Skip to content

Llafar- Adroddiad ar yr Achosion o Cryptosporidiosis

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
 Croesawaf y cyfle i wneud y datganiad hwn mewn Cyfarfod Llawn. Cafwyd achosion o cryptosporidiwm yn y Gogledd y gaeaf diwethaf. Daeth yr arwyddion cyntaf o heintiad posibl yn amlwg yn gynnar ym mis Tachwedd, a sefydlwyd tîm rheoli digwyddiad, a adwaenid fel y tîm rheoli achosion, ar unwaith ar y pryd, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl asiantaethau perthnasol.

Sefydlwyd cyfres o ymchwiliadau i ganfod pob achos posibl. Erbyn 29 Tachwedd, yr oedd y dystiolaeth yn dangos mai haint a gâi ei chludo gan ddwr oedd achos mwyaf tebygol y cynnydd yn y nifer o achosion, a dyna pryd y cyhoeddwyd heintiad ac y cynghorwyd pobl yn yr ardal i ferwi eu dwr tap cyn ei yfed. Effeithiodd yr heintiad ar 231 o bobl, gan ei wneud yr heintiad mwyaf o’i fath yng Nghymru, ac fe’i cysylltwyd â chronfa ddwr Llyn Cwellyn, sy’n gwasanaethu rhyw 70,000 o bobl yng ngogledd Gwynedd a de Ynys Môn.

Cyhoeddodd y tîm rheoli achosion ei ganfyddiadau mewn adroddiad yr wythnos ddiwethaf. Mae’r datganiad hwn yn amlinellu ymateb Llywodraeth y Cynulliad i ganfyddiadau allweddol yr adroddiad hwnnw. Mae adroddiad y tîm rheoli achosion yn nodi mai achos mwyaf tebygol yr heintiad oedd bod gan un neu fwy o unigolion yn nalgylch y gronfa ddwr cryptosporidiosis cyn yr heintiad ac, er y byddent efallai wedi bod yn sâl gyda dolur rhydd, ni fyddent yn ôl pob tebyg wedi gwybod beth a’i hachosodd. Cefnogir hyn gan y ffaith nad oedd unrhyw achosion o cryptosporidiosis wedi’u cofnodi yn yr ardal ar y pryd.

Nododd ymchwiliadau amgylcheddol, a gadarnhawyd drwy brofion microbiolegol, sawl llwybr posibl y gallai cryptosporidiwm o systemau carthffosiaeth yn nalgylch Cwellyn fod wedi mynd i mewn i’r gronfa drwyddynt. Ni ellir gwarantu bod elifiant carthffosiaeth, hyd yn oed ar ôl triniaeth safonol, yn rhydd o cryptosporidiwm. Gallai’r elifiant o systemau trin carthion fod wedi mynd i mewn i gronfa Llyn Cwellyn drwy un neu fwy o’r llwybrau a nodwyd o’r dalgylch.

Nid oedd y broses i drin y dwr ar y pryd wedi’i bwriadu i gael gwared â nac i ladd cryptosporidiwm. Yr oedd Dwr Cymru, sy’n gyfrifol am y cyflenwad dwr, wedi gwneud asesiad risg, a oedd wedi tybio y byddai’r elifiant carthion wedi cael ei wanedu’n ddigonol yn y llyn; yr oedd hyn yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio.

Ni chanfu unrhyw un o’r ymchwiliadau i’r heintiad unrhyw ddiffygion yn y system trin ddwr y gellid eu cywiro, a pharhasant i gryfhau’r dystiolaeth a awgrymai mai dwr tap o’r prif gyflenwad oedd y ffynhonnell debygol. Ar y sail honno, yr unig ddewis i Ddwr Cymru oedd gosod system newydd triniaeth golau uwchfioled i ladd unrhyw cryptosporidiwm oedd yn weddill. Unwaith yr oedd y driniaeth wedi cael ei gosod ac y dangoswyd ei bod yn gweithio’n iawn, codwyd y rhybudd i ferwi dwr.

Mae’r tîm rheoli achosion yn fodlon na ddylai heintiad o’r fath ddigwydd eto, cyhyd â bo’r system uwchfioled yn Llyn Cwellyn yn gweithio’n iawn. Cafodd y gronfa ei monitro’n barhaus o 2 Tachwedd a dangosai lefelau isel iawn o oocystau cryptosporidiwm, llawer is na’r safon triniaeth reoleiddio a bennir i safleoedd lle dynodwyd bod risg sylweddol. Un gwers allweddol i’w dysgu o’r achosion felly yw’r angen i gymryd sylw o nifer isel hyd yn oed o oocystau mewn dwr yfed sydd wedi cael ei drin, gan fod yr heintiad hwn yn profi y gallant, hyd yn oed os yw’r nifer yn isel, fod yn fygythiad i iechyd y cyhoedd. Yn wir, gallai’r ddos heintus fod cyn ised ag un oocyst o cryptosporidiwm, sy’n codi cwestiynau ynglyn â’r arfer cyffredin ar hyn o bryd o ddibynnu ar wanedu fel polisi cyffredinol.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Prif Swyddog Meddygol Cymru ystyried y gwersi a ddysgwyd a’r angen am gyngor arbenigol wedi’i ddiweddaru am cryptosporidiosis a’r cyflenwad dwr, yn enwedig y risg yn gysylltiedig â nifer fach o oocystau sydd wedi cael ei hamlygu. Mae’r prif swyddog meddygol yn cydnabod mai nid mater i Gymru yn unig mo hwn, ond un a allai fod â goblygiadau i ddiwydiant dwr y DU gyfan. Mae’r prif swyddog meddygol felly yn cwrdd â Phrif Arolygydd yr Arolygiaeth Dwr Yfed ym mis Ionawr 2007 i gydystyried y gwersi a ddysgwyd, a bydd yn codi’r mater hwn gyda phrif swyddogion meddygol eraill y DU yn eu cyfarfod ar 8 Rhagfyr. Gallaf adrodd yn ôl ar ffurf datganiad ysgrifenedig pan fydd ystyriaeth ehangach wedi cael ei rhoi i’r mater.