Gwyr Aelodau fy mod wedi estyn gwahoddiad i’r Athro Richard Daugherty y llynedd i ymgymryd ag adolygiad trylwyr o drefniadau asesu’r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer rhai 11 a 14 blwydd oed. Yr oedd y cylch gorchwyl hwn yn cyd-fynd ag adolygiad pellgyrhaeddol o’r cwricwlwm ysgol a oedd eisoes yn cael ei gynnal gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Ym mis Mai, cefais yr adroddiad terfynol gan Richard a chyngor cyfunol gan ACCAC. Yn y cyfamser, yr wyf wedi ystyried y cyngor a gefais gan y ddau yn fanwl ac yr wyf yn falch o weld bod cymaint o dir cyffredin rhyngddynt. Maent yn gwbl gytûn ar yr hyn y dylem ei geisio o ran trefniadau asesu priodol. Cydnabu’r ddau y bu’r trefniadau asesu presennol yn fodd i fesur cyrhaeddiad disgyblion ar hyd llwybr clir a’u bod wedi hyrwyddo arbenigedd athrawon wrth farnu ynghylch y cyraeddiadau hynny. Peth hollbwysig, fodd bynnag, yw bod yr Athro Daugherty ac ACCAC ill dau’n cydnabod bod y profion statudol presennol sy’n rhan o’r trefniadau hynny’n rhoi pwysau ar athrawon i ddysgu ar gyfer y profion, nad ydynt o gymorth i’r trawsnewid o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, eu bod yn cyfyngu ar gwmpas y cwricwlwm, yn enwedig ym mlwyddyn olaf y cyfnod cynradd—fel y mae Estyn wedi adrodd yn rheolaidd hefyd—ac, o ganlyniad, eu bod yn cael effaith negyddol ar addysgu a dysgu. Mae tystiolaeth bendant, felly, fod angen newid os ydym i gael y gorau gan ein disgyblion, y cwricwlwm a’n hathrawon. Gan hynny, cynigiaf y dylid symud oddi wrth y gyfundrefn profion bresennol, yn ystod y pedair blynedd nesaf, tuag at system sy’n fwy addas i’r disgybl, sy’n canolbwyntio’n fwy ar sgiliau, ac yn rhoi lle canolog i asesu gan athrawon.
Mae’r trefniadau newydd y cynigiaf y dylem eu mabwysiadu, sy’n gyson â’r cyngor a gafwyd gan ACCAC a Daugherty, fel a ganlyn. Dylid parhau â’r asesiadau statudol gan athrawon ar ddiwedd cyfnodau allweddol 2 a 3, ond dylid eu hatgyfnerthu drwy drefniadau safoni ac achredu. Bydd ACCAC yn gyfrifol am y gwaith o gynllunio systemau a gwiriadau i sicrhau bod asesiadau gan athrawon yn gadarn ac yn gyson. Ar ddiwedd cyfnod allweddol 3, bydd hynny’n cynnwys dyfarnu statws canolfan achrededig i ysgolion uwchradd. Dros y tair blynedd nesaf, bydd y profion presennol yn cael eu dileu’n raddol. Er hynny, bydd ACCAC yn dal i ddarparu defnyddiau profi ac asesu dewisol i ategu asesiadau gan athrawon hyd nes y bydd y trefniadau newydd ar waith. Yng nghyfnod allweddol 2, datblygir math newydd o brawf diagnostig, sy’n canolbwyntio ar sgiliau ac fe’i cyflwynir ym mlwyddyn 5. Bydd y wybodaeth a geir o’r profion hyn yn helpu athrawon i ganfod cryfderau a gwendidau disgyblion unigol, y gellir eu datblygu neu’u trin yn ystod y flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd a byddant yn cynnig gwybodaeth werthfawr i’w thrafod gan ysgolion uwchradd pan fo disgyblion yn newid cyfnodau.
Bydd yr adroddiadau a gaiff rhieni am eu plant ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 yn cynnwys gwybodaeth am y lefelau a gyrhaeddwyd yn y gwahanol dargedau cyrhaeddiad ar gyfer pob un o’r pynciau craidd. Er mwyn helpu athrawon i drafod y trefniadau newydd, neilltuir diwrnod ychwanegol ar gyfer hyfforddiant mewn swydd yn 2005-06 ac yn 2006-07.
Rhaid i’r newid at y system newydd fod yn raddol ac yn drefnus. Bydd ACCAC yn arwain yn y gwaith o gynllunio a gweithredu’r profion newydd a’r trefniadau safoni, ond bydd yn rhaid cael rhai newidiadau mor fuan â 2005. Ni fydd y profion presennol ar gyfer cyfnod allweddol 2 yn statudol yng Nghymru o hyn ymlaen. Bydd y profion ar gyfer cyfnod allweddol 2 a ddatblygwyd eisoes i’w defnyddio y flwyddyn nesaf yn cael eu cynnig i ysgolion ar sail anstatudol. Er hynny, byddwn yn trefnu i gael marcio’r profion yn allanol os yw ysgolion yn dymuno inni wneud hynny. Trefnir hefyd i ddarparu profion yn 2006, ond ni fyddwn yn cynnig marcio allanol. Byddaf hefyd yn gofyn i ACCAC ddarparu rhywfaint o ddeunydd asesu dewisol i ategu asesiadau gan athrawon yn 2007. Mae hyn yn fodd i sicrhau newid didrafferth o’r trefniadau presennol i’r rhai newydd, a fydd yn gwbl weithredol erbyn blwyddyn ysgol 2007-08. Nid yw hyn ychwaith yn golygu y rhoddir y gorau i’r gwaith datblygu a chynhyrchu a wnaed eisoes wrth baratoi’r defnyddiau hynny. Ar gyfer cyfnod allweddol 3, gan ddilyn cyngor ACCAC, bydd y profion yn dal i fod yn rhai statudol yn 2005. Credaf y bydd hyn yn cynnig y sicrwydd ansawdd y mae ei angen cyn inni ddechrau paratoi’r trefniadau newydd ar gyfer safoni asesiadau athrawon a dileu’r profion. Yn 2006, bwriadaf wneud y profion yn rhai anstatudol, gan ddarparu marcio allanol, ac, yn 2007, bydd y profion hynny ar gael, ond heb farcio allanol.
Mae’r rhain yn newidiadau pwysig, ac maent yn seiliedig ar argymhellion cadarn a gyflwynwyd gan ddau gorff abl a dibynadwy—ACCAC a grwp adolygu asesu Daugherty. Mae’r argymhellion hyn yn seiliedig ar dystiolaeth sylweddol a gafwyd gan ymarferwyr, disgyblion, rhieni ac arbenigwyr o fri cenedlaethol a rhyngwladol. Yr wyf yn sicr y bydd y pecyn yr wyf yn ei gynnig yn sicrhau system asesu effeithiol, diogel a chyson a fydd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau a rhaglen asesu ar gyfer dysgu. Bydd o les i ddisgyblion, i athrawon ac i’n system addysg, bydd yn ysgafnhau’r baich sydd ar athrawon, a bydd yn gwneud defnydd mwy buddiol ac effeithiol o amser dysgu. Bydd yn datblygu sgiliau athrawon ymhellach o ran asesu a dysgu, a bydd yn cyfrannu at welliannau pellach yn y lefelau perfformiad. Cynlluniwyd y cynigion hyn hefyd fel eu bod yn cydweddu â’n hagenda ar gyfer y trawsnewid rhwng cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3, o ran y buddion a geir o’r system newydd er mwyn hwyluso’r newid, ac o ran amseru, i’r graddau bod y trefniadau asesu newydd yn cydasio â’r gofynion a gynigir ar gyfer trawsnewid y byddaf hefyd yn ymgynghori arnynt yn yr hydref.
Mae llawer o fanylion i’w trafod o hyd. Gwnawn hynny gydag ACCAC yn ystod yr haf a chyhoeddi papur ymgynghori llawn, gyda hyn, ar y trefniadau newydd, yr wyf yn gobeithio y byddant yn gwbl weithredol o 2007-08. Yn y cyfamser, bwriadaf gyhoeddi papur ymgynghori byrrach ym mis Medi ar y newidiadau cyntaf y mae’n rhaid inni eu gwneud ar gyfer 2005. Yr wyf yn benderfynol o beidio â llaesu dwylo wrth geisio codi safonau, a chredaf y bydd y pecyn newydd ar gyfer asesu a thrawsnewid yn rhoi hwb o’r newydd i’r gwaith hwn. Carwn ddatgan, unwaith eto, fy niolch i’r Athro Daugherty a’i grwp am eu cyfraniad at y gwaith o ddatblygu Cymru fel gwlad sy’n dysgu.