodd Ntate Kenneth Tsekoa, y Gweinidog dros Addysg a Hyfforddiant, ginio gyda'i gyd-Weinidogion, aelodau o Dolen Cymru a'r Cyngor Prydeinig. Bu'n fodd i ni drafod cyfundrefnau addysg ein gilydd ymhellach ac ychwanegu at ein trafodaethau am y rhaglenni lleoliadau a chyfnewid ac ystyried sut y gellid eu cymhwyso at feysydd eraill.  Roeddwn eisoes wedi clywed yn ystod fy ymweliad bod staff gwerthfawr yn cael eu colli gan eu bod yn edrych y tu allan i Lesotho am gyfleoedd datblygu a chyfle i weld arferion gorau mewn gwledydd eraill oherwydd dim ond un coleg, un coleg polytechnig ac un brifysgol sydd. Mae'r Weinyddiaeth Addysg hefyd yn awyddus i gyfnewid syniadau ac arferion da ac rwyf wedi dweud y byddwn yn falch o'u gweld yng Nghymru. Efallai y bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld â Chymru, ynghyd â nifer o'r tîm arolygiaeth a phenaethiaid, pan fydd y garfan nesaf o athrawon cyflenwi o Lesotho yn cyrraedd.

Dechreuais ar fy nhaith ddydd Mercher, 12 Ebrill drwy ymweld â Choleg Polythechnig Lerotholi ym Maseru lle cyfarfûm â'r Rheithior, Ntate Lebakae a'i dîm rheoli a chael taith fer o amgylch y gweithdai. Mae'r Coleg Polytechnig yn rhoi addysg dechnolegol a galwedigaethol a hyfforddiant sgiliau ac mae ganddo ysgolion mewn masnach ac astudiaethau cymhwysol;  technoleg a'r amgylchedd adeiledig, gyda'r pwyslais ar sgiliau ymarferol. Mae wedi datblygu ac wedi rhedeg cyrsiau i ddiwallu anghenion Prosiect Dŵr yr Ucheldiroedd. Fel y Coleg, daeth y Coleg Polytechnig yn ymreolaethol yn 2002 ac roedd ar ganol sefydlu uned datblygu busnes fel cwmni er mwyn ei alluogi i ymgynnig am waith technegol a thrwy hynny gynhyrchu incwm ychwanegol.  Nid oedd nifer y myfyrwyr (tua 800) wedi cynyddu ers nifer o flynyddoedd oherwydd problemau o ran llety yn rhannol, a oedd yn cael eu datrys erbyn hyn, ond hefyd yn ôl Ntate Lebakae, oherwydd lefel y cymwysterau a gynigir. Cynigiai'r Coleg Polytechnig gyrsiau tystysgrif a diploma ond yr her erbyn hyn oedd arallgyfeirio ac uwchraddio cyrsiau i lefel gradd lle roedd angen gwneud hynny, yn seiliedig ar asesu anghenion cyflogwyr. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith ar anghenion hyfforddi staff addysgu'r coleg polytechnig ac mae'r Rheithior yn chwilio am gyfleoedd i'r darlithwyr weld datblygiadau y tu allan i Lesotho, ac am gymorth technegol i adolygu'r cwricwlwm a datblygu cymhwyster a fydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Roedd gan y Coleg Polytechnig gysylltiadau â NEWI yn 2002, yn canolbwyntio ar ddatblygu'r cwricwlwm, ac roedd yn awyddus i ail-greu’r cysylltiadau hynny. Cytunais i ddwyn diddordeb y coleg polytechnig mewn datblygu cysylltiadau at sylw sefydliadau yng Nghymru.

Yn ddiweddarach y bore hwnnw, ymwelais ag Ysbyty St Joseff, Roma lle cyfarfûm â Dr Samsomakwa, gweinyddwyr yr ysbyty a Phennaeth yr ysgol nyrsio. Yr ysbyty oedd y brif ganolfan o ran gofal iechyd sylfaenol yn yr ardal - o fewn tafliad carreg i'r brifysgol. Roedd yn gweld niferoedd cynyddol o gleifion, gan dderbyn 10 claf newydd ag AIDS bob wythnos. Roedd yr ysgol nyrsio (un o 3 yn Lesotho) yn cynnig diploma mewn nyrsio a bydwreigiaeth, ar y cyd â'r Brifysgol, diploma a oedd yn cyrraedd safonau rhyngwladol. Ar ôl cael eu hyfforddi, fodd bynnag, cafwyd problem i gadw staff gan fod y rhai a oedd am ddatblygu yn teimlo bod angen iddynt symud dramor (i Dde Affrica, y DU a Chanada yn bennaf). Trafodwyd y syniad o raglen lleoliadau neu raglen gyfnewid i weithwyr proffesiynol iechyd a chytunais i godi'r syniad ar ôl dychwelyd i Gymru.

Daeth fy ymweliad i ben ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho lle cawsom ein tywys o amgylch y campws gan yr Athro Mafa Sejanamane, Is-Ganghellor dros dro gan fwynhau taith o amgylch yr adrannau dysgu ac ymchwilio i gemeg a ffiseg a sesiwn arddangos o'r cyfleusterau fideo a oedd yn cael eu defnyddio i hyfforddi athrawon.

Daeth y Brifysgol i fodolaeth fel coleg yn 1945 gan gynnig graddau o Brifysgol Llundain ond mae wedi bod yn gweithredu yn ei rhinwedd ei hun ers 1975. Mae 7 cyfadran sy'n cynnig amrywiaeth eang o bynciau a thua 8000 o fyfyrwyr. Mae'r llywodraeth yn annog myfyrwyr i aros yn Lesotho i gwblhau eu haddysg gyda benthyciad o 50% a bwrsari o 50%. Fodd bynnag, ar gyfer rhai cyrsiau (Peirianneg a Meddygaeth) mae cwota o leoedd i fyfyrwyr i fynd i Dde Affrica.  Amlinellodd yr Athro gynlluniau'r brifysgol ar gyfer y dyfodol:  roedd y rhain yn cynnwys:

  • sefydlu canolfan ar gyfer datblygiad achrededig wedi'i chysylltu â sefydliadau eraill;
  • penodi Cyngor Addysg Uwch i safoni rhaglenni ac achredu sefydliadau;
  • datblygu fframwaith datblygu rhanbarthol gyda Gwledydd Datblygu Deheudir Affrica i gysoni cymwysterau a chaniatáu symudiad rhydd;
  • sefydlu cwrs MBA rhan amser a datblygu ei gyfleusterau ôl-raddedig, yn enwedig ym maes peirianneg a thechnoleg.

Unwaith eto codwyd y syniad o raglen gyfnewid, o ystyried yr angen canfyddedig i edrych y tu allan i Lesotho am ddatblygiad a hyfforddiant ac amlygiad i arferion gorau.
Roedd cysylltiadau wedi cael eu gwneud â Phrifysgol Ulster a Phrifysgol Bangor eisoes o ran yr uned parth cras a'r Adran Addysg, ac roedd cysylltiadau pellach yn cael eu datblygu â Chymru o ran datblygu deunyddiau a chwricwlwm ar gyfer rhaglen AAA.  Fel yn y Coleg Polytechnig, cytunais i ddwyn diddordeb y Brifysgol mewn datblygu cysylltiadau at sylw sefydliadau yng Nghymru.

Erbyn diwedd fy ymweliad, fe'm calonogwyd gan yr ymateb cadarnhaol iawn i'r rhaglen lleoliadau i athrawon gan yr athrawon o Gymru, yr ysgolion lle roeddent yn dysgu a'r awdurdod addysg rhanbarthol lle roeddent wedi'u lleoli. Er mai dim ond y cynllun peilot cyntaf ydoedd, ymddengys iddo fod yn fuddiol i bawb a bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y buddiannau yn amlhau ac yn cael eu gwireddu pan ddaw'r lleoliad i ben.  

Roedd hefyd yn amlwg o'm trafodaethau yn ystod yr ymweliad y byddai eraill yn y sector addysg a'r gymuned ehangach yn croesawu rhaglenni tebyg a bydd angen i mi ystyried sut y dylem ddatblygu'r rhaglen yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn.  

Yn olaf, rwyf yn hynod ddiolchgar i'r Gweinidog dros Addysg a Hyfforddiant yn Lesotho, i'r aelodau o'i Weinyddiaeth, y Cyngor Prydeinig, Dolen Cymru a'r Uchel Gomisiwn yn Pretoria am eu hamser, eu cefnogaeth a'u cymorth wrth ddatblygu a chymryd rhan yn y rhaglen ar gyfer yr ymweliad hwn.