Andrew Davies, Gweinidog dros Ddatblygu Economiaidd a Thrafnidiaeth
Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth (Andrew Davies): Bydd y datganiad hwn yn ymdrin â’r newidiadau gweinyddol diweddar yn statws Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Fodd bynnag, cyn imi ymdrin â hynny, rhaid inni roi’r mater cyfan yn ei gyd-destun. Mae rhaglenni’r cronfeydd strwythurol wedi cael cychwyn rhagorol. Bron hanner ffordd drwy gyfnod y rhaglen, bu ymrwymiad grant o tua £630 miliwn i bron 1,500 o brosiectau. Mae prosiectau Amcan 1 eu hunain eisoes wedi cofnodi bod mwy na 12,000 o swyddi newydd wedi eu creu a bod 25,000 wedi eu diogelu. Gan edrych y tu hwnt i’r ystadegau hyn, mae ystod eang o brosiectau arloesol o safon wedi dod i’r golwg o bob sector i fanteisio ar gronfeydd strwythurol. Maent yn amrywio o brosiectau strategol gwerth miliynau o bunnoedd, yn aml yn cael eu rhedeg gan gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, megis Awdurdod Datblygu Cymru, i brosiectau llai yn y sector preifat a phrosiectau wedi eu lleoli yn y gymuned. Maent i gyd yn cyfrannu at adfywio cymunedau tlotaf Cymru. Er enghraifft, dyfarnwyd £10.2 miliwn i’r WDA ar gyfer prosiect ail gam a fydd yn darparu grantiau prosesu a marchnata ar gyfer y sector bwyd-amaeth yn ardal Amcan 1.
Dyfarnwyd £5.5 miliwn hefyd i Fwrdd Croeso Cymru, yn dilyn prosiect llwyddiannus y cam cyntaf, gan ddarparu cymorth busnes i fusnesau twristiaeth bach a chanolig eu maint yn ardal Amcan 1. Yn amlwg, mae llawer eisoes wedi ei wneud, ond mae llawer mwy i’w wneud. Argymhellodd gwerthusiad canol tymor rhaglen Amcan 1 ymagwedd fwy strategol tuag at raglenni’r cronfeydd strwythurol—bod y cronfeydd yn cyfateb yn llawnach i flaenoriaethau strategol Llywodraeth y Cynulliad. Yr wyf yn benderfynol o sicrhau hynny, ynghyd ag integreiddio rhaglen y cronfeydd strwythurol yn well â strategaeth datblygu economaidd gyffredinol Cymru. Yn y cyd-destun hwnnw, mae cryn bosibiliadau o hyd i brosiectau wneud cais am arian ar gyfer gweddill cyfnod y rhaglen. Er mwyn hwyluso hynny, bûm yn ystyried y gweithdrefnau WEFO i symleiddio’r trefniadau a ddefnyddir i’w gwneud yn haws i ymgeiswyr prosiectau. Bûm yn gwrando’n ofalus ar ein cwsmeriaid ac, o ganlyniad, yr wyf yn cymryd camau i wella effeithiolrwydd a’r modd y cyflwynir y rhaglen. Mae fy nghynigion i symleiddio rhaglen Amcan 1 yn ganolog i’r nod hwnnw.
Yr wyf yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn cynnal momentwm y rhaglen, tra’n darparu gwell gwasanaeth i noddwyr prosiectau, yn arbennig o ran darparu cyngor arbenigol ar brosiectau a strategaeth. Dros yr haf, gwahoddais ein partneriaid i roi eu barn ar fy nghynigion, sy’n cynnwys creu chwe grwp ymgynghorol thematig—un ar gyfer pob un o flaenoriaethau’r rhaglen. Bydd y rhain yn disodli’r strategaeth bresennol a’r partneriaethau rhanbarthol, a byddant hefyd yn symleiddio’r trefniadau ymgynghori ar brosiectau. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau gwell safonau, gyda lleihad yn yr amser a gymerir i benderfynu ar geisiadau. Byddwn hefyd yn darparu mwy o gymorth yn ystod datblygiadau ac arfarniadau’r prosiectau, yn ogystal â gwell ôl-ofal wrth roi prosiectau ar waith. Yr wyf yn falch bod Pwyllgor Monitro Rhaglen Amcan 1 wedi cymeradwyo’r cynigion hyn yn ei gyfarfod ar 15 Medi. Mae gwaith bellach ar droed i benodi aelodau’r grwpiau ymgynghorol thematig fel y gall y trefniadau newydd ddod i rym ar 1 Ionawr 2004. Talaf deyrnged i Christine Chapman, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglen Amcan 1, a’r grwp gweithredu am eu gwaith caled dros yr haf.
Trof at y newidiadau gweinyddol yn WEFO. Unwaith eto, fe’u hybwyd gan yr angen i wneud WEFO mor ymatebol ac effeithiol â phosibl. Sefydlwyd WEFO ar y cychwyn fel un o asiantaethau gweithredol y Cynulliad Cenedlaethol. Gadewch inni fod yn glir beth yr oedd hyn yn ei olygu yn ymarferol: golygai swyddog cyfrifo ar wahân a chyfrifon ar wahân. Staffiwyd WEFO gan weision sifil o’r cychwyn a bu’n atebol i mi, fel y Gweinidog â chyfrifoldeb dirprwyedig, ac i’r Ysgrifennydd Parhaol. Yr oedd y ffaith bod WEFO yn asiantaeth weithredol yn ychwanegu gwerth yn ystod cyfnod cynnar rhaglenni’r cronfeydd strwythurol, pan oedd llawer o’r gwaith yn ymwneud â sefydlu prosesau a threfniadau cyfrifo, a sicrhau bod system bartneriaeth yn cael ei mabwysiadu. Fodd bynnag, mae pethau’n newid o hyd.
Mae’r heriau a wynebwn yn awr yn golygu y gallem wneud hyd yn oed yn well pe bai WEFO yn cael ei hintegreiddio’n llawnach â’r Adran Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, a fyddai’n helpu i gyflawni argymhelliad y gwerthusiad canol tymor. Fel y gwyddoch mae’n siwr, gwnaeth John Clarke benderfyniad personol i ymddeol fel prif weithredwr WEFO. Bydd gan WEFO brif weithredwr newydd, er bod cyfrifoldebau’r cyn swyddog cyfrifo wedi eu trosglwyddo’n ôl yn awr i’r Ysgrifennydd Parhaol. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith John Clarke. Gwnaeth waith rhagorol dros y pedair blynedd diwethaf i sefydlu WEFO a sicrhau bod rhaglenni’r cronfeydd strwythurol wedi gwneud cynnydd sylweddol. Yr wyf yn siwr ein bod yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol a bod pob un ohonom yn croesawu ac yn rhoi ein cefnogaeth lawn i brif weithredwr newydd WEFO, Dr Emyr Roberts.
Mae’n bwysig sicrhau y cyfunir y rhaglenni Ewropeaidd yn y dull gorau posibl â pholisïau a strategaethau ehangach Llywodraeth y Cynulliad. Bydd hyn yn gwneud WEFO yn chwaraewr mwy effeithiol i gynrychioli ymagwedd Tîm Cymru, gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r hyn sydd orau i Gymru, ac adlewyrchir hyn yn ‘Gwell Cymru’ a ‘Cymru’n Ennill’. Yr wyf yn hyderus y bydd rhaglenni’r cronfeydd strwythurol yn mynd o nerth i nerth. Mae adolygiadau canol tymor y rhaglenni sydd ar y gweill ar hyn o bryd eisoes yn profi’n amhrisiadwy. Fel y soniodd y Trefnydd ddoe, bydd dadl lawnach ar adolygiad canol tymor rhaglen Amcan 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref. Serch hynny, credaf iddo roi cyfle i Gymru gynnal dadansoddiad trylwyr o’r cynnydd cadarnhaol a wnaed, i gael adborth gan ein partneriaid, i rannu arferion gorau ac, yn y pen draw, i gyflawni dros Gymru. Bydd y newid yn statws WEFO a phroses symleiddio Amcan 1 yn helpu i sicrhau bod prosiectau arloesol o safon yn parhau i fanteisio ar yr arian sydd ar gael. Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd ariannu sydd ar gael i’n galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau strategol ac economaidd.