Skip to content

Datganiad Ar Y Cyngor Cenedlaethol Elwa A Phrosiect Y Ffatri Bop

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Gweinidog Dros Addysg A Dysgu Gydol Oes

Yn sgil y cais am ddatganiad ynghylch rhan y Cyngor Cenedlaethol ELWa ym mhrosiect y Ffatri Bop, dyma ymateb i'r pryderon a leisiwyd drwy ysgrifennu at bob Aelod i nodi'r sefyllfa.

Rwyf wedi ceisio pwysleisio mai'r Cyngor Cenedlaethol ELWa ei hun sy'n rheoli materion gweithredol a chontractol yn ymneud â phrosiectau unigol, a hynny'n unol â rheolau arferol y sector cyhoeddus a nodir yn ei Ddatganiad Rheoli a'i Femorandwm Ariannol. Y Llywodraeth sy'n pennu'r cyfeiriad strategol ac yn rhagnodi'r rheidrwydd i gydymffurfio; cyfrifoldeb y Cyngor Cenedlaethol ELWa yw cyflawni o fewn y fframwaith a chynnal diwyllant cryf o gydymffurfio'n weithredol.

Dyma'r ffeithiau ynglyn â'r Ffatri Bop. Tua diwedd Rhagfyr 2001, cyflwynodd y Cyngor Cenedlaethol ELWa gynnig i ymwneud â menter ar y cyd â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus i agor canolfan sgiliau'r cyfryngau/TG yn gydiol â'r Ffatri Bop yn y Porth. Ymhlith y partneriaid roedd Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a nifer o ysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant preifat. Cafodd y cynllun hefyd gefnogaeth y CCET perthnasol a Phrifysgol Morgannwg.

Diben y prosiect oedd galluogi dysgwyr i ddysgu sgiliau sylfaenol yn ymwneud â'r cyfryngau gan ddefnyddio technoleg ryngweithiol mewn lleoliad hygyrch. Cyflwynwyd y cynnig i mi ei gymeradwyo o ran polisi am ei fod yn cynnwys ffordd arloesol o ddarparu. Roeddwn yn fodlon rhoi cymeradwyaeth i'r cynnig a chefnogi menter er budd pobl ifanc ddifreintiedig yn y Cymoedd. Mae'n gwbl briodol i'r Cyngor Cenedlaethol ELWa fynd ati i ddod o hyd i ffyrdd newydd a chyffrous o ymwneud â'r bobl ifanc hyn yn ein cymunedau lleiaf breintiedig, a chynnig iddynt ffyrdd gwahanol o ddysgu sy'n apelio i'w ffordd o fyw.

Ym mis Ionawr 2002, rhoddais gymeradwyaeth i'r Cyngor Cenedlaethol ELWa ymwneud â'r prosiect yn unol â'i gynnig. Wrth roi'r gymeradwyaeth honno, fe nodais yn glir fy mod yn gweithredu ar sail gwybodaeth a ddarparwyd gan y Cyngor gan ystyried ei farn weithredol am rinweddau'r buddsoddiad arfaethedig. Nododd y Cyngor Cenedlaethol ELWa ei fod yntau wedi ystyried y camau y byddai'n rhaid eu cymryd i ddiogelu'r buddsoddiad o safbwynt rheoli risg yn bwyllog rhag ofn na fyddai'r prosiect yn cyflawni ei amcanion er budd pobl ifanc. Fel y dywedais, mater i'r Cyngor Cenedlaethol ELWa oedd ymdrin â'r trefniadau contractol a'r trefniadau eraill er mwyn cyflawni'r prosiect, yn unol â'r rheolau.

Yn gynnar ym mis Ionawr 2003, wrth wneud gwaith monitro arferol ar fusnes y Cyngor Cenedlaethol ELWa, daeth i sylw'm swyddogion y gallai taliad fod wedi'i wneud cyn bod angen a thrafodwyd hynny gyda'r Cyngor. Mae'r Cyngor Cenedlaethol ELWa wrthi'n paratoi adroddiad llawn ac mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a'i harchwilwyr allanol, hefyd yn ystyried y mater. Ar gais yr Ysgrifennydd Parhaol, mae'r Prif Swyddog Cyllid hefyd yn cadw golwg ar y sefyllfa.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o osod a chynnal y safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus, a sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â busnes yn unol â'r gweithdrefnau priodol.

Fe gaiff yr Aelodau ddatganiad arall ar brosiect y Ffatri Bop cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i wneud hynny.