Skip to content

Y Strategaeth Diwydiannau Creadigol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Heddiw, bûm yn lansio cronfa Eiddo Deallusol (ED) Creadigol gwerth £7 miliwn yn agoriad cynhadledd SAND (Dyddiau Animeiddio Abertawe) sy’n rhan o Strategaeth Diwydiannau Creadigol newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r strategaeth yn nodi newid cadarnhaol a sylweddol mewn cefnogaeth sector cyhoeddus i fusnesau creadigol masnachol.

Bydd y gronfa ED Creadigol, a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2005, ar gael i unrhyw fusnes creadigol – p’un ai’n seiliedig yn y Deyrnas Unedig neu’n rhyngwladol – sy’n ymofyn buddsoddi mewn prosiectau yng Nghymru. Bydd y gronfa yn darparu cyllid bwlch ar gyfer prosiectau eiddo deallusol creadigol unigol, megis cyfres neu ffilm deledu. Yn gyfnewid am fuddsoddiad o’r fath, bydd y gronfa ED Creadigol yn cymryd cyfran o’r Eiddo Deallusol a gynhyrchir gan y prosiect a bydd yn ceisio adennill gwerth y buddsoddiad gwreiddiol. Bydd hyn yn galluogi busnesau creadigol i gadw mwy o berchnogaeth o’u heiddo deallusol, yn hytrach na gorfod rhoi’r gorau i’w holl hawliau ED. Sefydlwyd y gronfa ED Creadigol i ddod yn hunan-gyllidol, gyda dychweliadau ar fuddsoddiadau cyllid cynnar yn ariannu buddsoddiadau mewn blynyddoedd diweddarach.

Mae’r Strategaeth Diwydiannau Creadigol newydd hefyd yn nodi newid sylweddol a chadarnhaol yn ansawdd y cyngor busnes creadigol arbenigol a ddarperir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd gwasanaeth cefnogaeth arbenigol newydd a arweinir gan y diwydiant yn cael ei ddatblygu i gynnwys pob agwedd o gyngor ar gyfer busnesau creadigol masnachol. Bydd panel arbenigol o unigolion o’r sector preifat yn goruchwylio rheolaeth a gweithrediad y Strategaeth Diwydiannau Creadigol. Bydd y panel yn cynnwys unigolion o haenau uchaf rheolaeth mewn busnesau creadigol cenedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir y gwneir penodiadau i’r panel yn y dyfodol agos iawn.

Dangosodd ymgynghoriad â busnesau creadigol llwyddiannus ledled y DU a thu hwnt fod galw amlwg am gyllid i helpu busnesau creadigol i gadw mwy o’u heiddo deallusol pan fyddant yn gweithio ar brosiectau newydd. Ar hyn o bryd mae llawer o fusnesau creadigol yng Nghymru yn gwerthu eu heiddo deallusol yn llwyr i bob prosiect. Cafodd y mater hwn ei waethygu gan newidiadau diweddar mewn manteision treth i gwmnïau preifat/unigolion sy’n buddsoddi mewn prosiectau creadigol, gan greu bwlch cyllid mwy. Dylai sefydlu cronfa o’r fath ar gyfer busnesau creadigol masnachol roi manteision sylweddol i fusnesau creadigol.

Mae cydweithredu â – a gwerthu i – fusnesau creadigol rhyngwladol yn allweddol i lwyddiant y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru. Fel canlyniad, caiff y gronfa ei strwythuro fel y bydd cwmnïau o’r tu allan i Gymru sy’n ymofyn cyllid yn edrych yn awtomatig i bartneru â busnesau yng Nghymru, a bydd busnesau creadigol yng Nghymru yn ei chael yn haws i ddatblygu cynnwys y gellir ei werthu yn y farchnad fyd-eang.

Mae hon yn un o’r cronfeydd mwyaf sylweddol sydd ar gael i’r Diwydiannau Creadigol ac rwy’n arbennig o falch i fod â chronfa a strategaeth a fydd yn ddi-os yn helpu i gryfhau a datblygu’r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru. Bydd hefyd yn meithrin mwy o gydweithredu rhwng busnesau creadigol yng Nghymru a busnesau creadigol yn rhyngwladol. Gyda’r Diwydiannau Creadigol yn tyfu 2% ynghynt nag economi’r DU yn ei chyfanrwydd, disgwyliaf y bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn galluogi’r diwydiannau creadigol i wneud cyfraniad mwy fyth i economi Cymru.