Skip to content

Datganiad ar HIV a Gwasanaethau Iechyd Rhywiol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r cynnydd a geir yng nghyfraddau heintiadau a drosglwyddir yn rhywiol ledled y DU ac yng nghyfraddau HIV yng Nghymru’n dal i effeithio arnom i gyd. Yn Hydref 2003, sefydlwyd bwrdd prosiect i adolygu cyflwr ein gwasanaethau HIV ac iechyd rhywiol. O ganlyniad i’r adolygiad hwnnw, penderfynais gryfhau’r trefniadau ar gyfer darparu’r gwasanaethau hynny ledled Cymru. Achubaf ar y cyfle hwn i nodi’r camau y bwriadaf eu cymryd.

Yn gyntaf, nododd yr adolygiad fod angen gosod safonau pendant ar gyfer y gwasanaethau hyn. Fe’u cyflwynir gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ar gyfer ymgynghori ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Gosodir safonau mewn cysylltiad â phob agwedd ar wasanaethau iechyd rhywiol, gan gynnwys rhwydweithiau gwasanaethau iechyd rhywiol, hybu iechyd rhywiol, heintiadau a drosglwyddir yn rhywiol, gofal atal cenhedlu, gwasanaethau erthylu, triniaeth a gofal mewn cysylltiad â HIV ac AIDS, a gwasanaethau seicorywiol.

Nodwyd bod rhaid moderneiddio’r gwasanaethau presennol cyn y gellid sicrhau gwasanaeth effeithlon a fyddai’n diwallu anghenion ei gleifion. Gan hynny, bwriadaf gyfuno’r gwasanaethau presennol ar gyfer cynllunio teulu a meddygaeth genhedlol-droethol i wneud un gwasanaeth iechyd rhywiol, a fydd yn amlhau’r cyfleoedd i gynnig archwiliadau iechyd ataliol, i ganfod heintiadau fel clamydia, ac i ddarparu gwasanaeth sy’n fwy derbyniol gan gleifion a staff.

Un agwedd allweddol ar y datblygiadau hyn yw’r angen i ehangu rôl nyrsys sy’n gweithio mewn gwasanaeth iechyd rhywiol. Mae astudiaethau wedi dangos y gall nyrsys a hyfforddwyd mewn iechyd rhywiol gynnig gofal cynhwysfawr i gleifion, gan ddilyn canllawiau a phrotocolau a gytunwyd. Gwelsom y budd a gafwyd o ddatblygu rôl y nyrs yma yng Nghaerdydd. Yng nghlinig meddygaeth genhedlol-droethol Ysbyty Brenhinol Caerdydd, mae dwy o’r nyrsys a oedd yno wedi’u hyfforddi i weithio fel ymarferwyr nyrsio. Drwy hynny, bu modd i’r clinig newid ei system trefnu apwyntiadau fel y gall gynnig, yn lle clinigau drwy apwyntiad yn unig, gyfuniad o glinigau drwy apwyntiad a chlinigau â mynediad agored i rai gael aros eu tro bum bore yr wythnos. Yn ystod y pedwar mis cyntaf o weithredu’r system, gwelwyd 27 y cant yn fwy o gleifion ac, yn bwysicaf, gall cleifion ddewis cael eu gweld ar unwaith neu drwy apwyntiad. Bu gostyngiad mawr yn yr amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau, o 14 wythnos i bythefnos.

Yr wyf am weld ailadrodd y llwyddiant hwn ledled Cymru. Gan hynny, yr wyf heddiw’n cyhoeddi targed fframwaith gwasanaeth a chyllid ar gyfer 2005-06, y mae’n rhaid i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau ei gyrraedd er mwyn sicrhau y bydd profion am heintiadau a drosglwyddir yn rhywiol ar gael o fewn dau ddiwrnod gwaith. Disgwyliaf weld cyrraedd y targed hwn drwy foderneiddio gwasanaethau. Clustnodir y gwariant ar gyfer y gwasanaethau hyn: cyfunir y £7.1 miliwn a glustnodir ar gyfer meddygaeth genhedlol-droethol â’r £7 miliwn a warir ar hyn o bryd ar wasanaethau cynllunio teulu i greu un gyllideb wedi’i chlustnodi ar gyfer gwasanaeth iechyd rhywiol. Yn ogystal â’r cyllid hwn sydd wedi’i glustnodi, darparaf £0.5 miliwn ychwanegol i hybu’r broses moderneiddio.

Er mwyn hyrwyddo’r datblygiadau newydd hyn, bydd Dr Marion Lyons, sy’n ymgynghorydd ar reoli clefydau trosglwyddadwy yn y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, yn cael ei secondio i’r Cynulliad i fod yn gyfarwyddwr y prosiect moderneiddio gwasanaethau HIV ac iechyd rhywiol. Mae Dr Lyons eisoes wedi chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo’r adolygiad hwn a bydd yn hybu’r agenda ar gyfer moderneiddio. O dan ei chyfarwyddyd, bydd y Cynulliad yn cynghori ac yn cytuno ar gynlluniau moderneiddio HIV ac iechyd rhywiol lleol gyda byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau, yn dyrannu arian ychwanegol yn unol â’r angen a’r agenda ar gyfer moderneiddio, ac yn sicrhau y cynigir hyfforddiant addas i nyrsys ledled Cymru. Bydd bwrdd ymgynghorol amlddisgyblaethol ar HIV ac iechyd rhywiol yn helpu Dr Lyons ac yn cyfrannu at waith y Cynulliad.

Mae’r adolygiad wedi tynnu sylw hefyd at y cyfraniad pwysig a wnaiff gofal sylfaenol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd rhywiol. Ymarferwyr cyffredinol sy’n darparu pils atal cenhedlu gan mwyaf ar hyn o bryd, ac mae llawer eisoes yn cynnal profion am heintiadau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae rhai fferyllwyr eisoes yn darparu dulliau atal cenhedlu hormonol brys, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn eu gwerthu dros y cownter. Wrth i dechnoleg y pecynnau profi ddatblygu, ni ddylem roi amcan rhy isel o’r rôl y gall fferyllwyr ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau diagnostig a thriniaeth yn y dyfodol. Bydd y contract newydd ar gyfer fferylliaeth gymunedol, sydd i’w roi ar waith y flwyddyn nesaf, yn ein helpu i wneud y defnydd mwyaf posibl o sgiliau fferyllwyr yn hyn o beth.

Yr wyf wedi ymdrin yn bennaf â gwasanaethau clinigol gan fod ein hymateb i’r hyn sy’n datblygu’n argyfwng mewn iechyd cyhoeddus yn seiliedig ar y gallu i gael profion, diagnosis a thriniaeth ar gyfer heintiadau’n brydlon. Fodd bynnag, er mwyn gwneud cynnydd sylweddol a chynaliadwy, rhaid inni sicrhau y ceir ymateb amlasiantaethol sy’n hybu ymddygiad rhywiol diogelach yn y boblogaeth. Gwnaed llawer o gynnydd eisoes. Yn wir, mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis diwethaf yn dangos gostyngiad o fwy na 15 y cant yn nifer y beichiogiadau dan oed. Mae gennym enghreifftiau rhagorol o waith i hybu iechyd rhywiol yng Nghymru, gan gynnwys addysg rhyw a chydberthynas yn yr ysgol ac yn y gymuned, cynlluniau sy’n cynnig condomau’n rhad ac am ddim i bobl ifanc, canolfannau galw heibio ar gyfer cynghori ar gydberthynasau, ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol dros atal HIV a heintiadau a drosglwyddir yn rhywiol, a gwaith allanol gyda grwpiau sy’n agored i niwed. Darperir y gwasanaethau hynny mewn amryw o sectorau, gan gynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, addysg, a gwasanaethau ieuenctid a gwirfoddol. Talaf deyrnged i’r elusennau iechyd rhywiol, Ymddiriedolaeth Terence Higgins ac fpa Cymru, fel partneriaid yn y gwaith hwn.

Ar hyn o bryd, mae’r rhai sy’n darparu gwasanaethau iechyd rhywiol yn dod at ei gilydd drwy amryw o rwydweithiau lleol anffurfiol. Yr wyf am weld cryfhau’r rhwydweithiau hynny fel eu bod yn bodloni’r safon a gyhoeddir cyn hir ar gyfer rhwydweithiau gwasanaethau HIV a iechyd rhywiol. Bydd partneriaid o sawl asiantaeth a disgyblaeth yn cydweithio mewn rhwydweithiau gwasanaeth i gynllunio a darparu gwasanaethau HIV ac iechyd rhywiol yn eu hardaloedd. Mae’n bwysig rhoi gwybod am arferion lleol effeithiol ledled Cymru, a bydd y rhwydwaith iechyd rhywiol presennol i Gymru gyfan yn cael ei ad-drefnu er mwyn cynnig fforwm cenedlaethol i rannu gwybodaeth a’r arferion gorau o rwydweithiau gwasanaethau iechyd rhywiol lleol.

I derfynu, bydd y pecyn hwn o arweiniad cenedlaethol a lleol, moderneiddio, a gwaith ar y cyd ar bob lefel, yn fodd i sicrhau gwelliant ac yn cyfrannu at gynnydd sylweddol mewn iechyd rhywiol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at gael cefnogaeth y Cynulliad cyfan i hyrwyddo’r argymhellion hyn.