Skip to content

Gofal Cartref am Ddim ar gyfer Pobl Anabl

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol
Adroddiad cynnydd yw'r datganiad hwn ar ein hymrwymiad i ddarparu gofal cartref am ddim ar gyfer pobl anabl. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn bwriadu cynnal ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch ein cynigion mewn perthynas â chynllun ar gyfer gweithredu ein hymrwymiad.  Mae'r papur yn amlinellu ar ba sail yr wyf yn bwriadu ymgynghori â'r cyhoedd ar hyn o bryd, yn amodol ar waith pellach a gwaith casglu data.  Bydd penderfyniadau ynghylch y cynllun, y bwriedir ei gyflwyno yn yr hydref fel y cyhoeddwyd ynghynt, yn cael eu gwneud ar ôl yr ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd. Bydd strwythur y cynllun terfynol yn cael ei bennu yn 2006 ar ôl i nifer o gynlluniau peilot gael eu cynnal mewn gwahanol ardaloedd. Bydd y rhain yn dechrau yn ystod hydref eleni.  

Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwerau na'r adnoddau ar hyn o bryd ar gyfer gweithredu polisi o ofal personol am ddim. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ceisio lleihau effaith codi tâl drwy wella trefniadau profion modd ar gyfer gofal preswyl a thrwy ganllawiau statudol sy'n amlinellu egwyddorion cyffredinol ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn llunio eu trefniadau codi tâl mewn perthynas â gofal cartref.  Mae rhai pobl anabl eisoes wedi elwa ar y gwelliannau hyn.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i chwilio am ffyrdd ymarferol a fforddiadwy o fewn ei phwerau presennol ar gyfer gwella'r trefniadau presennol.  Bydd y cynigion i ddarparu gofal cartref am ddim ar gyfer pobl anabl yn gam sylweddol arall ymlaen. Bydd yn cynorthwyo pobl y mae'n rhaid iddynt wynebu costau byw sylweddol uwch yn sgîl nam sylweddol yn eu bywyd dyddiol sy'n golygu bod angen gofal ymarferol arnynt. Bydd yn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu trin mewn ffordd gyson a bydd yn lleihau baich talu am ofal.          

Gall awdurdodau lleol godi tâl yn ôl eu disgresiwn am wasanaethau gofal amhreswyl ar gyfer oedolion o dan adran 17 o Ddeddf Dyfarniadau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Nawdd Cymdeithasol 1983.  O dan y ddeddfwriaeth bresennol nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i waredu'r disgresiwn hwn, ac eithrio ar gyfer y chwe wythnos cyntaf. Fodd bynnag, mae'n gyfreithlon i'r Cynulliad sefydlu cynllun grantiau a fyddai'n golygu bod awdurdodau lleol yn derbyn cyllid ar gyfer y costau sydd ynghlwm â pheidio â chodi tâl ar grwpiau penodol o bobl am wasanaethau arbennig. Byddai'r grant hwn yn cael ei dynnu yn ôl os byddai awdurdod lleol yn ailgyflwyno taliad. Rwy'n cynnig gweithredu'r polisi drwy gynllun grantiau.  

Rydym yn awyddus i gyflwyno cynllun â'r egwyddorion cyffredinol canlynol yn sail iddo:

• bydd yn cyflawni ein hymrwymiad
• bydd yn deg
• bydd yn glir i ddefnyddwyr gwasanaethau
• bydd yn syml i'w weithredu
• ni fydd yn amharu ar hawliau i fathau eraill o gymorth ac i fudd-daliadau:
• bydd yn fforddiadwy, a bydd yn parhau i fod yn fforddiadwy  

Sefydlwyd Grw^p Arbenigol y llynedd er mwyn datblygu opsiynau ar gyfer gweithredu ein hymrwymiad.  Roeddem yn awyddus i glywed oddi wrth bobl â gwybodaeth am y maes cyn llunio ein cynigion at ddiben ymgynghori. Archwiliodd y Grw^p mewn cryn fanylder pa ddiffiniadau o anabledd a pha fathau o wasanaethau ddylai fod yn gymwys o dan y cynllun ac amlinellodd sut y gallai'r trefniadau cyllid grant weithio. Rwy'n ddiolchgar iawn i’r Grw^p am ei waith sydd wedi ffurfio sail i'r cynigion yr wyf yn eu hamlinellu yn y datganiad hwn. Er bod gwaith y Grw^p wedi ateb rhai o'r cwestiynau ynghylch gweithredu'r polisi hwn, tynnodd sylw at feysydd yr oedd angen ymgymryd â rhagor o waith ymchwil yn eu cylch ac yr oedd angen eu hystyried ymhellach, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y meysydd hyn.

O dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth gofal oddi wrth awdurdod lleol mae'n rhaid i berson ddangos nam sylweddol a pharhaol sy'n deillio o anabledd corfforol neu synhwyrol, salwch, anaf neu reswm penodol arall. Ar ôl ystyried cyngor y Grw^p ar wahanol ddulliau o ddehongli'r diffiniad o anabledd, rwy'n bwriadu ymgynghori ar y sail y dylai'r cynllun gynnwys y sawl y bernir eu bod yn gymwys ar gyfer cymorth gofal cartref gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sy'n gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd, er enghraifft Lwfans Gweini a Lwfans Byw i'r Anabl.
 
Mae hyn yn cyd-fynd â'r dull o ffurfio ymrwymiad y maniffesto ac mae'n defnyddio profion sydd eisoes yn cael eu defnyddio ac a gydnabyddir yn gyffredinol.  Fodd bynnag, mae sawl risg ynghlwm â chysylltiadau â chymhwyster ar gyfer budd-daliadau nad oes gan y Cynulliad reolaeth drostynt - er enghraifft os bydd cymhwyster ar gyfer y budd-daliadau hynny yn newid.   Byddai gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed sylwadau gan ymgynghoreion ynghylch hyn.  Mae'r gwaith pellach sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn cynnwys cymharu nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau awdurdodau lleol â'r nifer sy'n derbyn y budd-daliadau hyn.      

Yn unol â'r egwyddorion a amlinellir uchod, rwy'n bwriadu ymgynghori ar sail darparu "gofal personol" yng nghartref defnyddiwr y gwasanaeth a fyddai'n golygu bod angen i asiantaethau gofal cartref gael eu cofrestru o dan Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004. Nid yw Deddf Safonau Gofal 2000, y gwneir y Rheoliadau oddi tani, yn rhoi diffiniad o ofal personol. Fodd bynnag mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Asiantaethau Gofal Cartref yng Nghymru yn amlinellu barn y Cynulliad fod gofal personol yn cynnwys:

" (a) cynorthwyo gyda gweithrediadau'r corff megis bwydo, ymolchi, cerdded a mynd i'r ty bach

(b) gofal nad yw'n golygu cynorthwyo gyda gweithrediadau'r corff yn union, ond sydd yn dal yn cynnwys cyffwrdd corfforol ac agos â'r corff"

Mae gan awdurdodau lleol y pw^er i ddarparu gwasanaethau cymorth amrywiol iawn (yn arbennig o dan Ddeddf y Cleifion a'r Anabl Cronig 1970) ond credaf ei bod yn briodol bod y polisi yn rhoi blaenoriaeth i ofal personol.  Dyma'r hyn a wneir yn yr Alban lle darperir gofal personol am ddim ar gyfer pawb 65 mlwydd oed a throsodd.

Mae trefniadau'r cynllun grantiau arfaethedig yn faes arall lle mae gwaith pellach yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a lle mae trafodaethau yn cael eu cynnal â chynrychiolwyr ym maes llywodraeth leol.  Mae rhan fwyaf o gostau gwasanaethau gofal personol a ddarperir i gleientiaid awdurdodau lleol yn cael eu bodloni o fewn y setliad refeniw llywodraeth leol.   Mae awdurdodau lleol ar y cyd yn adennill cyfanswm o oddeutu 10 y cant o gost darparu gwasanaethau oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaethau, er bod awdurdodau lleol yn amrywio'n sylweddol o ran y tâl a godir ganddynt.  Mae'r costau sy'n deillio o'r polisi yn cynnwys yr incwm o godi tâl a gollwyd gan awdurdodau lleol, unrhyw ofyn ychwanegol (er enghraifft oddi wrth y rhai sy'n gwneud eu trefniadau eu hunain heb gynnwys yr awdurdod lleol) ac unrhyw gostau asesu ychwanegol.  Mae cyllidebau'r Cynulliad o 2005-6 ymlaen yn cynnwys darpariaeth uwch ar gyfer y cynllun (£7.5m yn 2005-06, £15m yn 2006-07 ac £20m yn 2007-08).  Rydym hefyd wrthi'n comisiynu gwaith prisio allanol ac awdurdodol o'r polisi.

Bydd yn bwysig iawn i ddefnyddwyr gwasanaethau ac i'r rhai sy'n gweithredu'r polisi ein bod yn cyflawni'r gwaith hwn yn iawn.  Credaf mai'r dull mwyaf synhwyrol ac ymarferol fydd cynnal cynlluniau peilot mewn perthynas â'r trefniadau hyn mewn sawl ardal, gan ddechrau yn yr hydref. Dylid elwa ar brofiad cynlluniau peilot blaenorol wrth gyflwyno'r cynllun. Byddaf yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb oddi wrth awdurdodau lleol sy'n dymuno ymgymryd â chynllun peilot mewn perthynas â'r trefniadau hyn fel rhan o'r broses ymgynghori.