Skip to content

Y Diweddaraf am y Diwigiadau i Wasanaeth Deintyddol y GIG a Chynygion ar Gyfer System Ffioedd Newydd i Gleifion Yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy natganiad ar 26 Ebrill 2005, cyhoeddais y byddai’r contract deintyddol newydd yn cael ei ohirio tan fis Ebrill 2006. Nodais hefyd y trefniadau ar gyfer cyflwyno cynllun peilot y Gwasanaeth Deintyddol Personol yng Nghymru.  

Yr wyf bellach yn gallu cadarnhau y bydd y contract deintyddol newydd yng Nghymru yn dod i rym o'r 1 Ebrill 2006 ymlaen. Yr wyf hefyd yn manteisio ar y cyfle i ddarparu'r newyddion diweddaraf ar y gwasanaeth Deintyddol Personol yng Nghymru a'r cynigion ar gyfer ymgynghori ar gyflwyno system ffioedd newydd i gleifion ar yr un adeg â chyflwyno'r newidiadau i'r contract.  

Gwasanaeth Deintyddol Personol

Gwelwyd cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith deintyddion i newid i'r drefn newydd o weithio o dan y contractau Gwasanaeth Deintyddol Personol a chychwynnwyd y cynllun Gwasanaeth Deintyddol Personol cyntaf, sy'n seiliedig ar y dulliau newydd o weithio, ar 5 Gorffennaf. Mae pum cais ychwanegol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, a hyd yn hyn, cafwyd 70 mynegiant o ddiddordeb ledled Cymru.

Ffioedd i Gleifion

Mae nifer o adroddiadau wedi darganfod bod y system ffioedd bresennol yn gymhleth, yn fiwrocratig i'r deintyddion ac yn ddryslyd i'r cleifion. Gwnaeth y Comisiwn Archwilio argymell y dylai cleifion dderbyn gwybodaeth glir am y ffioedd. Roedd archwiliad y Swyddfa Masnachu Teg, y cyfrannodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ymateb iddo ar ran y Llywodraeth gyfan, yn amlinellu'r diffyg eglurder i gleifion a'r cyhoedd ynghylch pa ffioedd sy'n berthnasol i'r GIG a thriniaeth breifat.

O dan y trefniadau presennol mae cleifion sy'n talu eu ffioedd yn talu 80% o gost y driniaeth hyd at uchafswm ar gyfer cwrs o driniaeth, sef £354 yng Nghymru ar hyn o bryd (£384 yn Lloegr). Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol yn darparu un rhestr genedlaethol yn cynnwys dros 400 o driniaethau gyda phob eitem yn cael ei dalu drwy ffi o’r gyllideb genedlaethol. Mae cost y driniaeth yn gysylltiedig â'r deintydd fesul pob eitem o wasanaeth. Gan fod trefniadau contract newydd i ddeintyddion sy'n darparu gofal GIG ar fin dod i rym ym mis Hydref 2005, a fydd yn newid dulliau gweithio'r deintyddion ac yn rhoi terfyn ar y weithdrefn eitem o wasanaeth, yna mae'n rhaid cyflwyno system ffioedd newydd ar yr un adeg.

Gofynnwyd i Weithgor,o dan arweiniad Harry Cayton, Cyfarwyddwr Cleifion a'r Cyhoedd, yr Adran Iechyd, gynnig system ffioedd tryloyw, symlach, a fyddai'n codi'r un gyfran o gyfanswm y gwariant deintyddol ag a wneir ar hyn o bryd. Yr oedd y gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr cleifion a defnyddwyr y DU, y proffesiynau deintyddol gan gynnwys Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ynghyd â chynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad. Y prif argymhelliad a welir yn adroddiad y Gweithgor yw bod angen system daliadau tair haen ar gyfer triniaethau deintyddol GIG yng Nghymru:

• Haen 1 - (gwaith cynnal - sef archwilio a glanhau)  
• Haen 2 - (triniaeth - ee llenwi neu dynnu dannedd)
• Haen 3 - (triniaeth gymhleth - ee dannedd gosod, corunau)

Mae'r adroddiad yn argymell bod yr ystod o driniaethau mewn haen yn cael eu diffinio'n bendant a bod y claf yn talu ffi penodol am unrhyw driniaeth yn yr haen. Sylweddolodd y Gweithgor, wrth i'r system newid y byddai rhai yn elwa ac eraill yn wynebu colled, ond teimlwyd bod y system haenau yn sicrhau bod gwasanaethau deintyddol yn fwy fforddiadwy a theg, ac y bydd y rhai sy'n wynebu colled ar adegau yn elwa ar adegau eraill. Gyda nifer llai o haenau, bydd y system yn haws i'r cleifion a'r deintyddion i'w deall.

Mae'n gwbl glir bod angen system ffioedd symlach a thryloyw ar gyfer cleifion. Mae cleifion, eu cynrychiolwyr ac eraill wedi dweud bod y system ffioedd deintyddol ar gyfer triniaeth GIG a thriniaeth breifat yn aneglur, yn anodd i’w deall ac yn achosi pryderon mewn perthynas â chost bosibl y driniaeth. Yn y dyfodol, y bwriad yw y bydd y ffioedd deintyddol yn berthnasol i'r gwasanaeth a ddarperir ond ni fydd yn ymwneud yn uniongyrchol â thâl y deintyddion. Nid yw'r trefniadau newydd wedi'u hanelu at gynyddu'r refeniw a dderbynnir o'r ffioedd ond i sicrhau bod cost y driniaeth i'r deintydd a'r cyhoedd yn fwy clir.  

Yr wyf wedi ystyried y cynigion ac adroddiad y Gweithgor ac yr wyf yn cytuno bod angen cyflwyno gweithdrefn ffioedd newydd i gleifion ar yr un adeg â chyflwyno'r contract deintyddol newydd ac yr wyf yn derbyn egwyddor y system haenau. Cynigir cynnal ymarfer ymgynghori ar yr argymhellion, fel y cynigiwyd gan y Gweithgor ar ffioedd i gleifion ac ar y rheoliadau drafft yng Nghymru. Byddant yn dod ger bron y Cynulliad Cenedlaethol drwy'r weithdrefn ddeddfwriaethol arferol maes o law.

Nid oes penderfyniad wedi ei wneud hyd yn hyn ynghylch y ffioedd ym mhob haenen sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Serch hynny, gallaf ddweud y bydd y triniaethau deintyddol di dâl a chymorth i dalu'r ffioedd yn parhau yn ogystal â’r archwiliadau deintyddol di-dâl i bobl o dan 25 oed a 60 oed neu drosodd.