Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a GwasanaethauCymdeithasol
Mae’n hymagwedd ddeublyg yn parhau i lywio polisi iechyd y weinyddiaeth hon, gan ganolbwyntio’n gryf ar achosion sylfaenol y galw am wasanaethau iechyd yng Nghymru a gwella profiadau’r claf i’r rheini ohonom sy’n mynd yn sâl.
Fel y cawsom ein hatgoffa gan Wanless, ni fyddwn byth yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r GIG oni fyddwn yn dwyn perswâd ar bobl i roi sylw i’w hanghenion iechyd a’u hamgylchiadau eu hunain. Her Iechyd Cymru yw’n prif raglen ar gyfer sicrhau’r broses honno ac mae wedi derbyn cefnogaeth gref gan lawer o Aelodau’r Cynulliad.
Gallaf nodi i’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gynhaliwyd yn Chwefror a Mawrth fod yn llwyddiant ysgubol. Dosbarthwyd cyfanswm o 6,500 o becynnau gweithredu i aelodau’r cyhoedd, sef cyfradd sy’n rhagori ar yr hyn a gyflawnwyd mewn ymgyrchoedd tebyg. Dengys gwerthusiad o’r ymgyrch i’r ymwybyddiaeth o Her Iechyd Cymru ddyblu bron dros gyfnod o bedwar mis hyd ddiwedd Mawrth. Yr ydym wedi creu llwyfan newydd ym meddyliau’r cyhoedd ac oddi yno gallwn greu màs critigol a momentwm ar gyfer yr ymgyrch, a chyda chymorth pob plaid yn y Cynulliad, hyderaf y gallwn wneud hynny.
Ochr yn ochr ag agenda iechyd y cyhoedd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithredu i fynd i’r afael ag amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd. Dengys y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw y llwyddiant ysgubol a gafwyd dros y flwyddyn ddiweddaf. Ddiwedd Mawrth nid oedd unrhyw glaf yn aros mwy nag wyth mis am lawdriniaeth ar y galon neu anigioplasti yng Nghymru neu am fwy na chwe mis am lawdriniaeth cataract mewn ymddiriedolaeth yng Nghymru, a dim ond 18 claf oedd yn aros am fwy na phedwar mis—ac yr oedd 17 o’r rheini yn aros mewn ymddiriedolaethau yn Lloegr, nad oeddent yn gallu cyrraedd targed Cymru.
Yn fwy cyffredinol, gwelwyd lleihad o 99.5 y cant o blith y cleifion allanol hynny a oedd yn aros am fwy na 18 mis, sy’n golygu gostyngiad mewn niferoedd o 6,100 i 31, ac yr oedd 15 o’r rheini yn aros am driniaeth y tu allan i Gymru. Gwelwyd lleihad o 98.5 y c ant o blith y cleifion mewnol hynny a oedd yn aros am fwy na 18 mis, sef gostyngiad mewn niferoedd o 1,380 i 21, ac yr oedd naw o’r rheini wedi gwrthod ail gynnig o driniaeth ac felly, nid oeddent yn aros am driniaeth gan y gwasanaeth iechyd. Gwelwyd gostyngiad llawn mor syfrdanol o blith y cleifion mewnol a oedd yn aros am fwy na 12 mis, gan ostwng 90 y cant o 8,457 i 845. Pan ystyrir yr achosion hynny lle y gwrthodir ail gynnig o driniaeth, dim ond 108 o bobl a oedd yn aros ar ddiwedd y flwyddyn. Golyga hyn fod nifer y cleifion sy’n aros am fwy na 12 mis am driniaeth claf mewnol yng Nghymru ar ei isaf ers Mawrth 1994, ac mae’n is na’r ffigurau a etifeddwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.
Mae’r llwyddiannau ysgubol hyn i’w priodoli i nifer o ffactorau, ond yn ddi-au, mae cynllun ail gynnig Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn ffactor allweddol i sicrhau newid yn y sefyllfa. Ymwelais â’r tîm comisiynu ail gynnig sy’n gyfrifol am y cynllun yn gynharach y bore yma i’w longyfarch ar y gwaith a wnaed ganddo ar ran cleifion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yr her yr ydym wedi ei gosod i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw adeiladu ar y llwyddiannau hyn dros y 12 mis i ddod.
Ar hyn o bryd 18 mis ar y mwyaf y mae’n rhaid i glaf aros yng Nghymru am apwyntiad claf allanol a 12 mis am lawdriniaeth claf mewnol. Yn 2005-06 byddwn yn lleihau hynny ymhellach, felly erbyn diwedd Mawrth 2006, ni fydd unrhyw un yn gorfod aros am fwy na 12 mis am apwyntiad claf allanol cyntaf neu lawdriniaeth claf mewnol neu lawdriniaeth ddydd. Pwysleisiaf unwaith yn rhagor nad oes rhaid i’r rhan fwyaf o gleifion yng Nghymru aros am gyfnodau mor hir â hyn. Mae saith o bob 10 person ar restr cleifion allanol Mawrth wedi bod yn aros am lai na chwe mis ac nid y 18 mis a nodir fel uchafswm. Mae tri chwarter y rheini sy’n aros am driniaeth claf mewnol dewisol wedi bod yn aros am lai na chwe mis ac nid y 12 mis a nodir fel uchafswm. Un ar ddeg wythnos yw’r cyfnod aros canolog am lawdriniaeth mewn ysbyty ac nid 11 mis.
Gadewch i mi roi’r llwyddiannau hyn mewn cyd-destun ehangach. Pan ddeuthum yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd y gwrthbleidiau yn awyddus i ddweud wrthyf nad oedd modd adfer y GIG yng Nghymru. Gwrthodais yr haeriadau hunanlesol hyn bryd hynny, a phedwar mis yn ddiweddarach, yr wyf yn eu gwrthod yn fwy egnïol byth. Yn ystod y cyfnod hwnnw, yr wyf wedi cyhoeddi rhaglen gyfalaf mwy estynedig o lawer a fydd yn golygu cynnydd mewn gwariant i dros £300 miliwn ar offer ac adeiladau newydd ac wedi’u moderneiddio yn y GIG yng Nghymru. Mae’r lefelau staffio uchaf erioed a gyhoeddwyd yn dangos cynnydd o 32 y cant yn niferoedd staff y GIG ers 1997. Mae 10,727 yn fwy o nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd, 443 yn fwy o ymgynghorwyr meddygol mewn ysbytai ers 1997 a 3,369 yn fwy o staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol ers 1997. Yr wyf wedi dangos y gostyngiadau yn yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a gynhyrchwyd gan yr arian newydd a’r canolbwynt newydd ar y polisi. Ers Ionawr 2004, gwelwyd gostyngiad o 36 y cant yn nifer yr achosion o oedi o ran nifer y cleifion a gwelwyd gostyngiad o 45 y cant yng nghyfanswm yr achosion o oedi—y ffigur isaf ers i gofnodion ddechrau yn Ebrill 2002.
Wrth gwrs, mae angen gwneud mwy, a ddoe, yr oeddwn yn gallu cyhoeddi y bydd £5 miliwn ychwanegol yn helpu i foderneiddio contractau deintyddol y GIG yng Nghymru a hynny ar unwaith. Mae hyn yn unol â’r hyn y mae ar ddeintyddion ei eisiau, a gobeithio, bydd yn cryfhau deintyddiaeth y GIG yng Nghymru cyn dyfodiad y contract deintyddol newydd.
Bellach mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru bedair blynedd gwarantedig i ostwng amseroedd aros gam wrth gam i gyfanswm o chwe mis, o’r atgyfeirio i’r driniaeth. Gall fod yn hyderus yn y ffaith bod yr arian ar gael i ddarparu’r cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i gefnogi’r gostyngiad hwnnw. Gall fod yn hyderus yn y ffaith y bydd y staff yno i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen, a gall fod yn hyderus yn y ffaith bod Llywodraeth Cynulliad yng Nghymru sy’n benderfynol o ganolbwyntio’n ddi-ildio ar ddileu anghydraddoldeb a mynd i’r afael ag achosion salwch. Mae’r elfennau craidd bellach ar waith i greu system iechyd a gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf yng Nghymru. Cymeradwyaf ein record a’n cynlluniau i’r dyfodol i’r Cynulliad.