Skip to content

Adroddiad y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ar adwaith niweidiol i'r brechlyn BCG yn Aberystwyth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yn Ysgol Penweddig fore'r 16 Tachwedd, 2004, rhoddwyd y brechlyn BCG i'r disgyblion.

Cafodd 118 o'r disgyblion eu brechu, ond cafodd un ohonynt adwaith anaffylactig i'r brechlyn, a 12 arall fân adweithiau.   Bu'n rhaid i'r disgybl gafodd yr adwaith anaffylactig gael help i anadlu a chafodd ei dderbyn i'r Uned Gofal Dwys.   Cafodd deg disgybl arall eu derbyn i ward gyffredinol er mwyn cadw llygad arnynt; cafodd 7 ohonynt eu rhyddhau o'r ysbyty y noson honno, a chafodd y tri arall eu rhyddhau fore trannoeth.

Anfonwyd dau ddisgybl arall i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar ddiwedd y diwrnod ysgol, ond cawsant fynd gartref ar ôl i'r staff meddygol gael cyfle i'w harchwilio.

Roedd y cyflenwad o frechlynnau a ddefnyddiwyd yn Ysgol Penweddig wedi cael ei ddefnyddio mewn sesiwn frechu mewn ysgol arall y diwrnod cynt, heb unrhyw adweithiau hysbys.  

Hysbyswyd Labordy Rheoli Ansawdd, Caerdydd a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)  am y digwyddiad.   Eu hymateb hwy oedd bod y cyflenwad hwn o frechlynnau yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ledled y DU, nad oeddent yn gwybod am unrhyw broblemau eraill, a'u bod yn argymell bod y cyflenwad yn dal i gael ei ddefnyddio.

Y digwyddiadau yn nhrefn amser


Cafodd y brechlyn a ddefnyddiwyd yn y sesiwn frechu yn Ysgol Penweddig ei gasglu gan fferyllfa Ymddiriedolaeth y GIG yn ystod y bore dan sylw a'i gludo yno mewn bocs oer.   Cafodd y brechlyn ei ailgyfansoddi (drwy gymysgu'r teneydd gyda phowdr) gan 3 staff nyrsio, a rhoddwyd y brechlyn gan 4 meddyg.  Rhyngddynt, roedd gan y staff hyn 45 mlynedd o brofiad o gynnal sesiynau o'r fath.

Yn Nhabl 1 mae crynodeb o'r disgyblion a gwynodd am symptomau yr honnir i'r brechlyn eu hachosi yn y drefn y bu i'r symptomau hynny ymddangos.   Cyn y disgybl hwnnw a gafodd symptomau anaffylactig, cwynodd chwe disgybl am symptomau clasurol o syncôp:  chwysu, cyfog, y bendro, golwg niwlog, etc. ac fe'u harchwiliwyd gan y tîm meddygol yn unol â'r drefn.   Am 11.30 a.m. fe wnaeth disgybl nad oedd yn un o’r chwech cyntaf, ac a oedd wedi cael ei frechu 1½ awr ynghynt, lewygu yn y toiledau gan fethu ag anadlu.    Cafodd driniaeth yn y fan a'r lle gan y tîm meddygol a oedd yn dal yn yr ysgol, rhoddwyd adrenalin iddo ac fe'i cludwyd i'r ysbyty.  Yn y cyfamser, daeth disgybl arall (3-RW) a oedd wedi dychwelyd i'r dosbarth, yn ôl i gael ei archwilio a chafodd ocsigen drwy fasg ac adrenalin yn yr ysgol.    Ar ôl hynny, cafwyd bod 4 disgybl arall yn dangos symptomau clasurol o syncôp.   Penderfynwyd anfon pob un o'r 10 disgybl oedd â symptomau i'r ysbyty i'w hasesu ymhellach.

Cafodd y rhan fwyaf o'r disgyblion eu rheoli fel petaent yn achosion anaffylactig yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, a chafodd pob un ohonynt eu derbyn i ward gyffredinol i gadw llygad arnynt. Cafodd yr achos go-iawn o sioc anaffylactig ei dderbyn i'r Uned Gofal Dwys i gael cymorth i anadlu.

Ar ddiwedd y diwrnod ysgol daeth dau ddisgybl arall i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn cwyno o symptomau tebyg i'r rhai a gafwyd yn ystod y dydd.   Fe'u hanfonwyd gartref yr un noson ar ôl eu harchwilio, a gwnaed yr un modd gyda 7 o'r 10 disgybl a dderbyniwyd i'r ward gyffredinol yn gynharach y diwrnod hwnnw.    Cafodd tri disgybl arall eu rhyddhau o'r ysbyty y bore wedyn, ond ni chafodd y disgybl a dderbyniwyd i'r Uned Gofal Dwys ei anfon gartref am 3 diwrnod arall.


Diagnosis

Diagnosis clinigol, yn anad dim, yw anaffylacsis a syncôp.   Mae Para. 10 (tt. 37-42)  yn y Llyfr Gwyrdd (Immunisation against Infectious Disease, Yr Adran Iechyd, Gwasg ei Mawrhydi, 1996) yn rhoi disgrifiad defnyddiol o'r gwahaniaethau a siart llif i helpu i wahaniaethu rhwng y ddau.   Yn Ffig. 1 dangosir faint o amser a aeth heibio rhwng y brechiad BCG a dechrau'r symptomau yn y rhai a gwynodd.   Dim ond 2 o'r disgyblion ddechreuodd ddangos symptomau y tu allan i'r 0-60 munud clasurol ar gyfer syncôp, ac un o'r rheini oedd yr "anaffylacsis go-iawn".   Cafodd pob un o'r disgyblion eu profi am tryptase - ensym sydd â chysylltiad ag anaffylacsis - ac roedd y profion yn negyddol hyd yn oed yn yr achos clinigol.   Serch hynny, roedd gan yr achos clinigol lefelau uwch na'r cyffredin o IgE, ond ni phrofwyd y disgyblion eraill am hyn.




Casgliad

Cafodd un disgybl adwaith anaffylactig wedi iddo gael y brechlyn BCG yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth, ar 16 Tachwedd, 2004.   Cafodd 10 disgybl arall, a oedd wedi cwyno o symptomau sy'n gysylltiedig â syncôp, eu hanfon i'r ysbyty a chafodd y rhan fwyaf eu rheoli fel petai ganddynt anaffylacsis cyn iddyn gael eu hanfon gartref.   Fwy na thebyg, arweiniodd y penderfyniad hwn at syniad o fewn y gymuned bod gan yr holl ddisgyblion anaffylacsis.    Serch hynny, os oes amheuaeth, mae'r Llyfr Gwyrdd yn argymell bod achwynwyr yn cael eu trin fel achosion o anaffylacsis.

Mae'n annhebygol bod gan bob un o'r disgyblion anaffylacsis gan fod MHRA yn dweud bod y cyflenwad hwn o'r brechlyn yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y DU ac nad yw'n gwybod am unrhyw achosion eraill o adwaith i'r brechlyn.   Hefyd, mae'r un criw o staff profiadol wedi gweinyddu BCG (ond cyflenwad gwahanol o'r brechlyn, serch hynny) yn ysgolion eraill Ceredigion ers y digwyddiad ym Mhenweddig ac ni ddaeth unrhyw achos arall o anaffylacsis i'r amlwg.   Cydnabyddir bod pob math o frechlynnau yn medru achosi anaffylacsis, ond bod hynny'n brin iawn.  Yr un digwyddiad go-iawn oedd yr unig ddigwyddiad a nododd yr MHRA, a daethant hwy i'r casgliad nad oedd y broblem yn ymwneud â'r cyflenwad o frechlynnau dan sylw.

Allwch llawrlwytho y dogfen ynglyn ag Brechlyn BCG sydd yn dangos:

Nifer gyda Symptomau ers rhoi’r Brechlyn BCG, Ysgol Penweddig, Aberystwyth (Cymraeg)
Nifer gyda Symptomau ers rhoi'r Brechlyn BCG, Ysgol Penweddig, Aberystwyth (Saesneg)