Mae fy natganiad ar y gronfa anghydraddoldebau iechyd yn cwmpasu tair rhan: eich atgoffa o’r gronfa a’i diben, enghreifftiau o’r hyn y mae’r gronfa yn ei wneud i helpu pobl i wella eu hiechyd mewn cymunedau ledled Cymru, a datblygu’r gronfa yn y dyfodol fel ased arwyddocaol yn ein gwaith i wella iechyd yng Nghymru.
Sefydlais y gronfa anghydraddoldebau iechyd yn 2001 i ysgogi a chefnogi camau gweithredu lleol i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd a’r ffactorau sy’n cyfrannu atynt, gan gynnwys anghydraddoldeb o ran mynediad i wasanaethau iechyd. Clefyd coronaidd y galon fu blaenoriaeth gyntaf y gronfa, a bu’n hynod lwyddiannus wrth ddarparu help i gymunedau a grwpiau difreintiedig ar lawr gwlad fynd i’r afael â’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chlefyd cronig. Mae 96 y cant o brosiectau yn cynnwys byrddau iechyd lleol a, chyda phartneriaeth yn uchel ar yr agenda, mae ymddiriedolaethau’r GIG yn bartneriaid mewn 82 y cant o brosiectau. Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid mewn 52 y cant o brosiectau, ac mae sefydliadau gwirfoddol yn bartneriaid mewn 37 y cant.
Yn Wrecsam, mae’r prosiect crwydriaid wedi darparu prosesau sgrinio risg a chyngor ar ffurf sy’n hygyrch ac yn dderbyniol i 200 o sipsiwn crwydrol—mae dros 95 y cant o grwydriaid bellach wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu. Hefyd yn Wrecsam, mae’r prosiect calonnau a meddyliau, sy’n helpu pobl sy’n dioddef o salwch meddwl a phobl ag anableddau dysgu, wedi llwyddo i annog 73 y cant o bractisau meddygon teulu i ymuno â’r prosiect ac wedi helpu tua 700 o bobl. Ar ystad Plas Madoc, mae clinig allgymorth sy’n cael ei redeg gan ymarferydd nyrsio wedi gweld 1,800 o bobl—21 y cant o restr y practis. O’r grwp targed, nododd 40 y cant ostyngiad mewn cyfraddau ysmygu, mae gan 31 y cant well rheolaeth pwysau gwaed, ac mae gan 64 y cant well dulliau ar gyfer monitro colesterol.
Yn sir y Fflint, mae dros 3,000 o bobl wedi cymryd rhan wrth droedio at iechyd fel rhan o brosiect cymunedau iach Cyngor Tref Prestatyn a phrosiect calon sir y Fflint. Dengys y canlyniadau ostyngiad ym màs y corff a chynnydd mewn lefelau ffitrwydd. Yng Ngwynedd ac Ynys Môn, mae’r prosiectau calon lân wedi mynd o nerth i nerth.
Yng Ngwynedd, mae prosesau sgrinio wedi nodi bod angen atgyfeirio 37 y cant o bobl, a rhoddwyd cyfle i 4,000 o bobl yn Ynys Môn wella eu ffordd o fyw. Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, dewisodd rhwydwaith cardiaidd Cymru ardal Ceredigion fel lleoliad i gyflwyno’r broses ymreolus o weinyddu thrombolysis gan barafeddygon o ganlyniad uniongyrchol i brosiect y gronfa anghydraddoldebau iechyd. Yn Abertawe, mae 12 o bractisau sy’n rhan o brosiect peilot y gofrestr sgrinio wedi prosesu traean o’u targed, gan weld dros 31,000 o gleifion. Yn sir Benfro, mae prosiect wedi llwyddo i gynyddu nifer y bobl a all fanteisio ar glinigau sgrinio a gynhelir gan feddygon teulu drwy eu cynnal gyda’r nos neu ar benwythnosau. Bydd fferyllwyr lleol yn mynd i’r afael â chleifion sy’n anodd i’w cyrraedd drwy ddefnyddio pecyn a ddatblygwyd yn arbennig. Mae Cyngor Sir Powys yn darparu gwasanaethau adsefydlu cardiaidd mewn pum canolfan hamdden, ac mae gan y rhaglen 36 wythnos gyfraddau presenoldeb parhaus o 94 y cant. Yn sir Gaerfyrddin, datblygwyd pecyn offer i helpu practisau meddygon teulu lleol i weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon. Mae pob un o’r 26 o bractisau yn sir Gaerfyrddin yn rhan o’r prosiect, ac mae’r pecyn offer bellach yn cael ei gyflwyno i fyrddau iechyd lleol eraill. Mae prosiect adsefydlu cardiaidd wedi cynyddu’r cyfraddau cyfranogiad o 11 i 78 y cant yn Llanymddyfri ac o 15 i 89 y cant yn nyffryn Aman, sy’n cymharu’n ffafriol â’r cyfartaledd cenedlaethol o 30 y cant.
Yn ne Cymru, mae grwp cynghori gwasanaethau diabetes lleol Caerdydd wedi mabwysiadu ymagwedd a ddatblygwyd gan brosiect o dan arweiniad meddygon teulu fel y safon euraid ar gyfer darparu gwasanaethau diabetes. Mae’r prosiect troednoeth ym mae Caerdydd wedi rhoi cymorth i fwy na 600 o bobl, ac yng Nghasnewydd, mae prosiect dharkan wedi datblygu clinig monitro a chynghori ar gyfer pwysau gwaed. Cynhaliwyd clinig mewn mosg Bangladeshi ar ddiwrnod addoli, ac mae’n bosibl y caiff y gwasanaeth ei gynnig yn awr i fosgiau lleol eraill.
Mae prosiect trawiad ar y galon Rhondda Cynon Taf yn cwmpasu 17 o’i wardiau mwyaf difreintiedig ac yn targedu poblogaeth o 11,000. Mae gan Flaenau Gwent chwe phrosiect. Mae tua 462 o bobl wedi cysylltu â’r gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu a, phedair wythnos ar ôl eu dyddiad personol ar gyfer rhoi’r gorau iddi, yr oedd 67 o’r rheini a fynychodd o’r farn nad oeddent yn ysmygu bellach. Llwyddodd y bobl a gymerodd ran mewn dosbarth gordewdra i golli cyfartaledd o 2.7 kg, gyda 53 y cant o’r rhai a fynychodd yn trosglwyddo’r newidiadau yn eu ffordd o fyw i weddill eu teulu. Hefyd, o ganlyniad i brosiect cardiaidd a gynhaliwyd gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gwelwyd gostyngiad o 10 y cant yn y cyfraddau aildderbyn, gyda chyfartaledd hyd yr arhosiad yn gostwng dri diwrnod a gostyngiad yn nifer y gwelyau a ddefnyddir o 7.5 i 5.6 y cant. Ym Merthyr Tudful, mae 12 o gwmnïau bach yn gwella iechyd eu cyflogeion drwy brosiect arloesol sy’n defnyddio profiad cyflogwr mawr yn y sector preifat fel mentor. Mae’r prosiect yn cysylltu gwell iechyd a gwella busnes. Mae iechyd y galon y Barri yn cynnig cyngor ar newid ffordd o fyw a chwmni cydweithredol sy’n gwerthu bwyd, gan gynnig ffrwythau a llysiau ffres a fforddiadwy i drigolion lleol. Mae prosiect bwyta’n iach Caerffili wedi agor bariau llaeth mewn ysgolion cyfun lleol, bariau salad mewn ysgolion cynradd lleol, ac wedi darparu hyfforddiant i 25 o gogyddion ysgol er mwyn annog arferion arlwyo mwy iach.
Mae’r gronfa anghydraddoldebau iechyd a’i phrosiectau yn dangos sut y mae ein hagenda yn gweithio. Maent yn atgyfnerthu rôl ataliol y GIG gyda sefydliadau a phartneriaid eraill ac yn darparu tystiolaeth o effeithiolrwydd, a bwysleisiwyd fel ffactorau pwysig gan Derek Wanless. Mae’r camau gweithredu yn cael eu cymryd ar lawr gwlad, gyda help gwirioneddol yn cael ei ddatblygu mewn cymunedau gan bobl, a chyda phobl, i wella eu hiechyd, a dylid dathlu hyn. Dyma’r union fath o gamau gweithredu yr ydym am eu gweld fel rhan o ‘Her Iechyd Cymru’, sef her y genedl i gydweithio er gwell iechyd.
Nodais enghreifftiau heddiw i ddangos y gwahaniaeth y mae’r gronfa anghydraddoldebau iechyd yn ei wneud mewn cymunedau. I’r perwyl hwn, cyhoeddais ym mis Tachwedd estyniad dwy flynedd i brosiectau. Mae llawer wedi’i gyflawni eisoes, ond mae mwy i’w wneud o hyd, a bydd yr amser ychwanegol yn galluogi prosiectau i ddangos eu heffeithiolrwydd ymhellach ac i fyrddau iechyd lleol ystyried eu cyllid tymor hwy. Fel y nodwyd yn ‘Cymru: Gwlad Well’, yr ydym yn ymrwymedig i ehangu’r gronfa, a byddaf yn ystyried sut y gallwn adeiladu ar lwyddiant y gronfa hyd yma.