Skip to content

15fed Cynhadledd Gweinidogion Addysg Y Gymanwlad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Gweinidog Dros Addysg A Dysgu Gydol Oes

Ynghyd â Gweinidogion Addysg a chynrychiolwyr o 48 o Wledydd y Gymanwlad, mynychais y Gynhadledd uchod, a gynhaliwyd yng Nghaeredin rhwng 27 a 30 Hydref. Thema’r Gynhadledd oedd Cau’r Bwlch – Mynediad, Cynhwysiant a Chyrhaeddiad. Seiliwyd y thema ar 6 Maes Gweithredu, y buom yn ceisio ymdrin â hwy, sef sicrhau addysg gynradd gyffredinol; dileu’r gwahaniaeth rhwng addysg bechgyn a merched; gwella safon addysg; defnyddio dysgu o bell i oresgyn anawsterau; cynnal addysg mewn amgylchiadau anodd; a lleihau effaith HIV/AIDS ym myd addysg.

Rhannwyd y Gynhadledd ei hun yn 4 elfen cydberthnasol:

  • Cynhadledd Gweinidogion;
  • Trafodaeth Gyfochrog;
  • Uwchgynhadledd Ieuenctid; ac
  • Arddangosfa o Arferion Da

Cynhadledd Gweinidogion

Roedd hi’n rhaglen ddwys. Ddydd Llun 27 Hydref, cefais drafodaeth anffurfiol â’m cyd-weinidogion a’r swyddogion cyn cyfarfod â chynrychiolwyr Oxfam, gyda Charles Clarke a Jack McConnell, i dderbyn cardiau Gweithredu, sy’n  rhan o Ymgyrch Fyd-eang ar gyfer Addysg. Un o amcanion allweddol yr ymgyrch honno yw sicrhau ymroddiad Gweinidogion y Gymanwlad i ddarparu addysg i’r 59 miliwn o blant drwy’r Gymanwlad nad ydynt yn cael eu haddysgu ar hyn o bryd. Adlewyrchwyd yr amcan hwn yng nghasgliadau’r Gynhadledd yn y pen draw.

Drannoeth, cadeiriais Cyd-sesiwn Agoriadol gan gyflwyno areithiau byr gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad, yr Anrhydeddus Don MacKinnon, Jack McConnell, Prif Weinidog yr Alban a Charles Clarke, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau. Manteisiodd pawb ar y cyfle i dynnu sylw at y ffyrdd yr oeddem, yn ein gwahanol feysydd, yn cefnogi thema’r Gynhadledd. Yna cefais y fraint o gyflwyno’r prif areithiwr, yr Athro Amaryta Sen, sef Meistr Coleg y Drindod, Caergrawnt, sy’n arbenigwr adnabyddus ac yn enillydd gwobr nobel. Rhoddodd olwg gyffredinol bersonol a threigar inni a’r Fynediad, Cynhwysiant a Chyrhaeddiad. Roedd ei farn yn seiliedig nid yn unig ar waith ymchwil sylweddol ond hefyd ar ei brofiad eang ei hun yn y meysydd hyn.  Daeth y Dr Brendan Nelson, Gweinidog Addysg, Gwyddoniaeth a Hyfforddiant Awstralia â’r Sesiwn Agoriadol i ben. Yna cafwyd deuddydd o drafodaethau dwys a manwl ar thema’r Gynhadledd. Ymunais â llawer ohonynt gan fanteisio ar y cyfle i sôn am ein profiadau yna yng Nghymru. Dros ginio ar 29 Hydref, ymunodd pawb â chynrychiolwyr yr Uwchgynhadledd  Ieuenctid ym Murrayfield i glywed eu barn ar themâu’r Gynhadledd.

Trafodaeth Gyfochrog

Daeth tua 180 o academyddion ac arbenigwyr o bob rhan o’r gymanwlad ynghyd i fanteisio ar y cyfle i ystyried yr un materion a drafodwyd gan y Gweinidogion, ond yn llawer mwy manwl ac chyda gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach.  Roedd 3 chynrychiolydd o Gymru - Meirion Prys Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y Dr Heledd Hayes, Swyddog Addysg NUT Cymru a Mark Sims, Pennaeth Gwasanaeth Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig Cyngor Dinas Caerdydd. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y tri.

Uwchgynhadledd Ieuenctid

Am y tro cyntaf mewn Cynhadledd Gweinidogion Addysg y Gymanwlad, cynhaliwyd Uwchgynhadledd Ieuenctid. Roedd hyn yn gyfle gwirioneddol i ieuenctid y Gymanwlad gyfrannu at y materion strategol pwysig hyn. Yn y DU, gwahoddwyd awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i enwebu 2 unigolyn a fyddai’n paru â 2 unigolyn tebyg o un o wledydd eraill y Gymanwlad.  Byddai’r parau’n treulio wythnos y Gynhadledd gyda’i gilydd, ac yn aros gyda’i gilydd yr wythnos wedyn hefyd pan fyddent yn dychwelyd i’r awdurdod/ardal honno yn y DU a estynnodd y gwahoddiad, lle byddai wythnos arall o weithgareddau yn cael eu trefnu ar eu cyfer.    

Roedd gan Gymru 4 grwˆ p o gynrychiolwyr yn yr uwchgynhadledd ieuenctid o Gaerdydd, Caerfyrddin, Wrecsam a Funky Dragon (Casnewydd). Fe’u parwyd, yn ôl eu trefn, â St Vincent a’r Grenadines, St Kitts a Nevis, Mauritius a Malaysia. Yn ystod y wythnos ddilynol, trefnodd yr awdurdodau lleol hynny a oedd yn croesawu’r bobl ifanc, iddynt gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau perthnasol yn lleol a threfnwyd hefyd i’r wasg a’r cyfryngau lleol eu cyfweld. Ar 5 Tachwedd, ymwelodd y bobl ifanc â’r Cynulliad a threfnais i’w cyfarfod i drafod gwaith y Cynulliad ei hun a hefyd i ymhelaethu ar bolisi addysg Cymru.

Llwyddodd y cynrychiolwyr ifanc i gyfrannu’n sylweddol at yr hyn ddigwyddodd yng Nghaeredin a chadarnhaodd y Gynhadledd eu argymhellion y dylid rhoi blaenoriaeth i addysg gynradd gyffredinol, dileu’r gwahaniaeth rhwng addysg bechgyn a merched, pwysigrwydd dysgu agored a dysgu o bell, addysg mewn amgylchiadau anodd, a gwella addysg HIV/AIDS drwy’r Gymanwlad.


Arddangosfa Arferion Da

Roedd arddangosfa gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy gydol y Gynhadledd. “Gwneud Cymru yn Lle Arbennig i Addysgu yn Ogystal â Dysgu” oedd y thema a fabwysiadwyd. Swyddogion y Cynulliad oedd yn gyfrifol am y stondin a bu cryn ddiddordeb yn y polisïau addysg arloesol sydd gennym ar y gweill, gan gynnwys Y Wlad sy’n Dysgu, y Cyfnod Sylfaen, Ymestyn Hawliau ac Ymgeisio yn Uwch. Yn wir, roedd cymaint o ddiddordeb, bu’n rhaid inni drefnu i rywun anfon rhagor o gopïau o’r Wlad sy’n Dysgu dros nos i’r Gynhadledd. Roedd hefyd amrywiaeth o ddeunyddiau cwricwlaidd ACCAC, a ddenodd cryn dipyn o ddiddordeb eto.


Cyfarfodydd Gweinidogion Dwyochrog.

Yn ystod y tridiau, cefais gyfarfod ag amrywiaeth eang o’n cyd-weinidogion a chawsom sawl trafodaeth fuddiol. Yn eu plith roedd cynrychiolwyr o Lesotho ac rydym yn ystyried trefnu teithiau cyfnewid i athrawon a fyddai’n adeiladu ar y cysylltiadau a wnaed eisoes gan Dolen Cymru. Yn wir, o ganlyniad i’r cysylltiadau cynharach hyn, mae Lesotho wedi penodi Is-gennad Anrhydeddus yng Nghymru.

Manteisiais hefyd ar y cyfle i ychwanegu at y trafodaethau mwy cyffredinol hyn drwy gynnal cyfarfodydd dwyochrog penodol â Gweinidogion Addysg allweddol y Gymanwlad. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfod â’r Dr Brendan Nelson, Gweinidog Addysg, Gwyddoniaeth a Hyfforddiant Awstralia, yr Anrhydeddus Jack Ootes a Ron Lemieux, dau Weinidogion Addysg Rhanbarthol Canada, a’r Anrhydeddus Trevor Mallard, Gweinidog Seland Newydd. Bydd y cyfarfodydd hyn, gobeithio, hefyd yn arwain at gysylltiadau rhwng e.e. sefydliadau addysg uwch. Mae cyfle parhaus inni hefyd rannu arferion da mewn meysydd polisi eraill megis y blynyddoedd cynnar a datblygu iaith a byddaf yn ceisio datblygu’r rhain.

Casgliad

Bu’r Gynhadledd yn gyfle cadarnhaol iawn i Gymru. Ar wahân i ennill mwy o barch yn y Gymanwlad, mae gobaith y bydd y cysylltiadau y llwyddais i’w datblygu neu eu hailsefydlu, yn arwain at ragor o gydweithredu a chydgefnogi.