Skip to content

Ysgrifenedig - Pecyn o Fesurau i Gynorthwyo Pobl Hŷn ac Anabl i Fyw Gartref

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r datganiad hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith o gyflwyno’r pecyn o fesurau gwerth £76 miliwn a gyhoeddais ar 15 Chwefror. Nod y pecyn oedd lleihau cost gwasanaethau gofal cartref i bobl hŷn ac anabl ar incwm isel, a gwella ansawdd y ddarpariaeth arall sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, a chynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael. Roedd y pecyn yn cynnwys:

  • cynyddu’r uchafswm incwm sydd uwchlaw lefel y cymhorthdal incwm sylfaenol cyn i bobl hŷn ac anabl dalu costau’r awdurdod lleol am ofal personol yn y cartref (cyfeirir ato fel y “byffer”) 
  •  ystyried y modd y caiff gwariant sy’n gysylltiedig ag anabledd ei drin gan awdurdodau lleol sy’n codi tâl am wasanaethau gofal cartref
  • darparu £3 miliwn o gymorth ychwanegol bob blwyddyn i bobl sy’n gofalu am unigolion sy’n dioddef o salwch meddwl
  • cyllid cyfalaf o £12.5 miliwn dros gyfnod o 2 flynedd i wella gwasanaethau offer cymunedol er mwyn i oedolion a phlant gael gwell gwasanaeth
  • darparu £9 miliwn o gyllid cyfalaf dros gyfnod o 2 flynedd i gefnogi tua 10,000 o bobl gyda thechnoleg teleofal a fydd yn helpu pobl agored i niwed i fod yn ddiogel gartref.

Roedd y newidiadau hyn i ddigwydd cyn gynted ag a oedd yn ymarferol bosibl yn amodol ar ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol yn ôl yr angen.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth roi’r pecyn hwn ar waith. Cafodd y cynllun Grant Gofalwyr Iechyd Meddwl ei weithredu yn gynharach eleni ac mae ymgynghoriadau cyhoeddus wedi’u cynnal ar gynlluniau grant ar gyfer yr arian sydd wedi’i glustnodi ar gyfer teleofal ac offer cymunedol. Cafwyd ymateb brwd ac mae cynigion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

O ran fy nghynigion mewn perthynas â chodi tâl am ofal cartref, mae grŵp gorchwyl o gynrychiolwyr pobl hŷn ac anabl, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill wedi cyflwyno ei adroddiad i mi yn ddiweddar gyda’u hargymhellion. O safbwynt y “byffer”, rhaid gadael i’r rheini sydd ar lefelau cymhorthdal incwm sylfaenol gadw eu cymhorthdal i gyd yn ogystal â “byffer” o 25 y cant ar ôl iddynt dalu am eu gofal. Nod hyn fydd rhoi cymorth i bobl hŷn ac anabl sydd ar incwm isel. O dan y cynnig a gyflwynwyd gan y grŵp, byddem yn cynyddu’r byffer hwn i 35 y cant ar gyfer yr holl ofal cartref a’r gwasanaethau dydd lle bydd codi tâl yn berthnasol.

O safbwynt gwariant sy’n gysylltiedig ag anabledd, mae’r grŵp yn cynnig diystyru gwriant sy’n gysylltiedig ag anabledd gwerth o leiaf 5 y cant o Gymhorthdal Incwm sylfaenol yr unigolyn. Mae’r rhyddhad cyfradd safonol ychwanegol hwn ar ben y 35 y cant a bydd yn lleihau peth ar y baich ariannol sydd ar ofal cartref a gwasanaethau dydd i’r rheini sydd eisoes â threuliau uchel o ganlyniad i’w cyflwr neu anabledd.

Yn seiliedig ar y costau dros dro sydd ar gael i’r grŵp, gall fod yn bosibl mynd ymhellach na’r 5 y cant hwn; caiff hyn ei gadarnhau wrth i’r costau terfynol ar gyfer y cynigion hyn gael eu cadarnhau wrth iddynt fod yn destun ymgynghoriad.

Ar ôl ystyried adroddiad y grŵp, rwyf wedi derbyn eu hargymhellion yn llawn. Yn unol â hynny, ar 10 Tachwedd, rwyf wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus  ar fy nghynigion i gyflwyno’r newidiadau hyn. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd 5 Ionawr 2007 ac mae copi ar gael yn:

http://new.wales.gov.uk/consultations/currentconsultation/healandsoccarecurrcons/907196/?lang=cy


Yn amodol ar y canlyniad, rwy’n bwriadu rhoi’r newidiadau arfaethedig ar waith o safbwynt codi tâl o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae’r argymhellion hyn yn mynd ymhellach o lawer na’r hyn a gyhoeddais ym mis Chwefror ac yn wreiddiol, fy mwriad oedd lleihau effaith codi tâl ar y rheini sydd ar incwm isel sy’n derbyn gofal cartref personol yn unig.

Yn ogystal â’r cynnydd hwn ar y pecyn, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybod i Aelodau am gamau gweithredu pellach yr ydym yn eu cymryd i gynorthwyo pobl anabl yng Nghymru. Gallwch werthfawrogi pa mor hanfodol yw cyfraniad cymhorthion ac addasiadau wrth ei gwneud yn haws i bobl anabl fod yn annibynnol. Mae hyn i’w weld yn glir gyda phwysigrwydd cadeiriau olwyn i’r bobl hynny sydd â phroblemau symud. Felly, rydym yn sicrhau bod £600,000 ychwanegol ar gael i Gomisiwn Iechyd Cymru brynu mwy o gadeiriau olwyn modur.  Bydd hyn yn lleihau’n sylweddol yr amser y mae pobl yn ei dreulio yn aros am yr offer hanfodol hyn.