Skip to content

Cwmnïau Bwyd Cydweithredol a'r Strategaeth Faeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r ffaith nad oes digon o amrywiaeth o fwydydd iach ar gael yn rhwystr sylweddol i fwyta'n iach mewn rhai ardaloedd o Gymru. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn mae'n falch gennyf gyhoeddi cynllun peilot dwy flynedd i ddatblygu cwmnïau bwyd cydweithredol yng Nghymru ac i ehangu a rheoli system rhwydwaith bwyd ledled Gogledd a De Cymru.  Bydd cefnogaeth gan y Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd yn arwain at ddatblygu o leiaf 26 o gwmnïau bwyd cydweithredol ledled Cymru, gyda chysylltiadau ag ysgolion a chymunedau. Bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar gymunedau dan anfantais gymdeithasol, yn arbennig ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Mae mynd i'r afael â thlodi bwyd a hybu cydraddoldeb bwyd, drwy wella'r mynediad ffisegol ac economaidd i fwyd a chefnogi gweithredu yn y gymuned, yn rhan ganolog o'n strategaeth ar faethiad, sef Bwyd a Lles. Nod Bwyd a Lles yw gwella maethiad pawb yng Nghymru, ond mae hefyd yn targedu camau gweithredu ymysg grwpiau allweddol o'r boblogaeth a fydd yn elwa fwyaf o faethiad gwell.

Yma yng Nghymru rydym yn gweithio'n agos ag Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i weithredu Lles a Iechyd. Mae hyn eisoes wedi arwain at fentrau sy'n targedu maethiad gwell i gymunedau dan anfantais yng Nghymru fel y cynllun grant Hybu Iechyd Bwyd a Ffitrwydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi sylw i un arall o bwyntiau gweithredu'r cynllun sef hwyluso datblygiadau a anelwyd at wella'r mynediad i fwyd gan gynnwys sefydlu cwmnïau bwyd cydweithredol.

Mae gwella iechyd deietegol yn uchel ar agenda llawer o wledydd. Am y tro cyntaf mae'r asiantaethau diogelwch bwyd Ewropeaidd, sy'n cynnwys Asiantaeth Safonau Bwyd y DU, wedi cytuno ar gynllun gweithredu cyffredin er mwyn gwella iechyd deietegol ar draws yr aelod-wladwriaethau. Mae gwledydd Ewrop yn wynebu problemau iechyd tebyg yn ymwneud â maethiad. Mae'r cynnydd ym mynychder gordewdra, yn enwedig mewn plant, lefelau uchel o halen mewn bwyd, a lefelau isel o asid ffolig yn neiet menywod yn faterion sy'n achosi pryder ledled Ewrop.

Ar draws Ewrop mae tystiolaeth glir, gynyddol o effeithiau amddiffynnol ffrwythau a llysiau yn erbyn afiechydon cronig. Gallai bwyta o leiaf pum darn o ffrwythau a llysiau bob dydd arwain at leihad o hyd at 20 y cant yn y marwolaethau o glefydau fel clefyd y galon, strôc a chanser yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Ond yn ôl canfyddiadau arolwg FSA Cymru (2000), ar gyfartaledd dim ond tua 3 darn o ffrwythau a llysiau y diwrnod fydd oedolion yn eu bwyta yng Nghymru ac mae'r ffigurau yn gyffredinol is ar gyfer grwpiau dan anfantais gymdeithasol.

Mae ariannu cwmnïau bwyd cydweithredol yn cyflawni ymrwymiad a wnaed yn Lles yng Nghymru, sy'n nodi ein cynlluniau am ragor o weithredu ar draws meysydd polisi i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol afiechyd. Mae'n sylweddoli'r potensial o wella'r cyflenwad ffrwythau a llysiau fforddiadwy sydd ar gael i gymunedau dan anfantais a chymunedau anghysbell drwy ddod â hwy ynghyd â ffermwyr a chyflenwyr bwyd. Yn gysylltiedig â'r cynllun peilot hwn gan yr Uned Adfywio Gwledig bydd Swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol, yr Is-adran Datblygu Bwyd a Ffermio a'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gydweithredol Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru.

Bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar gyflenwi, o ffynonellau lleol cyn belled â phosibl, ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ansawdd yn y lle cyntaf, ac yna cig a physgod i gymunedau dan anfantais drwy ddatblygu rhwydweithiau dosbarthu bwyd lleol cynaliadwy. Bydd yn sefydlu cwmnïau bwyd cydweithredol lleol ac yn symbylu ac yn cefnogi gweithgareddau i ategu hynny gan gynnwys dosbarthiadau coginio ar incwm isel, gerddi clytwaith mewn ysgolion ac ymweliadau â ffermydd. Y prif nod yw rhoi ffermwyr mewn cysylltiad â chymunedau, gan gyfyngu ar y gadwyn ddosbarthu ac yna gellir cynnig bwyd am brisiau sy'n ddeniadol i'r ddau barti, gan roi deiet a dull o fyw iachach i'r cymunedau, a masnach hyfyw i'r ffermwr. Caiff y cynllun ei ddatblygu mewn ffordd sy'n sensitif i fusnesau lleol a fydd yn cael y cyfle cyntaf i fod yn gyflenwyr i'r cwmnïau bwyd cydweithredol.

Yng Nghymru mae rhai enghreifftiau rhagorol o arferion da yn bodoli fel y cwmnïau bwyd cydweithredol yn y Barri a'r Rhyl ond mae sgôp sylweddol i ddatblygu ymhellach. Bydd y cynllun peilot hwn yn adeiladu ar y potensial ac yn sicrhau ein bod, drwy werthuso, yn datblygu enghraifft gynaliadwy o arfer gorau i'w weithredu ledled Cymru.