Skip to content

Cyhoeddi Adroddiad Terfynol yr Athro Townsend Anghydraddoldebau mewn Iechyd: Y Dimensiwn Cymreig 2002-2005

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Minister for Health and Social Services
Diben y datganiad hwn yw hysbysu’r Aelodau am gyhoeddi adroddiad terfynol yr Athro Peter Townsend – Anghydraddoldebau mewn Iechyd: Y Dimensiwn Cymreig 2002-2005 Bydd copïau o'r adroddiad yn cael eu rhoi yn Llyfrgelloedd y Cynulliad.

Comisiynwyd yr Athro Townsend gan y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2000 i adolygu'r trefniadau ar gyfer dyrannu adnoddau gofal iechyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol. Cyflwynwyd ei adroddiad cyntaf, “Targedu Iechyd Gwael”, gerbron y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2001, a chafodd ei fabwysiadu gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2002. Roedd yr adroddiad yn cynnig y dylid cyflwyno fformiwla anghenion uniongyrchol ar gyfer dyrannu adnoddau. Roedd yn argymell camau gweithredu i wella iechyd a lles o fewn y GIG a thu hwnt (y "Strategaeth Ddeuol"), ac i ddatblygu gwybodaeth well am sut y mae adnoddau gofal iechyd yn cael eu defnyddio.

Wedi i’r Yn dilyn mabwysiadu'r adroddiad gael ei fabwysiadu, gwahoddwyd yr Athro Townsend i gadeirio Pwyllgor Sefydlog i gynghori'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddatblygu a gweithredu'r fformiwla a'r argymhellion eraill. Mae'r adroddiad terfynol yn cwblhau'r gwaith hwn.



Argymhellion Allweddol Adroddiad newydd Townsend.

Dyma'r negeseuon allweddol yn adroddiad yr Athro Townsend:

• Cefnogaeth barhaus i'r dull anghenion uniongyrchol o ddyrannu adnoddau'r GIG. Mae'r adroddiad yn argymell y dylid ymestyn y dull hwn i'r gyllideb ragnodi yn 2006-07, ac y dylid adolygu effaith y contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol ar ddosbarthu adnoddau i fyrddau iechyd lleol yn unol ag anghenion. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylid sefydlu Grwp Arbenigol i gynghori ar fireinio'r model anghenion uniongyrchol ymhellach. Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cymeradwyo'r argymhelliad hwn. Cyfarfu'r Grwp am y tro cyntaf ar 15 Tachwedd. Bydd papur i nodi ar y grwp yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Flwyddyn Newydd.


• Pwysigrwydd bod y byrddau iechyd lleol yn cymryd camau i dargedu'r adnoddau a ddyrennir iddynt i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn eu hardaloedd, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.

• Mae'r adroddiad yn galw am gynllun gwella iechyd cenedlaethol, gan gynnwys camau gweithredu ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir, gyda byrddau iechyd lleol yn trosi’r weledigaeth genedlaethol yn gamau gweithredu lleol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes yn bwrw ymlaen â hyn drwy Cynllun Oes a Her Iechyd Cymru.


• Datblygu systemau a phrosesau ariannol i olrhain y defnydd a wneir o adnoddau ar lefel cleifion unigol. Ni ellir cyflawni'r argymhelliad ar hyn o bryd drwy weithgarwch a systemau gwybodaeth ariannol presennol y GIG. Fodd bynnag, mae'r fenter Cyllidebu Rhaglenni yn mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn yn rhannol, gan ganiatáu i fyrddau iechyd lleol ddadansoddi'u llinell sylfaen bresennol yn ôl grwpiau afiechyd ac archwilio hyn yn erbyn data anghenion.

• Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai'r Cynulliad weithredu fel eiriolwr dylanwadol i lywodraeth y DU am yr effeithiau a gaiff materion sydd heb eu datganoli, fel polisi budd-daliadau, ar iechyd pobl Cymru.

• Mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r Grwp Arbenigol ystyried rhai o'r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori yngly^n â sensitifrwydd y model i adlewyrchu anghenion iechyd rhai sectorau o'r boblogaeth yn fwy manwl. Fodd bynnag, mae'n ailddatgan bod y model presennol yn gadarn iawn ar gyfer dyrannu adnoddau'r GIG ar sail angen.


Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn broesawu adroddiad yr Athro Townsend fel prosiect arloesol i greu'r cysylltiadau rhwng proses dyrannu’r gyllideb a phroblemau iechyd sylfaenol Cymru. Rydym yn croesawu’n arbennig yr argymhellion ar gyfer mwy o gamau gweithredu lleol ac ar gyfer rhagor o gamau gweithredu y tu allan i'r GIG . Maent yn cyd-fynd â'r weledigaeth ar gyfer gwella iechyd a nodir yn Cymru: Gwlad Well, a Cynllun Oes. Rwy'n bwriadu cwrdd â'r Athro Townsend yn y Flwyddyn Newydd i ddiolch iddo am ei waith.