Skip to content

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar Anghenion Addysgol Arbennig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson , Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes a ddewisodd ymgymryd â’r adolygiad hwn o anghenion addysgol arbennig ac yr wyf yn falch iawn o gael ei adroddiad cynhwysfawr fel y rhan gyntaf o’r gwaith pwysig hwn. Yr wyf hefyd yn falch y bydd yr holl Aelodau’n cael cyfle heddiw i gyfrannu at yr agenda hon.

Mae gan bob plentyn hawl i gael y cychwyniad gorau posibl mewn bywyd. Os oes gan blant a phobl ifanc anghenion arbennig ac anableddau, mae’n bwysig eu canfod yn gynnar a bod hynny’n arwain yn syth at ymyrryd yn gynnar yn effeithiol ac at roi cymorth i deuluoedd, plant a phobl ifanc.

Mae canfod yn gynnar ac ymyrryd yn gynnar yn themâu allweddol yn ‘Y Wlad sy’n Dysgu’, y ‘Fframwaith ar gyfer Asesu Plant Mewn Angen a’u Teuluoedd 2001’ a ‘Cod Ymarfer AAA Cymru’, 2002. Mae lle canolog iddynt mewn sawl menter arall a arweinir gan y Cynulliad, gan gynnwys Rhoi Plant yn Gyntaf a Cymorth, a dylent fod wrth wraidd y gofal a gynigir gan bob gweithiwr proffesiynol. Gall ymyrryd a rhoi cymorth yn gynnar yn effeithiol arwain at welliannau yn iechyd a datblygiad cymdeithasol a gwybyddol plant a phobl ifanc, a gallant fod o gymorth i drafod rhai o’r rhwystrau cymdeithasol a ffisegol lu a wynebir gan deuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig wrth iddynt geisio cymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Mae’r adroddiad hwn wedi canolbwyntio ar y materion allweddol sy’n ymwneud â sicrhau camau effeithiol i ganfod anghenion addysgol arbennig mewn plant a phobl ifanc ac i ymyrryd yn gynnar. Yr oeddwn yn falch o sylwi bod llawer o’r argymhellion a geir yn yr adroddiad yn derbyn sylw eisoes. Canolbwyntiaf ar nifer o’r materion allweddol hyn. Yr wyf yn llwyr ategu’r farn bod yr angen i ddiwallu anghenion dysgu unigol plant a phobl ifanc yn galw am ddull gweithredu hyblyg gan yr holl asiantaethau statudol. Rhaid iddynt gysylltu â’i gilydd a chytuno ar bolisïau a phrotocolau i sicrhau y ceir gwasanaeth di-fwlch. Mae hynny’n gyson â’n polisïau yn ‘Creu’r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru’. Mae Deddf Plant 2004 yn ategu’r safbwynt hwn ac yn cymell defnyddio trefniadau comisiynu ar y cyd a chyllidebau cyfun rhwng gwasanaethau er mwyn sicrhau y caiff anghenion eu bodloni mewn modd cydlynol.

Un enghraifft dra pherthnasol a chyfoes o hynny yw’r dull o ddarparu gwasanaethau iaith a lleferydd i blant a phobl ifanc. Gwn fod twf cyson wedi bod yn y galw am wasanaethau o’r fath ar gyfer plant ac nad yw’r gwasanaethau statudol perthnasol wedi gallu ateb y galw hwnnw.

Mae ein hymgyrch sgiliau sylfaenol diweddaraf, y bydd llawer o Aelodau wedi’i gweld, a’r cyfnod sylfaen yn cydnabod mor bwysig yw datblygu iaith a lleferydd er mwyn cynnig sail gadarn i lwyddiant yn y dyfodol o ran darllen, ysgrifennu a dysgu’r cwricwlwm fel y gall pob plentyn gyflawni ei botensial. Yn y cyd-destun hwnnw, yr ydym wedi dyrannu £3 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu prosiectau peilot i sefydlu trefniadau i gomisiynu ar y cyd ac i rannu cyllidebau fel y gellir cynnig y gwasanaethau iaith a lleferydd hyn i blant a phobl ifanc ym meysydd iechyd ac addysg. Yr ydym hefyd yn datblygu llwybrau hyfforddi pellach ar gyfer therapyddion iaith a lleferydd er mwyn ateb y galw cynyddol am therapi.

Yr wyf hefyd yn dymuno sicrhau y bydd yr holl staff dysgu yn gymwys, pan ânt i’r ystafell ddosbarth, i ganfod a diwallu anghenion dysgwyr unigol ac y byddant yn dal i gael cymorth drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus penodol yn y maes hwn. Cydnabyddwn fod prinder o ran rhai sgiliau arbenigol, fel y rhai a ddysgwyd gan athrawon sy’n dal cymwysterau gorfodol ar gyfer dysgu plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu synhwyrau. Yr ydym yn trafod cyfleoedd hyfforddi hyblyg, fel e-ddysgu a dulliau newydd eraill, gyda’r holl ddarparwyr addysg uwch ledled Cymru er mwyn cymell athrawon i arbenigo a meithrin eu sgiliau wrth weithio gyda phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Rhaid inni sicrhau ein bod wedi rhoi’r systemau angenrheidiol ar waith i fonitro cynnydd disgyblion unigol dros gyfnod o amser a bod ymyriadau a strategaethau cymorth priodol ar gael yn rhwydd i oresgyn rhwystrau rhag dysgu o’r math hwn. Mae llawer o’r gwaith hwn yn mynd rhagddo’n awr ac mae rhai awdurdodau wedi datblygu dulliau soffistigedig i fonitro cynnydd disgyblion. Mae Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru a grwp cynghori Cymru ar AAA yn datblygu canllawiau penodol ar gyfer ysgolion ac AALlau ar fonitro cynnydd disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol o’r fath.

Drwy weithio’n gefnogol ac ar y cyd â rhieni a’r plant a’r bobl ifanc eu hunain, sicrhawn y bydd pawb sy’n gysylltiedig yn deall yr ymateb a geir gan y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn, fel y ceir darpariaeth well i’r unigolion sydd dan sylw, ac mae hynny’n bwysig.

Mae gan rieni wybodaeth a dealltwriaeth unigryw o anghenion eu plentyn ac, felly, mae iddynt rôl hollbwysig mewn unrhyw broses penderfynu. Rhaid i weithwyr proffesiynol sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n effeithiol â rhieni drwy wrando ar eu pryderon a datblygu strategaethau priodol i gefnogi unigolion a galluogi rhieni. Rhaid i rieni gael eu hysbysu’n llawn fel y gallant wneud penderfyniadau adeiladol ar sail yr holl dystiolaeth sydd ar gael. Rhaid inni gofio hefyd am rôl y bobl ifanc eu hunain. Mae’n hollbwysig iddynt gymryd rhan lawn wrth benderfynu ar eu dyfodol, os yw’n briodol, ac mae arnynt angen i oedolion gynllunio gyda hwy yn hytrach nag ar eu cyfer.

Ni ellir rhoi gormod o bwys ar yr angen i ganfod AAA mewn unrhyw blentyn yn gynnar, ac i’w asesu a darparu ar ei gyfer. Po gynharaf y cymerir camau, mwyaf ymatebol y mae’r plentyn yn debygol o fod, a mwyaf effeithiol fydd yr ymyriad. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi lle canolog i gynhwysiant cymdeithasol yn ei holl bolisïau. I mi, fel y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, bydd yr angen i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau gorau posibl i rai o’r plant a’r bobl ifanc sy’n fwyaf agored i niwed yn parhau’n flaenoriaeth allweddol wrth ddarparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd Aelodau’n cofio fy mod ar 25 Ionawr wedi ymateb yn fanwl i argymhellion y pwyllgor mewn datganiad ysgrifenedig.