Skip to content

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, Y Gweinidog dros Diwwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon
Gyda’ch caniatâd, Lywydd, gwnaf ddatganiad arall ar Middleton—Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ers fy natganiad diwethaf ar 10 Rhagfyr 2003, yr wyf wedi cyflwyno adroddiadau rheolaidd i’r Pwyllgor Diwylliant, ac yr wyf wedi ateb cwestiynau ar yr ardd yn ystod cwestiynau. Fodd bynnag, yng ngoleuni datganiadau diweddar gan ymddiriedolwyr a rheolwyr yr ardd ynghylch y posibilrwydd y bydd yn cau yr wythnos nesaf, ac yng ngoleuni’r diddordeb mawr yn y mater hwn, yn y Siambr hon a’r tu allan iddi, mae’n briodol imi ailddatgan safbwynt y Llywodraeth. Mae angen eglurder ar y mater hwn, yn hytrach na’r rhethreg hurt yr ydym newydd ei glywed gan arweinydd Plaid Cymru. Er gwaethaf yr £1.6 miliwn a roddwyd gan y Cynulliad i ymddiriedolwyr yr ardd dros y 15 mis diwethaf, erys ei sefyllfa ariannol yn fregus. Er gwaethaf sawl swm sylweddol o arian trethdalwyr, a chryn dipyn o gymorth nad yw’n gymorth ariannol, nid yw’r ymddiriedolwyr annibynnol sy’n gyfrifol am reoli a gweithredu’r ardd wedi llwyddo i ddatrys y problemau ariannol, sy’n sylweddol.
Mae gorddrafft banc enfawr o bron £2 filiwn yn parhau. Mae’r credydwyr a gyflenwodd nwyddau a gwasanaethau i’r ymddiriedolwyr yn ddidwyll, ac nad oeddent wedi cael eu talu adeg fy natganiad diwethaf, yn parhau heb eu talu. Mae miliynau o bunnoedd o rwymedigaethau hirdymor yn ychwanegu at y trafferthion ariannol. Mae cyfres o ddyddiadau ar gyfer cau a therfynau amser wedi mynd heibio, a deallaf fod yr ymddiriedolwyr erbyn hyn yn ystyried cau’r ardd ddydd Llun yr wythnos nesaf. Nid yw’r problemau ariannol yn rhai newydd. Maent yn dyddio o 2002, pan ddaeth yn amlwg bod nifer yr ymwelwyr, sef prif ffynhonnell cyllid yr ardd, ymhell islaw’r targed ac yn gostwng. Heb strategaeth farchnata, a heb weledigaeth gynhwysfawr ar gyfer yr ardd, wedi’i harddel gan bob ymddiriedolwr a’i hategu gan strategaeth fusnes, yr oedd yn amlwg bryd hynny bod trafferthion dybryd yn yr arfaeth. Dyna pam y rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad arian trethdalwyr i’r ymddiriedolwyr. Prynodd hynny amser i alluogi’r ymddiriedolwyr i ddatblygu cynllun busnes a chynhyrchu strategaeth farchnata.
Ddiwedd Mehefin 2003, nid oedd yr ymddiriedolwyr wedi cwblhau cynllun busnes ymarferol. Yn ffodus, arweiniodd y cynnydd tymhorol arferol yn nifer yr ymwelwyr dros yr haf seibiant dros dro o’r anawsterau ariannol tymor hwy a llwyddodd yr ardd i barhau i fasnachu bryd hynny heb ragor o arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ym mis Awst 2003, cyflwynodd yr ardd gynllun busnes i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yr oedd y cynllun hwn yn seiliedig ar fuddsoddiad cyfalaf o £8 miliwn, gyda chymorth refeniw parhaus o tua £750,000 y flwyddyn. Yr wyf wedi dweud yn glir, a hynny’n gyson, nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn barod i ariannu cymhorthdal parhaus o’r fath, ac am y rheswm hwn, nid oedd Gweinidogion yn gallu cefnogi’r cynllun busnes.
Ym mis Hydref 2003, fe’n hysbyswyd gan yr ymddiriedolwyr eu bod mewn sefyllfa ariannol ddybryd unwaith eto. Dywedwyd wrthym y byddai’n rhaid iddynt gau’r ardd heb gymorth ariannol brys. Yng ngoleuni hyn, bu inni ddarparu rhagor o arian ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin a Chomisiwn y Mileniwm. Bu inni gyfrannu £150,000 tuag at gyfanswm o £353,000 o grant. Eglurwyd ar y pryd mai’r arian hwn oedd yr ymdrech olaf i roi yr amser ychwanegol angenrheidiol i’r ymddiriedolwyr allu datblygu strategaeth ymarferol i sicrhau dyfodol yr ardd.
Ddechrau mis Rhagfyr 2003, cyflwynodd yr ymddiriedolwyr eu strategaeth adfer ddiweddaraf imi ar gyfer yr ardd. Ar y pryd, dywedwyd wrthym y byddai’n rhaid i’r ardd gau ar unwaith oni fyddai’r Cynulliad yn ariannu’r strategaeth honno. Wrth gyflwyno eu strategaeth adfer, cydnabu’r ymddiriedolwyr na fuont yn llwyddiannus o ran datblygu’r sefydliad mewn meysydd allweddol. Bu iddynt gydnabod y dylent fod wedi targedu adnoddau tuag at gyflawni egwyddor sylfaenol yr ardd, sef y byddai incwm—yn deillio o nifer yr ymwelwyr yn bennaf—yn cyfateb â chostau rhedeg yr ardd o ddydd i ddydd, ac y byddai’r ymddiriedolwyr yn darparu diwrnod pleserus llawn gwybodaeth i’r cyhoedd, i deuluoedd yn ogystal â botanegwyr. Mae’r gostyngiad didrugaredd yn nifer yr ymwelwyr yn siarad drosto’i hun.
Nid oedd y strategaeth yn hyfyw. Yr oedd yn dibynnu ar lawer gormod o ansicrwydd ariannol. Yn ei hanfod, yr oeddem yn wynebu cais am £3 miliwn o arian trethdalwyr, gyda chymhorthdal penagored posibl. Yr oedd y rhagolygon o ran cael refeniw o ffynonellau eraill yn seiliedig ar gynigion damcaniaethol, a byddem wedi wynebu’r un sefyllfa ymhen blwyddyn neu ddwy.
Wedi hynny, ailedrychodd yr ymddiriedolwyr a’u hymgynghorwyr ariannol ar y strategaeth hon. Cawsom gynnig dwy dudalen o hyd gan Gomisiwn y Mileniwm bythefnos yn ôl; dim ond heddiw y cawsom gopi o ddadansoddiad manylach ac annibynnol o strategaeth adfer yr ymddiriedolwyr. Gan fod yr ymddiriedolaeth yn gorff annibynnol, ni allwn ei gorfodi i gyhoeddi adroddiadau o’r fath, sy’n naturiol yn fasnachol sensitif. O’r crynodeb a dderbyniwyd, ac wedi inni ddarllen y cynllun heddiw, ymddengys nad oes fawr ddim wedi newid ers mis Rhagfyr. Mae strategaeth yr ymddiriedolaeth yn dal i ddibynnu ar gymhorthdal refeniw hirdymor, yn awr ac yn y dyfodol. Hefyd, os na ddaw unrhyw un o’r darpar ffrydiau ariannu eraill i’r amlwg, bydd disgwyl hefyd i drethdalwyr Cymru dalu pob bil. Mae hynny’n annerbyniol i unrhyw Lywodraeth gyfrifol.
Mae hefyd yn annerbyniol awgrymu nad ydym wedi gwneud digon i helpu’r ymddiriedolwyr, neu fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi troi ei chefn ar yr ardd. Nid yw hynny’n wir. Yr ydym wedi bod yn gwbl gyson ar y mater hwn. Nid oes unrhyw un am i’r ardd gau. Yn wir, mae nifer o unigolion a sefydliadau wedi edrych yn fanwl ar yr ardd ac wedi cyflwyno ystod o ganlyniadau posibl. Mae Gweinidogion a swyddogion wedi cwrdd â darpar fuddsoddwyr yn bersonol; mae rhai opsiynau yn cynnwys gwerthu, mae rhai yn cynnwys partneriaeth, mae rhai yn cynnwys cadw’r ardd ar ei ffurf bresennol, mae rhai yn canolbwyntio ar gyfleoedd datblygu eiddo. Nid yw’r negodiadau hyn wedi arwain at gynigion hyfyw eto a fydd yn sicrhau dyfodol ariannol yr ardd. Mae llu o resymau dros hyn. Mae problemau gwirioneddol gyda’r ddyled fawr sydd gan yr ymddiriedolaeth, mae cryn ansicrwydd ynghylch y potensial i ddatblygu, ac mae diffyg cytundeb ynghylch cyfeiriad yr ardd yn y dyfodol. Os bydd yr ymddiriedolwyr yn penderfynu cau’r ardd ddydd Llun, nid oherwydd nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ymrwymiad fydd hyn—mae wedi dangos ymrwymiad. Nid oherwydd nad ydym wedi darparu arian fydd hyn, gan fod y ffaith inni roi £1.6 miliwn o arian cyhoeddus yn gwrth-ddweud y ddadl honno. Yn y pen draw, y ffaith nad yw’r ymddiriedolaeth wedi cyflawni ei chynllun gwreiddiol fydd y rheswm dros hyn, sef sail y cynnig gwreiddiol i gael arian gan y loteri. Nid yw wedi llwyddo i ddarparu cynllun ymarferol eto. Os bydd yr ardd yn cau, dyna fydd diwedd yr ymddiriedolaeth, ond nid o anghenraid diwedd yr ardd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag unrhyw un a all wneud i’r prosiect hwn lwyddo.