Skip to content

Datganiad ar y Papur Gwyn, ‘Trefn Lywodraethu Well i Gymru’

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Prif Weinidog
Yn gynharach heddiw, gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddatganiad gerbron Ty’r Cyffredin ynglyn â chyhoeddi’r Papur Gwyn hwn. Deallaf fod Swyddfa Cymru yn trefnu i bob Aelod o’r Cynulliad dderbyn copi. Fe gyflwynir Mesur tua diwedd y flwyddyn hon neu’n gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi cynigion y Papur Gwyn ar waith.

Mae’r Papur Gwyn yn cadarnhau cynigion ar gyfer ymwahaniad cyfreithiol cangen lywodraethol y Cynulliad Cenedlaethol oddi wrth y gangen ddeddfwriaethol. Tair blynedd yn ôl, cymrodd y Cynulliad gamau, o fewn ffiniau Deddf Llywodraeth Cymru 1998, i wahaniaethu rhwng rôl llywodraethol Gweinidogion y Cynulliad a rôl ddeddfwriaethol a chraffu Aelodau’r Cynulliad. Fodd bynnag, tra bydd y Cynulliad, yn gyfreithiol, yn parhau i fod yn un corff corfforaethol, ni fydd y gwahaniaeth allweddol hwnnw’n glir. Bydd cynigion y Papur Gwyn yn cyflawni’r gwahaniaeth hwnnw. Mae pawb yng Nghymru eisoes yn gyfarwydd â’r egwyddor honno gan ei fod yn amlwg yn y ffordd yr ydym yn cael ein llywodraethu ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae pobl yr Alban hefyd yn ei weld ar waith yn ei Senedd hwy, ond nid yw ar waith yng Nghymru hyd yma.

O ganlyniad i’r newidiadau hynny, byddai Gweinidogion y Cynulliad, fel eu Gweinidogion cyfatebol yn y DU a’r Alban, yn dal swydd ar ran y Goron. Byddai’r Prif Weinidog, pwy bynnag fydd ef neu hi, yn cael ei enwebu gan y Cynulliad, ond byddai’n dal swydd ar yr un sail â Phrif Weinidog y DU neu Brif Weinidog yr Alban, drwy benodiad y Goron. Gyda chymeradwyaeth Ei Mawrhydi, byddai’r Prif Weinidog yn penodi Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion a fyddai hefyd yn dal swydd o dan y Goron. Byddai’r staff sy’n gweithio iddynt yn parhau'n rhan o’r gwasanaeth sifil.

Bydd gwahanu yn golygu y bydd y swyddogaethau gweithredol, sy’n gyfreithiol yn rhan o gyfrifoldeb i’r Cynulliad cyfan ar hyn o bryd, ac sy'n cael eu hymarfer gan Weinidogion ar ran y Cynulliad drwy ddirprwyaethau'n unig, yn cael eu trosglwyddo i gyfrifoldeb Gweinidogion y Cynulliad yn y dyfodol. Bydd Gweinidogion yn atebol i’r Cynulliad am ymarfer y swyddogaethau hynny, a chreffir arnynt gan y Cynulliad yn y cyswllt hwnnw.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hun, sef 60 o ACau, yn nes o ran strwythur a swyddogaethau i Seneddau’r DU a’r Alban. O ran strwythur, bydd gan y Cynulliad lawer mwy o ryddid i benderfynu ei weithdrefnau gwaith ei hun. Caiff y rhan fwyaf o’r gofynion manwl ar gyfer pwyllgorau a nodwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 eu diddymu, a chyfrifoldeb y Cynulliad fydd penderfynu pa bwyllgorau y mae am eu sefydlu a beth ddylai eu cylch gwaith fod. Bydd y Cynulliad yn cyflogi ei staff ei hun, yn yr un ffordd â chyrff seneddol eraill.

O ran swyddogaethau’r Cynulliad, mae ail ran y Papur Gwyn yn ymwneud â chryfhau pwerau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n gosod allan yn glir dair elfen. Mae’r elfen gyntaf yn weithredol o heddiw ymlaen ac nid oes Mesur yn ofynnol i'w gweithredu. Mae hynny’n ymrwymiad i wneud yr elfen Gymreig mewn unrhyw Fesur yn Lloegr a Chymru ar faterion datganoledig mor hyblyg â phosibl o ran y pwerau a roddir i’r Cynulliad. O hyn ymlaen, caiff Mesurau eu llunio fel Mesurau fframwaith, gan roi cymaint o ryddid â phosibl i benderfynu union ffurf gweithredu deddfwriaeth yng Nghymru.

Mae angen darpariaethau’r Mesur ar gyfer yr ail elfen i’w gwneud yn bosibl i’r Senedd roi’r Awdurdod i’r Cynulliad ddeddfu mewn meysydd polisi penodol. Pan fydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud cais ffurfiol am bwer i ddeddfu mewn maes o fewn y terfynau a osodir allan yn y Mesur, byddai’r cais hwnnw'n fater i’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Senedd i’w ystyried, o dan weithdrefnau a osodir allan yn y Mesur. Os caiff y cais ei gymeradwyo, byddai Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn cael ei wneud a byddai’r Cynulliad wedyn yn gallu ymarfer y pwerau deddfwriaethol a ddirprwywyd iddo. Ni fyddai’r Cynulliad mwyach yn dibynnu ar gyfeiriad ato yn Araith y Frenhines i ddarparu'r newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol er mwyn pobl yng Nghymru. Gydag awdurdod Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, bydd y Cynulliad ei hun yn gallu dadlau a chymeradwyo deddfwriaeth a fyddai gynt wedi bod yn rhan o gylch gwaith y Senedd. Mae’r cynigion yn sefydlu cydbwysedd newydd a gwell rhwng y Cynulliad a’r Senedd ynglyn â’r awdurdod i ddeddfu ar gyfer Cymru.

Bydd yr hyn a ddisgrifiais yn caniatáu i ganghennau gweithredol a deddfwriaethol y Cynulliad hwn ddarparu ar gyfer pobl Cymru. Fodd bynnag, mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnig y dylai’r Mesur gynnwys darpariaeth ar gyfer refferendwm ar ôl y ddeddfwriaeth ar bwerau deddfwriaethol sylfaenol. Ac os bydd pryder, rywbryd yn y dyfodol, nad oes gennym yr holl offer angenrheidiol i wneud y gwaith, yna gellir gofyn i bobl Cymru am eu barn ar y mater hwnnw.

Yn olaf mae’r Papur Gwyn yn cynnig rhoi terfyn ar sefyllfa lle gall ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad sefyll fel ymgeiswyr mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol ar yr un pryd.
Mae’r newidiadau a ddisgrifir yn y Papur Gwyn, yn arbennig y cynigion gwahanu, yn golygu y bydd angen gwneud newidiadau sylfaenol yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Mae’r Papur Gwyn yn cynnig y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol gael y pwer i wneud cyfres o Reolau Sefydlog diwygiedig, yn ôl cyngor pwyllgor. Yr wyf yn siwr, o gofio ysbryd y gweithio a fu rhyngom hyd yma, y bydd yn barod i wrando ar unrhyw sylwadau yn cynnig mai un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn a ddylai baratoi’r Rheolau Sefydlog hynny, ac mai'r Cynulliad hwn a ddylai eu derbyn. Efallai y bydd arno angen pwerau wrth gefn fel y gall fod yn hollol siwr y bydd Rheolau Sefydlog diwygiedig ar waith cyn etholiadau nesaf y Cynulliad. Credaf fod hynny’n gam rhesymol ymlaen.

Yr wyf wedi cymryd y cyfle cyntaf hwn i dynnu sylw’r Aelodau at y cynigion. Mae’r newidiadau arfaethedig yn rhai fydd yn digwydd yn gynyddol yn hytrach na rhai sylfaenol. Byddant ar gael mewn egwyddor at ddefnydd y Cynulliad nesaf ym mis Mai 2007. Maent yn dileu’r anghysonderau presennol. Eu sail yw bod yn ymarferol yn hytrach na mynd yn rhy bell o flaen barn y cyhoedd yng Nghymru. Nid ydynt yn diystyru newid sylfaenol yn y tymor canol neu’r tymor hir, ond bydd angen cynnal refferendwm cyn gwneud newid o’r fath.

Bydd cyfle cynnar arall i drafod gosodiadau’r Papur Gwyn yn y ddadl ar Araith y Frenhines yr wythnos nesaf. Yr wyf hefyd wedi gosod cynnig yn dangos ein bwriad i sefydlu pwyllgor cynghori i ystyried y cynigion deddfwriaethol i ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wyf, felly, yn cymeradwyo’r Papur Gwyn i’w ystyried gan y Cynulliad.