Skip to content

Fasnacheddio Cnydau a Addaswyd yn Enynnol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd,Cynllunio a Chefn Gwlad
Bydd Aelodau’n dymuno bod yn ymwybodol bod Margaret Beckett, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, wedi gwneud datganiad heddiw gerbron Ty’r Cyffredin am bolisi Llywodraeth y DU ar fasnacheiddio cnydau a addaswyd yn enynnol.
Yng ngolwg y datganiad hwn, pwysleisiaf fod safbwynt Llywodraeth y Cynulliad ar fasnacheiddio cnydau GM yn glir, yn ddiamwys ac yn ddigyfnewid. Yr ydym wedi cefnogi’n gyson y bwriad i ymdrin yn y modd mwyaf cyfyngiadol posibl â masnacheiddio a thyfu cnydau GM yng Nghymru o dan ddeddfwriaeth gyfredol y DU a’r UE. Er hynny, nid yw hyn yn golygu y gallwn ddatgan y bydd Cymru’n rhydd oddi wrth addasu genynnol fel y carai llawer. Byddai gwneud hynny’n anghyfreithlon, ac anghyfrifol ar ran unrhyw Lywodraeth fyddai gweithredu y tu allan i’r fframwaith deddfwriaethol.
Cyn penderfynu ar ei pholisi, gwnaeth Llywodraeth y DU ystyried y barnau a fynegwyd yn y ddeialog ar GM. Yr oedd y barnau hynny’n deillio o ddadl gyhoeddus, adolygiad gwyddonol ac astudiaeth cost a budd, yn ogystal â chanlyniadau’r gwerthusiadau ar ffermydd ac adroddiad y Comisiwn Amaethyddiaeth a Biotechnoleg Amgylcheddol ar gydfodoli ac atebolrwydd.
Ystyrir masnacheiddio cnydau GM yn y DU fesul achos. Rheolir mewnforio a thyfu cnydau GM gan y gyfarwyddeb ar ryddhau bwriadol, sy’n rhoi’r fframwaith cyfreithiol. O dan y gyfarwyddeb honno, rhaid cael caniatâd marchnata rhan C ar gyfer pob cais. Drwy fynnu y bydd pob cnwd yn cael ei drin yn unigol, bydd yn rhaid cael asesiad trylwyr gan holl aelod wladwriaethau’r UE ar gyfer pob cais gan y DU ar sail y dystiolaeth wyddonol, a bydd yn rhaid dod i gytundeb ar y cyd. Os oes tystiolaeth gadarn sy’n awgrymu bod risg annerbyniol, ni fyddem yn disgwyl y ceir cytundeb. At hynny, ni roddir caniatâd oni bai fod digon o dystiolaeth wyddonol ar gael i allu gwneud penderfyniad.
Cyn gwneud unrhyw benderfyniad i fasnacheiddio neu farchnata cnydau GM, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi pob ystyriaeth i’r angen i warchod iechyd dynol a’r amgylchedd, y dewis sydd ar gael i ddefnyddwyr ac i ffermwyr, mesurau cydfodoli, a chynlluniau iawndal. Ynghylch gwarchod iechyd dynol a’r amgylchedd, ystyriaf gyngor cynghorwyr statudol y Llywodraeth fel y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd a’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Fwydydd a Phrosesau Newydd.
Ynghylch y dewis sydd ar gael i ddefnyddwyr a ffermwyr, bydd deddfwriaeth newydd ar labelu a’r gallu i olrhain bwydydd a phorthiant yn dod i rym yn 2004, a bydd hynny’n gadael i ddefnyddwyr ddewis cynnwys cynhyrchion, ac i ffermwyr ddewis cynnwys porthiant anifeiliaid. At hynny, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â gweinyddiaethau a rhanddeiliaid eraill yn y DU, yn ymchwilio i ganfod a ellir cyflwyno trothwyon caethach ar gyfer presenoldeb damweiniol addasiadau genynnol mewn cynhyrchion sydd heb eu haddasu’n enynnol sy’n is na’r trothwy o 0.9 y cant a gytunwyd gan yr UE ar gyfer cynnyrch organig.
Mae canllawiau’r comisiwn yn cymell mesurau cydfodoli rhanbarthol fel y gall ffermwyr barhau â’u harferion ffermio traddodiadol heb osod cyfyngiadau anghyfreithlon ar gnydau GM. Gan hynny, bydd Llywodraeth y Cynulliad, ar y cyd â Llywodraethau eraill yn y DU, yn ceisio cyflwyno mesurau cydfodoli cadarn ac yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gael parthau gwirfoddol sy’n rhydd oddi wrth addasu genynnol, fel y mae canllawiau’r comisiwn yn caniatáu. Byddwn yn disgwyl cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr â rhanddeiliaid, gweinyddiaethau y DU a’r UE a chyda’r comisiwn.
Fel y nodais yn fy natganiad i’r Cyfarfod Llawn ar 24 Chwefror ar y posibilrwydd o restru Chardon LL, mae Llywodraeth y Cynulliad yn dymuno bod rheolaethau digonol ar waith i amddiffyn cnydau organig a chonfensiynol rhag y posibilrwydd o’u halogi gan ddeunydd GM. Gallaf egluro mwy ar y mater hwn yn awr. Ni fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cytuno i restru Chardon LL hyd nes y cytunir ar y newidiadau a geisir i’r caniatâd rhan C gyda’n partneriaid Ewropeaidd. Yr ydym hefyd yn bwriadu sicrhau y bydd mesurau boddhaol ar waith ar gyfer cydfodoli cyn y gellir cael masnacheiddio.
Yn olaf, bydd Llywodraeth y Cynulliad, ynghyd â’r gweinyddiaethau a’r rhanddeiliaid eraill yn y DU, yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cynllun iawndal ar gyfer ffermwyr nad ydynt yn tyfu cnydau GM. Nid yw’r polisi a gytunwyd yn y DU yn rhoi rhwydd hynt i fasnacheiddio cnydau GM ond, yn hytrach, mae’n cynnig gwerthusiad manwl fesul cnwd. Dull gweithredu cyfyngiadol a gochelgar yw hwn, yn unol â’r fframwaith deddfwriaethol. Ein bwriad yng Nghymru yw sicrhau bod digon o reolaethau ar waith i atal unrhyw berygl posibl i iechyd dynol a’r amgylchedd o’r posibilrwydd o dyfu cnydau GM, yn ogystal ag amddiffyniad i eraill sy’n tyfu cnydau confensiynol ac organig yn fasnachol a darparu dewis i’r defnyddiwr.