Skip to content

Ysgrifenedig - Defnyddio Cardiau Adnabod I Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus Yng Nghymru, Yn Arbennig Pan Gânt Eu Defnyddio Gan Bobl Nad Ydynt Yn Wladolion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Rhoddwyd cydsyniad brenhinol i 'r Ddeddf Cardiau Adnabod ar 30 Mawrth 2006.  Mae'r rhan fwyaf o'i darpariaethau (gan gynnwys yr awdurdod i wneud rheoliadau o dan adrannau 13 ac 14) yn dod i rym ar ddiwrnod a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn.  Ni wnaed gorchymyn o'r fath eto.

Mae Adran 13 y Ddeddf yn ymwneud â'r pwer i wneud mynediad i wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru) yn amodol ar wiriadau adnabod.

Mae Adran 14 y Ddeddf yn rhoi awdurdod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os yw'n dymuno, wneud rheoliadau o dan adran 13 mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru (h.y. y gwasanaethau cyhoeddus hynny yng Nghymru lle mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arfer ei swyddogaethau).  Caiff y pwerau hyn eu harfer gan Weinidogion Cymru o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 y flwyddyn nesaf.

Ar 7 Mehefin 2005 dywedais nad oedd yn fwriad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio cardiau adnabod y DU er mwyn cael mynediad i wasanaethau cyhoeddus sy'n dod o fewn cylch gwaith y Cynulliad.   Y Llywodraeth mewn grym ar ôl etholiadau'r flwyddyn nesaf fydd yn penderfynu p'un ai i gadw at y sefyllfa honno.