Skip to content

Y Cynllun Gweithredu Ar Ddatblygu Cynaliadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog Dros Yr Amgylchedd, Cynllunio A Chefn Gwlad
Yn ystod y ddadl ar Gynllun Datblygu Cynaliadwy diwygiedig y Cynulliad, a gynhaliwyd ar 16 Mawrth eleni, ymgymerais i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Llywodraeth y Cynulliad ar roi’r Cynllun ar waith, ymgynghori yn ei gylch a’i ddwy gerbron y cyfarfod llawn.

At y perwyl hwn, cyhoeddais Gynllun drafft at ddibenion ymgynghori ar 22 Mawrth, gan wahodd sylwadau erbyn 21 Mai.  

Mae’r holl ymatebion a gawsom wedi’u cyhoeddi bellach ar y rhyngrwyd, ar wefan http://www.wales.gov.uk/themessustainabledev/content/review/action-responses/index-e.htm.    Roedd y rhan fwyaf yn bositif iawn.   Maent hefyd wedi bod yn ystyriol iawn ac, mewn rhai achosion, yn fanwl iawn.

Rwyf yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd ac rwyf yn gwerthfawrogi’r ymdrech a wnaed wrth lunio’r ymatebion.

Rhaid diolch hefyd Bwyllgorau’r Cynulliad a fu’n ystyried y Cynllun drafft a’r Aelodau Cynulliad unigol a ysgrifennodd ataf yn ei gylch.

Credaf fod ein drafft gwreiddiol yn dda, ond y gallwn wella ymhellach arno yng ngoleuni’r holl sylwadau a dderbyniwyd gennym.

Roedd bob amser yn mynd i fod yn anodd ymgynghori ar y Cynllun, rhoi’r sylw dyladwy i’r ymatebion a pharatoi’r fersiwn terfynol rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf.  Dywedais hyn yn eglur ym mis Mawrth.  Rydym wedi ymgynghori ac wedi cwblhau ein dadansoddiad o’r ymatebion, ond mae yna rai materion yn codi ohonynt mae angen i ni eu datrys cyn y gallwn gyflwyno drafft terfynol i’w drafod.

Penderfynais mai’r unig ffordd briodol o ymateb i’r diddordeb a’r sylwadau mae’r Cynllun drafft wedi’u denu yw drwy ystyried y materion hyn ymhellach dros yr haf, cyhoeddi fersiwn terfynol cyn gynted ag y bo modd, a’i gyflwyno i’w drafod gan y cyfarfod llawn yn yr hydref.

Un o’r ymrwymiadau a gynigiwyd yn ein Cynllun drafft oedd y byddem yn cysylltu ein hadroddiad blynyddol statudol ar hynt gweithredu’r Cynllun ag adroddiad y Prif Weinidog. Croesawyd y cynnig hwn gan y rhai hynny a anfonodd sylwadau yn ei gylch.  Fy mwriad felly (gan fod cyflwyno adroddiadau blynyddol yn fater dirprwyedig) yw cyhoeddi’r adroddiad ar gynnydd ar y cyd ag adroddiad y Prif Weinidog sydd ar fin ei gyhoeddi, fel y cynigiwyd gennym.  Fy mwriad hefyd yw gosod yr adroddiad ar gynnydd gerbron y cyfarfod llawn ochr yn ochr â fersiwn terfynol y Cynllun Gweithredu, yn yr hydref.