Skip to content

Fynediad i Gwasanethau Prif Gofal

Brian Gibbons,Y Gweindog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Hydref 2003, anfonwyd canllawiau at y Byrddau Iechyd Lleol ar weithredu cynllun strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol sy'n diffinio'r targed mynediad ar gyfer Cymru.  Mae'r canllawiau'n rhoi ymrwymiad y bydd cleifion yn gallu gweld aelod priodol o'r tîm gofal sylfaenol 24 awr fan bellaf ar ôl gofyn am gael apwyntiad ac yn gynt o lawer mewn argyfwng.

Ar 14 Hydref 2003, cyhoeddodd Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bryd hynny, ymrwymiad o £7.1 miliwn i ddarparu pecyn o wasanaethau  gwell fel rhan o'r Contract newydd ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol.  Neilltuwyd £2.6 miliwn o'r arian hwn at baratoi a darparu Mynediad. Roedd pob practis yn gallu gwneud cais am £5,000 i newid y ffordd yr oeddent yn gweithio ar yr amod ei fod yn paratoi cynllun mynediad ar gyfer y practis yr oedd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno arno.  Y Byrddau Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am gymeradwyo a monitro'r cynlluniau mynediad ar gyfer practisau yn eu hardal.

Yn ogystal â'r taliad hwn a fydd ar gael ym mhob un o'r tair blynedd o 2003/4 i 2005/6, bydd pob practis sy'n cyrraedd y targed yn derbyn taliad bonws o 50 o bwyntiau ansawdd, sef  tua £6,000 ychwanegol y flwyddyn i bractis arferol. Bydd modd i bob practis dderbyn cyfanswm o ryw £11,000.

Mae'r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yn cefnogi practisau sy'n ymrwymo i gyrraedd y targed mynediad drwy'r cynllun Hyfforddiant ar gyfer Mynediad Uwch. Mae'r cynllun yn pwysleisio'r angen i ddatblygu system ddibynadwy a fydd yn caniatâu i gleifion gael eu gweld ar y diwrnod y maent am gael eu gweld.  Gellir hefyd drefnu apwyntiadau ymlaen llaw mewn amgylchiadau'n ymwneud â pharhad gofal neu gyfleuster. Rhaid i bob practis yng Nghymru sy'n ymuno â'r cynllun ymrwymo i gyrraedd y targed erbyn mis Ebrill 2006.  Ar hyn o bryd, mae 93% o Bractisau Meddygon Teulu yn cyrraedd y targed mynediad ar gyfer Cymru ac yn hawlio taliad ar ei gyfer.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi'n datblygu polisi i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â sut y mae modd i gleifion gael gofal sydd heb ei drefnu na'i gynllunio.  Bydd y polisi hwn yn darparu'r fframwaith ar gyfer datblygu dull integredig o ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys mynediad i ofal sylfaenol brys a gwasanaethau brys.  Thema allweddol y polisi yw sicrhau y gall cleifion gael mynediad i'r gwasanaeth clinigol mwyaf priodol, ni waeth sut y maent yn cysylltu â'r gwasanaeth.