Skip to content

Hyfforddi ac Addysgu Troseddwyr Ifanc yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Mae'n dda gennyf wneud datganiad ar sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd ati i wella'r hyfforddiant ac addysg ar gyfer troseddwyr ifanc.


Yn gyntaf, dyma rai o'r ffigurau sy'n berthnasol i Gymru:

 y llynedd, aeth 11,000 o bobl ifanc rhwng 10-18 oed i helynt gyda'r heddlu - 7 y cant o gyfanswm Cymru a Lloegr;  

 ni wnaeth llawer o'r pobl ifanc hyn ymddangos gerbron llys;

 cafodd 4 y cant ohonynt ddedfryd o garchar;


Ond:

 yn 2002-03, dim ond 63 y cant o'r bobl ifanc y mae Timau Troseddau Ieuenctid Cymru yn gwybod amdanynt a oedd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth llawnamser.

 gydag oedran cyfartalog o 17 oed, mae sgiliau sylfaenol dros hanner y bobl ifanc sy'n destun Gorchymyn Carcharu a Hyfforddi yn is na'r lefel ar gyfer plentyn 11 oed;  ac

 mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn datgan bod disgyblion sy'n cael eu gwahardd deirgwaith yn fwy tebygol o droseddu na'u cyfoedion yn yr ysgol.

Sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn mynd i'r afael â'r materion hyn?
Gallai cyrhaeddiad isel yn yr ysgol arwain at ymddieithrio o ran addysg, gwaharddiad o'r ysgol a throseddu.  Rydym yn gwybod hefyd bod addysg a hyfforddiant addas yn gallu atal pobl ifanc rhag troseddu yn y lle cyntaf, a gwyrdroi bywydau troseddwyr.  

Dull Gweithredu Unigryw i Gymru

Mae angen i ni ddatblygu dull gweithredu sy'n unigryw i Gymru ar gyfer addysgu, hyfforddi a chyflogi troseddwyr ifanc  - gan gynnwys gwell cymorth a darpariaeth.

Gallwn wneud hyn drwy gydweithio'n agos â'r Swyddfa Gartref a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, bodloni gofynion San Steffan o ran cyfiawnder troseddol a bod yn gyson â pholisïau eraill sy'n unigryw i Gymru.

Troseddwyr Ifanc - y prif egwyddorion

Hoffwn nodi dau o brif egwyddorion Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth ymdrin â throseddwyr: -

 rydym yn ystyried troseddwyr ifanc rhwng 11-25 oed yn bobl ifanc yn gyntaf, ac wedyn yn droseddwyr; ac

 fel pob person ifanc yng Nghymru, mae hawl sylfaenol gan droseddwyr ifanc i wasanaethau a fydd yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i fyw bywyd gweithgar a bodlon.


Mae'n amlwg bod angen cymorth addas ar droseddwyr ifanc, a bod ymyrraeth gynnar yn hanfodol bwysig.  Felly, ein gwaith ni yw sicrhau eu bod yn cael y cymorth hwn yn gynnar ac ar yr adeg iawn yn y "cylch troseddu".
Prosiect Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Addysgu, Hyfforddi a Chyflogi Troseddwyr Ifanc

Beth rydym wedi bod yn ei wneud?  

Bu swyddogion yn ymweld â lletyau diogel yng Nghymru a Lloegr i archwilio'r ddarpariaeth bresennol.   Rydym wedi codi ymwybyddiaeth mewn carchardai am anghenion pobl ifanc o Gymru, a'n dulliau gweithredu unigryw.  

Mae cysylltiadau agos rhyngom â'r Timau Troseddau Ieuenctid er mwyn gweld sut y mae gofynion y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio yng Nghymru.  

Cafwyd trafodaethau ag Estyn ynghylch y dystiolaeth y gallai arolygiad ei rhoi am ansawdd yr addysg a'r hyfforddiant a ddarperir mewn lletyau diogel.

Hefyd, mae perthynas waith dda rhyngom â Gyrfa Cymru, ELWa, y Ganolfan Byd Gwaith, Partneriaethau Pobl Ifanc, awdurdodau addysg lleol a Thimau Troseddau Ieuenctid er mwyn penderfynu beth y dylai fod hawl gan bobl ifanc ei ddisgwyl.


Dyma rai o brif feysydd y Prosiect:

 Sut y gallwn gydweithio â Phartneriaethau Pobl Ifanc i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu manteisio ar y gwasanaethau, y cymorth a'r cyfleoedd y mae ganddynt hawl i'w cael o dan ein hagenda nodedig ac unigryw 'Ymestyn Hawliau'.  Bydd hyn yn eu helpu i osgoi dod yn rhan o weithgareddau troseddol a gwrthgymdeithasol, ac yn cynorthwyo a rhoi cefnogaeth i'r rhai sydd;

 Sut y gall gweithgarwch yng Nghymru gael cyllid heb ei ddatganoli o'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a'r Swyddfa Gartref.  Rhaid i ni allu dylanwadu ar y ffordd y mae cyllid yn cael ei ddefnyddio er budd pobl ifanc yng Nghymru ac ategu mentrau eraill ar gyfer pobl ifanc; a

 Sut y gall troseddwyr ifanc a phobl ifanc sy'n debygol o droseddu, sydd rhwng 14 a 19 oed, fanteisio ar lwybr dysgu wedi'i deilwra ar eu cyfer er mwyn diwallu eu hanghenion.

Sgiliau Sylfaenol

Mae'r Swyddfa Gartref wedi rhoi cyllid ychwanegol i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar gyfer datblygu sgiliau sylfaenol, gyda thargedau anodd.  Bydd £600,000 yn cael ei neilltuo i Gymru yn 2004-5 a 2005-6. Ysgrifennodd Paul Goggins, Gweinidog y Swyddfa Gartref, ataf ym mis Ionawr i geisio cytuno ar y trefniadau yng Nghymru.  Mae fy swyddogion, ELWa a'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol wedi cynnal cyfarfodydd â'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, a byddant yn dod i gytundeb yn fuan ynghylch y ffordd ymlaen yng Nghymru.

Bydd y trefniadau hyn yn ehangu'r cyfleoedd sydd ar gael i feithrin sgiliau sylfaenol fel rhan o'r Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru. Dylai gwella'r sgiliau hyn ostwng y nifer sy'n ail-droseddu yn sylweddol.

Denu pobl yn ôl i hyfforddiant neu weithio

Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi neilltuo £216,000 i'r 7 Tim Troseddau Ieuenctid yn Ne Cymru ar gyfer 2004-05 er mwyn meithrin gallu pobl ifanc sy'n gadael llety diogel neu sy'n rhan o'r 'rhaglen wyliadwraeth a goruchwyliaeth ddwys' i fynd yn ôl i hyfforddiant neu weithio.  

Bydd yr arian hwn yn symbylu'r agenda addysg a hyfforddiant, ac yn darparu adnoddau ac yn asesu perfformiad mewn modd strategol.

Cadw mewn cysylltiad

Mae gwybodaeth dda a dibynadwy am y bobl ifanc hyn yn bwysig.  Felly, yn ystod 2004-05, bydd y Partneriaethau Pobl Ifanc yn datblygu ac yn gweithredu trefniadau gwell ar gyfer "Cadw mewn Cysylltiad" ar lefel leol. Bydd hyn yn gwella ansawdd a llif y wybodaeth.    
Cyd-destun polisi cyffredinol

Dyma rai o'r polisïau eraill y bydd troseddwyr ifanc yn elwa ohonynt:

 datblygiadau pwysig fel ein canllawiau gwrth-fwlio 'Parch at Eraill', canllawiau ar wahardd, sefydlu cynghorau ysgolion, ysgolion bro, a'r fenter 'Safer Schools Wales';  

 treialu Bagloriaeth Cymru;  ac

 ein hymgynghoriad diweddar ar Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan.  

Cynnwys Pobl Ifanc

Ein hathroniaeth yw y dylai pob person ifanc gael cyfle i fod yn rhan o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.  

Rydym yn sicrhau bod pobl ifanc o Gymru sydd yn y prif letyau diogel yng Nghymru a Lloegr yn cael dweud eu dweud. Rydym yn benderfynol y bydd sylwadau'r pobl ifanc yn rhan annatod o'r gwaith o lunio polisïau yn y dyfodol.

Casgliad - y gwirionedd

Mae angen adolygu'r addysg a hyfforddiant y mae troseddwyr ifanc yn ei gael ar hyn o bryd. Mae llawer iawn o waith ar ôl i'w wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y budd mwyaf posibl o ddysgu a rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt osgoi mynd i drybini yn y dyfodol.

Credaf fod y gweithgareddau rwyf wedi'u hamlinellu yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer mynd ati'n effeithiol a chynaliadwy i wella addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer troseddwyr ifanc.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i ostwng nifer y bobl ifanc sydd yn y system gyfiawnder troseddol yng Nghymru, gwella eu bywydau a sicrhau bod ein cymunedau'n fwy diogel.