Skip to content

Ysgrifenedig - Datganiad Yn Unol  Rheol Sefydlog 21.16 – Canolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon
Ym mis Mai 2003 awdurdodais Drafodiad Hysbysadwy o dan yr hyn a oedd bryd hynny yn Rheol Sefydlog 19.3, ond sydd bellach yn Rheol Sefydlog 21.16. Roedd y Trafodiad Hysbysadwy yn golygu trafodiad sy'n dod o fewn Rheol Sefydlog 19.16, Rheol Sefydlog 21.19 bellach, sef i warantu benthyciad i Ganolfan Mileniwm Cymru Cyf.

Amcangyfrifwyd y byddai’r rhwymedigaeth yn £10 miliwn. Amcangyfrifwyd y byddai cyfnod y rhwymedigaeth yn para o fis Tachwedd 2003 i fis Tachwedd 2004. Cafwyd amlinelliad o'r rheswm dros y rhwymedigaeth a'r cyrff sy'n rhan ohoni yn fy natganiad ym mis Mai 2003.

Ar 22 Gorffennaf 2004 gosodais ddatganiad ychwanegol gerbron y Cynulliad i gyhoeddi fy mwriad i awdurdodi cynnydd yn swm y rhwymedigaeth i £14 miliwn ac ar 9 Tachwedd 2004 cyflwynais ddatganiad llafar i'r Cynulliad i gyhoeddi fy mwriad i awdurdodi cynnydd yng nghyfnod y warant hyd at fis Mai 2005.

Ym mis Mehefin 2005 awdurdodais estyniad i'r warant hyd at fis Mehefin 2006. Cynigais ar yr un pryd i leihau swm y gwarant i £11 miliwn. Ym mis Mai 2006 awdurdodais estyniad i'r warant hyd at fis Mai 2007 ar gyfer yr un swm, sef £11 miliwn. Roedd hyn oherwydd y gwahaniaethau parhaus rhwng gwariant cyfalaf ac arian cyfatebol.

Ers ei hagor mae cynulleidfaoedd Canolfan Mileniwm Cymru wedi cynyddu ac mae ei gweithgareddau masnachol eraill yn rhagori ar dargedau ei chynllun busnes ar gyfer yr incwm o werthu tocynnau a ffynonellau eraill.

Rhagwelir y bydd diffyg yn llif arian Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfer 2007/08 oherwydd gwariant cyfalaf pellach a chostau eithriadol eraill sy'n gysylltiedig â gweithrediadau'r busnes. Er mwyn ateb y diffyg hwn mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cymryd camau i leihau costau ond bydd angen cynyddu'r benthyciad gan HSBC o £11 miliwn i £13.5 miliwn ar gyfer y 12 mis hyd at Ragfyr 2007 i roi'r arian iddi ymgymryd â’r ystod lawn o weithgareddau sydd wedi eu cynllunio. Rwy'n cynnig cynyddu gwarant y benthyciad i £13.5 miliwn i gyd-fynd â'r cynnydd ym menthyciad y Ganolfan.  Cynigir y câi’r benthyciad banc o £13.5 miliwn ei ad-dalu rhwng 2008 a 2017, yn unol â’r bwriad gwreiddiol, trwy gyflymu symiau cyfalaf i adlewyrchu'r gwelliant graddol y disgwylir ei weld yn sefyllfa ariannol y busnes yn ystod y cyfnod hwn. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn datblygu strategaethau codi arian penodol i gefnogi'r gofynion o ran ad-dalu'r benthyciad.

Gan fod y Ganolfan bellach yn symud ymlaen o'r cyfnod cychwynnol, rwy'n bwriadu cael ymgynghorwyr annibynnol i adolygu’r cynnydd y mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i wneud ers iddi agor, a'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd adolygiad o'r fath yn rhoi asesiad annibynnol o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu Canolfan Mileniwm Cymru ac mae'n cyd-fynd ag arferion da wrth fonitro perfformiad prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr. Rwy'n bwriadu dechrau'r adolygiad ym mis Rhagfyr 2006.

Byddaf yn parhau i lunio adroddiadau cynnydd rheolaidd i'r Pwyllgor Diwylliant.