Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Diben: Cyflwyno ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar yr Adolygiad 'Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru'.
Amlinellir yr ymatebion i'r argymhellion a wneir yn yr Adroddiad isod. Mae'r argymhellion yn dilyn penawdau a threfn rifo'r Adroddiad.
Pennod 2: Cefnogi Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru
Ysgrifennu Newydd - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylid cynyddu'r grant cyhoeddi i Gyngor Llyfrau Cymru fel y gall fynd i'r afael â'r gwendidau yn isadeiledd tai cyhoeddi yng Nghymru. Byddai hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer:
grantiau comisiynu ar gyfer cynhyrchu llyfrau poblogaidd eu hapêl yn y Saesneg;
swyddi golygyddol;
swyddi marchnata a chyllideb farchnata; a
y Strategaeth Farchnata Gytûn.
1. Derbyn. Cytuna Llywodraeth y Cynulliad â safbwynt y Pwyllgor fod angen cryfhau'n sylweddol isadeiledd y diwydiant cyhoeddi er mwyn sicrhau bod ysgrifennu Saesneg yng Nghymru yn datblygu ac yn ffynnu. Mae hyn yn flaenoriaeth gyllidol allweddol i Lywodraeth y Cynulliad, a bydd yn helpu i sicrhau yr ymdrinnir â llawer o'r materion a'r argymhellion eraill a gynhwysir yn adroddiad y Pwyllgor yn y tymor hirach. Bydd disgwyl buddsoddiad tymor canol a hirdymor gan Lywodraeth y Cynulliad at ddiben datblygu'r isadeiledd er mwyn galluogi cyhoeddwyr i gynhyrchu llyfrau Saesneg a ysgrifennir yng Nghymru sy'n bodloni gofynion y farchnad, a'u galluogi yn y pen draw i gynhyrchu llyfrau sy'n creu gofyn newydd yn y farchnad ar gyfer llyfrau Cymreig cyfrwng-Saesneg .
2. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gomisiynu llyfrau poblogaidd eu hapêl, a bydd hefyd yn cael ei neilltuo ar gyfer marchnata Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru yn fwy. Bydd cyllid ychwanegol hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi swyddi golygyddol a marchnata mewn tai cyhoeddi gan eu galluogi i gynyddu eu gallu i olygu ac i fodloni gofynion y farchnad.
3. Goblygiadau ariannol: Oes. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu £250K yn ychwanegol o fewn y flwyddyn ariannol bresennol i ddechrau gweithredu’r amrywiaeth o argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn ymateb Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys cefnogi ysgrifennu newydd a chryfhau’r isadeiledd.
Awduron ar Daith - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylid ystyried rhoi mwy o gyllid i'r cynllun Awduron ar Daith, yn arbennig er mwyn galluogi mwy o awduron i ymweld ag ysgolion.
4. Gwrthod. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod cyfraniad y cynllun Awduron ar Daith o ran datblygu awduron ac addysgu ynghylch ysgrifennu yng Nghymru. Serch hynny, ni chred Llywodraeth y Cynulliad fod y cynllun llwyddiannus hwn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer unrhyw gyllid ychwanegol.
5. Goblygiadau ariannol: Dim
Gweithiau Clasurol - Yr argymhelliad:
Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r syniad o Lyfrgell Cymru ar gyfer gweithiau clasurol ac yn argymell ei ystyried ymhellach.
6. Derbyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cytuno'n llwyr â chysyniad Llyfrgell Cymru ar gyfer gweithiau clasurol ac mae’n credu y byddai’n rhoi hwb sylweddol i addysgu, ysgolheictod a darllenyddiaeth ysgrifennu Saesneg yng Nghymru. Bydd Llyfrgell Cymru ar gyfer gweithiau clasurol yn chwarae rhan bwysig mewn codi ymwybyddiaeth a diddordeb yn niwylliant unigryw Cymru drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd ysgolion a sefydliadau addysgol Cymru yn derbyn set o gyfrolau Llyfrgell Cymru am ddim. Bydd Llywodraeth y Cynulliad nawr yn datblygu cynigion manylach ar gyfer gweithredu’r cynllun hwn.
7. Goblygiadau ariannol: Oes. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu £250K yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol bresennol i gychwyn gweithredu yr amrywiaeth o argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn ymateb Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys gwaith tuag at sefydlu Llyfrgell Cymru.
Pennod 3: Ymwybyddiaeth Farchnata
Strategaeth Farchnata Gytûn - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Cyngor Llyfrau Cymru a'i bartneriaid gostio a chywreinio ymhellach gynigion y Strategaeth Farchnata Gytûn gyda'r bwriad o'i rhoi ar waith yn y dyfodol agos.
8. Derbyn. Yn 2002, pennodd y Grw^p Gorchwyl a Gorffen ar Gyhoeddi, dan Gadeiryddiaeth y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant ar y pryd, Delyth Evans, yr angen am strategaeth farchnata gytûn ar gyfer y diwydiant cyfan. Gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad i Gyngor Llyfrau Cymru gydgysylltu ymdrechion i lunio strategaeth o'r fath, gan gydweithio â chynrychiolwyr o'r diwydiant cyhoeddi cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys aelodau masnach, llyfrgelloedd a grwpiau awduron. O ganlyniad mae'r strategaeth yn adlewyrchu sylwadau'r diwydiant cyfan. Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r strategaeth ar ddiwedd 2003.
9. Gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad i Gyngor Llyfrau Cymru yn ei lythyr cylch gwaith ar gyfer 2004-05 gydweithio â'r diwydiant er mwyn blaenoriaethu a phrisio'r strategaeth.
10. Goblygiadau ariannol: Dim yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd angen i Lywodraeth y Cynulliad ystyried y Strategaeth yn ofalus pan fydd wedi'i phrisio a'i blaenoriaethu cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch cyllid ychwanegol.
Siopau Llyfrau - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylai trafodaethau barhau â'r prif adwerthwyr llyfrau yng Nghymru i hyrwyddo ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.
Dylid cefnogi hyn gyda thystiolaeth gadarn ar ffurf data ar werthiant ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.
11. Derbyn. Mae hyrwyddo Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, ac yn arbennig mewn perthynas â gosod llyfrau mewn mannau addas ac amlwg mewn siopau llyfrau, yn allweddol bwysig. Mae gan brif adwerthwyr llyfrau Cymru swyddogaeth allweddol o ran hyrwyddo ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, ac mae mentrau diweddar WHSmith wedi bod yn galonogol iawn. Mae'n bwysig ein bod yn datblygu'r gwaith yma ac rwyf wedi gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru barhau â'i waith yn y maes hwn.
12. Byddaf hefyd yn gfyn i gyrff yn y sector diwylliannol sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau y bydd pob siop y maent yn gyfrifol amdano yn rhoi lle amlwg i lyfrau Cymreig yn y ddwy iaith, ac yn gweithio’n agos gyda Chyngor llyfrau Cymru i wella a datblygu eu stoc o ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.
13. Derbyn. Dylai data ynghylch gwerthiant Cymreig cyfrwng-Saesneg fod ar gael os defnyddir arian cyhoeddus ar ei gyfer. Mae Cyngor Llyfrau Cymru eisoes yn casglu data ynghylch y teitlau sy'n derbyn cyllid o un o raglenni grant y Cyngor, ac mae data hefyd ar gael ynghylch yr hyn a werthir o Ganolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru yn ogystal â'i wefan, Gwales. Byddaf yn gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru archwilio a oes dulliau eraill o gasglu data ynghylch gwerthiant llyfrau Saesneg a ysgrifennir yng Nghymru.
14. Goblygiadau ariannol: Dim.
Llyfrgelloedd - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylid casglu data ar nifer y teitlau wedi'u hysgrifennu yn y Saesneg yng Nghymru sydd mewn stoc, ychwanegiadau blynyddol a'r nifer sy'n cael eu benthyg, fel sy'n digwydd ar gyfer gweithiau Cymraeg.
Dylai awdurdodau llyfrgelloedd mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru ystyried gwella'r dull o ddod o hyd i weithiau wedi'u hysgrifennu yn y Saesneg yng Nghymru a gwella'r dull o'u prynu.
Dylai awdurdodau llyfrgelloedd frolio llyfrau wedi'u hysgrifennu yn y Saesneg yng Nghymru yn eu llyfrgelloedd er mwyn annog pobl i'w darllen ac annog y galw amdanynt.
15. Derbyn. Nid oes casgliad penodol o ddata gan lyfrgelloedd ynghylch ysgrifennu Saesneg yng Nghymru. Byddaf yn gofyn i CyMAL gydweithio â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru er mwyn ystyried pa mor ymarferol yw gweithredu system ar gyfer monitro y defnydd o lyfrau Cymreig cyfrwng-Saesneg mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Bydd CyMAL hefyd yn ystyried dulliau casglu data o wahanol lyfrgelloedd, er enghraifft llyfrgelloedd mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch.
16. Derbyn. Bydd CyMAL, ar y cyd â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, yn ystyried dulliau o wella'r trefniadau presennol o ran dod o hyd i weithiau Cymreig cyfrwng-Saesneg.
17. Derbyn. Mae llyfrgelloedd yn edrych ar ffyrdd o wella’r modd y mae eu stoc lyfrau yn cael ei arddangos a’i hyrwyddo. Un enghraifft o’r modd y mae’r gwaith hwn eisoes yn cael ei ddatblygu yw’r rhaglen Gymreig a ariennir gan y loteri, Estyn Allan/Branching Out. Cynhelir y cynllun o fewn holl awdurdodau llyfrgell Cymru a’i nod yw cynyddu nifer y bobl sy’n darllen. Rhaglen tair blynedd ydyw sydd wedi'i hariannu gan arian y loteri ar gyfer y celfyddydau er mwyn cynyddu nifer y darllenwyr yng Nghymru. Mae'n cynnal cynlluniau sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo llyfrau o Gymru a llyfrau sydd o ddiddordeb Cymreig. Mae hefyd yn cynnal cynlluniau hyfforddiant ar gyfer llyfrgellwyr ynghylch gwella sut yr hyrwyddir a sut yr arddangosir llyfrau, ynghyd â chynlluniau i sefydlu grwpiau darllen. Mae Estyn Allan wedi bod yn cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod ysgrifennu Saesneg yng Nghymru yn agwedd hanfodol ar y cynlluniau hyn. Mae Estyn Allan a Chyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi trefnu sawl digwyddiad sy'n rhoi cyfle i gyhoeddwyr gyfarfod â llyfrgellwyr.
18. Goblygiadau ariannol: Dim goblygiadau ariannol ar unwaith.
Adolygiad Llenyddol - Yr argymhelliad:
Mae'r Pwyllgor yn croesawu menter Cyngor Celfyddyddau Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru a'r Academi, i fynd i'r afael â'r diffyg adolygiadau llenyddol mewn papurau newydd yng Nghymru. Mae'n argymell y dylai'r cyfryngau yng Nghymru ystyried dechrau rhoi sylw i weithiau sy'n ddiddorol ac sy'n deilwng o sylw.
Mae'r Pwyllgor am annog y cyfryngau i fynd ati'n fwy diwyd i ddod o hyd i weithiau gan awduron o Gymru i'w cynhyrchu ar y radio a'r teledu.
19. Derbyn. Cytuna Llywodraeth y Cynulliad â'r ddau argymhelliad uchod. Mae'n bwysig sicrhau sylw cadarnhaol ac adolygiadau o lyfrau Cymreig cyfrwng-Saesneg a ysgrifennwyd yng Nghymru ym mhrif cyfryngau Cymru a thu hwnt er mwyn codi ymwybyddiaeth o ysgrifennu o'r fath. Mae hefyd yn bwysig bod gwaith awduron Cymru yn cael eu cynnwys fel cynyrchiadau ar y radio a'r teledu. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn credu y bydd mynd i’r afael â gwendidau sylfaenol yn y diwydiant cyhoeddi yng nghyru yn cyfrannu at gynyddu sywl at ysgrifennu Cymreig cyfrwng-Saesneg yn y cyfryngau, yn cyfrannu at fwy o weithiau gan ysgrifenwyr o Gymru yn cael eu cynhyrchu ar y radio a’r teledu.
20. Goblygiadau ariannol: Dim.
Gwobrau Llyfrau - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylid codi gwobr ariannol Llyfr y Flwyddyn a dylai gael ei hyrwyddo'n llawer mwy brwd cyn y seremoni wobrwyo ac yn ystod y seremoni.
Dylai Cyngor Llyfrau Cymru arwain y ffordd i ddatblygu cyfres o wobrau i gydnabod campweithiau ac annog rhagoriaeth yn y diwydiant cyhoeddi e.e. gwobrau am y llyfr sy'n gwerthu orau, clawr gorau, golygydd gorau, cyhoeddwr y flwyddyn.
Dylid ystyried hyrwyddo Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru nid yn unig yng Ngwyl y Gelli Gandryll ar gyfer Llyfr y Flwyddyn, ond hefyd mewn gwyliau a digwyddiadau eraill ym mhob cwr o Gymru.
21. Gwrthod. Cred Llywodraeth y Cynulliad fod gan wobr Llyfr y Flwyddyn swyddogaeth bwysig mewn codi ymwybyddiaeth a chynyddu nifer darllenwyr teitlau Cymreig o ansawdd uchel. Fodd bynnag, mae gwerth Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cynyddu'n ddiweddar i £5,000, ac mae gan yr Academi adnoddau penodol ar gyfer marchnata'r digwyddiad. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn dymuno gwerthuso llwyddiant y trefniadau newydd hyn cyn ystyried unrhyw gynnydd mewn cyllid.
22. Derbyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi sefydlu cyfres o wobrau i gydnabod llwyddiannau a hyrwyddo rhagoriaeth yn y diwydiant cyhoeddi, a byddaf yn gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru ddechrau ar y gwaith o’u sefydlu.
23. Derbyn. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn bresennol yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Eisteddfod yr Urdd, a byddant yn hyrwyddo ymhellach Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru yn y gwyliau hyn a hefyd yn edrych ar gynyddu a datblygu presenoldeb yng Ngwyl y Gelli Gandryll. Byddaf yn gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru edrych eto ar eu presenoldeb mewn gwyliau yn ystod y flwyddyn yng ngoleuni sylwadau’r Pwyllgor..
24. Goblygiadau ariannol: Oes. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu £250K ychwanegol o fewn y flwyddyn ariannol hon i ddechrau gweithredu’r amrywiaeth o argymhellion yn ymateb Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys sefydlu cyfres o wobrau ar gyfer y diwydiant.
Twristiaeth - Yr argymhelliad:
Mae'r Pwyllgor yn annog asiantaethau twristiaeth rhanbarthol i wneud mwy i frolio gweithiau am Gymru a hefyd awduron Cymru yn eu canolfannau croeso.
Dylid cefnogi hyn gyda chysylltiadau perthnasol â gwales.com.
Dylid archwilio'r syniad o gynhyrchu map llenyddol o Gymru.
25. Derbyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno fod gan asiantaethau a chanolfannau twristiaeth swyddogaeth mewn tynnu sylw at lenyddiaeth Gymreig a gweithiau gan ysgrifenwyr yng Nghymru sy’n briodol ar gyfer y farchnad ymwelwyr, gan helpu i greu synnwyr unigryw o berthyn. Yr awdurdodau rheoli unigol sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli stoc ac mae’r rhan fwyaf o Ganolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid eisoes yn cyflenwi llyfrau am Gymru a llenyddiaeth leol. Bydd Bwrdd Croeso Cymru yn cyfleu barn y Pwyllgor ar y mater hyn i’r awdurdodau rheoli perthnasol ledled Cymru.
26. Derbyn. Rwyf wedi gofyn i Fwrdd Croeso Cymru ymchwilio i bosibilrwydd cysylltu adran eu gwefan, sef visitwales.com, ar lenyddiaeth sy'n darparu gwybodaeth gyffredinol am rai o awduron enwocaf Cymru, â gwefan Cyngor Llyfrau Cymru, sef gwales.com, sy'n darparu gwybodaeth am deitlau llyfrau cyfredol, ac sy'n galluogi pobl i brynu llyfrau ar-lein. Mae gwefan Bwrdd Croeso Cymru eisoes yn cynnwys adran ar lenyddiaeth Cymru.
27. Derbyn. Mae o leiaf un o ranbarthau Cymru eisoes yn hyrwyddo cysylltiadau llenyddol; mae Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol De Orllewin Cymru yn rhedeg ymgyrch farchnata o’r enw Llefydd ein Llên y mae’n ei hyrwyddo yn y DU a thramor. Mae gan drefi llyfr y Gelli Gandryll a Blaenafon yn Ne-Ddwyrain Cymru hefyd ogwydd llenyddol cryf. Mae Bwrdd Croeso Cymru eisoes wedi cyhoeddi map Llwybr Lenyddo. Bydd Bwrdd Croeso Cymru yn archwilio i’r posibilrwydd o ddiweddaru ac ail-lansio’r map llenyddol presennol, wrth iddynt ystyried eu blaenoriaethau marchnata am y flwyddyn i ddod. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i hyn gael ei ystyried yng nghyd-destun yr holl flaenoriaethau marchnata eraill, a neilltuo adnoddau priodol.
28. Goblygiadau ariannol. Dim
Pennod 4: Addysg
Polisi'r Cwricwlwm ac Arholiadau - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylid ymestyn cylch gorchwyl ACCAC i gynnwys comisiynu ysgrifennu Saesneg yng Nghymru (gan gynnwys drama) ar gyfer cwricwlwm CBAC.
29. Gwrthod. Nid yw argaeledd llyfrau sydd ar gael i'w hastudio fel rhan o gyrsiau TGAU a Safon Uwch yn fater ar wahân i’r materion ehangach a bennir gan y pwyllgor yn ei adroddiad. Bydd ein cynnig ar gyfer Llyfrgell Cymru a chomisiynu ysgrifennu newydd yn gwella’n sylfaenol argaeledd llyfrau sy’n berthnasol i ysgolion.
30. Mae Rhaglen Astudiaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Saesneg yn y pedwar Cyfnod Allweddol eisoes yn pennu y dylai disgyblion ddarllen llyfrau Cymreig cyfrwng-Saesneg. Yr athrawon sy'n penderfynu pa lyfrau a ddewisir yn unol â’u barn broffesiynol. Yn yr un modd, mae cymhwyster TGAU Saesneg CBAC yn pennu bod yn rhaid i ymgeiswyr sy'n cael eu hasesu o dan y gofynion i Gymru astudio llyfrau sy'n berthnasol i Gymru. Y ganolfan fydd yn dewis y testunau.
31. Mae'r argymhelliad yn cwmpasu tri math o destun: (a) ysgrifennu newydd; (b) gweithiau clasurol a thestunau eraill sydd wedi'u cyhoeddi ynghynt, a (c) cyfrolau i'w defnyddio'n bennaf mewn ysgolion, fel 'rhifynau astudio' neu flodeugerddi.
32. Mae argaeledd llyfrau o fath (a) a (b) yn dibynnu ar sut y mae'r farchnad lyfrau gyfan yn gweithredu. Mae'r Pwyllgor wedi gwneud argymhellion penodol ynghylch hyn mewn adran arall o'i adroddiad. Yn y ddau achos (h.y. mewn perthynas ag ysgrifennu newydd a thestunau sydd wedi'u cyhoeddi o'r blaen) mae'n gwbl amlwg y byddent ar gael i'w prynu a'u defnyddio gan ysgolion petaent ar gael yn haws mewn print o fewn y farchnad lyfrau. Fodd bynnag, nid yw ACCAC yn asiantaeth briodol i dderbyn cyfrifoldeb am gyflwyno'r gwelliannau cyffredinol hyn o fewn y farchnad lyfrau.
33. Mewn perthynas â llyfrau math (c), credwn nad yw cynhyrchu testunau penodol ar gyfer ysgolion yn gymaint o flaenoriaeth â mynd i'r afael â'r broblem o argaeledd y llyfrau Cymreig cyfrwng-Saesneg sydd ar gael i bob darllenydd.
34. Goblygiadau ariannol: Dim.
Addysg Bellach ac Uwch - Mae'r Pwyllgor yn argymell:
Dylid rhoi ystyriaeth bellach i'r cynnig am rwydwaith Addysg Uwch o ganolfannau ymchwil cydgysylltiedig ar gyfer ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.
35. Derbyn. Mae Ymgeisio yn Uwch yn pennu gweledigaeth a strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru. Un o'r amcanion canolog yw annog sefydliadau i gydweithio ymhellach. Mae ailgyflunio yn ganolog i lwyddiant a chystadleugarwch y sector yn yr hirdymor. Gofynnwyd i sefydliadau ddatblygu cynigion ar y cyd sy'n addas i'w hamgylchiadau a'u hanghenion lleol, â'r nod o leihau costau, cynhyrchu incwm a meithrin gallu. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y sector er mwyn hyrwyddo ailgyflunio a chydweithredu. Os byddai'r sector yn datblygu cynnig gwirioneddol ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau ymchwil er budd Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, gallai'r cynnig gael ei ystyried ar gyfer cyllid o dan gyllid Ymgeisio yn Uwch ac yn unol â'r meini prawf hyn.
36. Goblygiadau ariannol: Dim goblygiadau ariannol newydd. Mae cyllid Ymgeisio yn Uwch ar gael i gefnogi cynigion cydweithredol yn y sector Addysg Uwch.