Skip to content

Datganiad ar Bydredd Cylchog mewn Tatws

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones: Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Carwyn Jones): Bydd Aelodau yn ymwybodol bod pydredd cylchog mewn tatws wedi ei ganfod yn ddiweddar ym Mwlch ger Aberhonddu. Hyd y gwyddom, dyma’r achos cyntaf o bydredd cylchog yn y DU. Y peth cyntaf y dylem ei wneud yw atal y clefyd rhag lledu a’i ddileu o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Ymatebodd y Cynulliad yn gyflym i’r newyddion am hyn. Bu swyddogion ym Mwlch ddydd Iau diwethaf i asesu’r sefyllfa ac yr ydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Gwasanaeth Iechyd Planhigion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chynrychiolwyr sefydliadau tyfwyr cnydau, yn arbennig Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru.

Canfuwyd y tatws hadyd heintus yn ystod yr arolwg blynyddol ar gyfer pydredd cylchog, a gynhelir gan yr Arolygiaeth Iechyd Planhigion a Hadau yng Nghymru a Lloegr a chan y sefydliadau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r arolwg yn un o ofynion deddfwriaeth y Comisiwn Ewropeaidd a fwriedir i atal y clefyd rhag lledu, ac mae’n cynnwys cymryd samplau o datws sy’n barod i’w bwyta a thatws hadyd o sampl gynrychioliadol o dyfwyr. Yn yr achos hwn, cymerwyd y sampl o lwyth i’w allforio i’r Ynysoedd Dedwydd, yr oedd rhai nwyddau wedi eu hallforio ohonynt.

Mae’r ffaith i’r clefyd gael ei ganfod yn dangos bod ein gweithdrefnau canfod yn gweithio. Mae’r ymchwiliad i ffynhonnell yr haint yn mynd rhagddo o hyd, ond ymddengys iddi darddu o lwyth o datws hadyd a fewnforiwyd o’r Iseldiroedd yn 2002 ac a blannwyd yn gynharach eleni. Mae ymchwiliadau ar y gweill i weld a anfonwyd unrhyw datws hadyd eraill i’r DU o’r cyflenwr Iseldirol dan sylw. Cymerwyd camau i olrhain unrhyw datws eraill a gynhyrchwyd yn y fferm ym Mwlch a anfonwyd i gyrchfannau eraill.

Mae symud y stoc sydd o bosibl wedi ei heintio wedi ei atal ac mae’r tair fferm, y maent i gyd yn ne-orllewin Lloegr, a gadarnhawyd fel rhai sydd wedi cael tatws hadyd o Fwlch, wedi cael eu rhoi o dan gyfyngiadau. Nid yw’r hadau yn y lleoliadau hynny wedi eu plannu. Cânt eu profi gan yr Arolygiaeth Iechyd Planhigion a Hadau maes o law. Mae gan y Gwasanaeth Iechyd Planhigion gynllun wrth gefn ar gyfer ymateb i achosion o bydredd cylchog, ac mae’r cynllun bellach ar waith. Mae manylion y cynllun hwn ar gael ar wefan DEFRA, y mae cyswllt iddi ar wefan y Cynulliad.

Achosir pydredd cylchog mewn tatws gan y bacteriwm clafibacter michiganensis sepedonicws ac mae’n glefyd ansefydledig difrifol mewn tatws. Mae’n glefyd cwarantîn a restrir yng nghyfarwyddeb iechyd planhigion y GE ac mae’n glefyd hysbysadwy yn y DU. Mae’r clefyd yn achosi colledion sylweddol mewn cnydau, a all fod mor uchel â 50 y cant, ac nid oes triniaethau cemegol cydnabyddedig ar gael i’w reoli. Nid yw’r clefyd yn achosi risg i iechyd pobl. Fe’i canfyddir mewn rhannau o Ogledd America, yr hen Undeb Sofietaidd a rhannau o Ewrop. O fewn yr Undeb Ewropeaidd, fe’i canfuwyd yn ddiweddar yn Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Groeg, Sbaen a’r Iseldiroedd.

Symptom cychwynnol y clefyd yw pydredd meddal tebyg i gaws y cylch fasgwlaidd. Mewn achosion difrifol, mae hwn yn pydru’n llwyr a gall y croen gracio. Fodd bynnag, gall y clefyd aros ynghudd am beth amser ac yn aml dim ond drwy brofion labordy y gellir ei ganfod. Lledaenir y clefyd yn bennaf drwy haint fasgwlaidd yr epil-gloron sy’n deillio o hadau heintus. Fodd bynnag, gall ledaenu hefyd drwy ofalwyr tir, sef tatws heb eu cynaeafu o’r cnwd blaenorol, a gweddillion o gnydau heintus. Mae waliau ysguboriau, sachau a blychau tatws, ac offer a pheiriannau amaethyddol hefyd yn ffynonellau haint posibl.

Gallai canfod y clefyd hwn effeithio ar ein statws allforio gyda rhai gwledydd, yn dibynnu ar eu gofynion mewnforio. Mae rhai gwledydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r wlad allforio fod yn rhydd o’r clefyd, tra bod eraill yn nodi eu bod yn rhydd o’r clefyd ar adeg gynhyrchu. Gall y canfyddiad hwn olygu y bydd angen mesurau ychwanegol i ddangos bod llwythi a allforir o Gymru yn rhydd o bydredd cylchog. Bydd yr Arolygiaeth Iechyd Planhigion a Hadau yn cynghori’r Cynulliad unwaith y bydd wedi cwblhau’r profion.

Mae’r Cynulliad yn trafod ar hyn o bryd er mwyn asesu’r ffordd orau o ddelio â stociau heintus. Mae’n debygol y gwneir penderfyniad terfynol, yn seiliedig ar asesiad gwyddonol, ymhen ychydig wythnosau. Caiff y stociau heintus eu gwaredu yn unol â’r rheolaethau biodiogelwch mwyaf caeth ac, os ystyrir bod angen gwaredu stociau y tybir eu bod yn dioddef o’r clefyd, caiff hyn ei gyflawni mewn modd tebyg.

Mae’n bwysig nodi, er gwaethaf y dyfalu yn y wasg, nad yw’r clefyd hwn mor drosglwyddadwy â chlwy’r traed a’r genau. Felly rhaid inni fod yn gwbl fodlon ein bod yn gwybod o ble y tarddodd y clefyd a pha stociau sydd wedi eu heintio cyn inni ystyried cymryd camau pellach.