Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (Alun Pugh): Gyda’ch caniatâd, Lywydd, hoffwn wneud datganiad ar Middleton, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Bu llawer o sôn yn gyhoeddus am Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru dros y misoedd diwethaf, ac yr oedd rhai o’r sylwadau yn anghywir. Felly, hoffwn eu cywiro heddiw. Mae Middleton yn sefydliad annibynnol, a reolir gan grwp o ymddiriedolwyr, sy’n annibynnol ar y Llywodraeth. Mewn cyferbyniad, mae Gerddi Kew yn gorff sy’n cyfateb i gorff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, gydag ymddiriedolwyr a benodir gan y Llywodraeth, yn gweithio yn ôl cylch gwaith y Llywodraeth. Crëwyd Middleton gan yr ymddiriedolwyr, fel rhan o gynnig llwyddiannus i Gomisiwn y Mileniwm. Yr oedd dealltwriaeth glir na fyddai angen mwy o gymorth pwrs y wlad ar ôl y chwistrelliad cychwynnol o arian cyfalaf, oherwydd byddai refeniw o dâl mynediad a ffynonellau eraill yn talu’r costau gweithredol. Y bwriad erioed oedd adennill costau erbyn 2003.
Pe bai refeniw wedi cyfateb i’r rhagolwg yn y cynllun busnes, ni fyddem yn y sefyllfa hon heddiw. Mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng bob blwyddyn ers i Middleton agor. Mae nifer yr ymwelwyr dros gyfnod brig yr haf yn ystod pedair blynedd yr ardd fel a ganlyn: 144,000, 129,00, 95,000 a 90,000. Y cwymp yn nifer yr ymwelwyr sydd wrth wraidd argyfwng ariannol yr ymddiriedolaeth. Ni thalwyd biliau ers misoedd, mae gorddrafft enfawr, mae staff wedi colli gwaith, ac mae miliynau o bunnoedd yn ddyledus mewn rhwymedigaethau hirdymor. Dyna’r realiti ariannol. Byddai pecyn achub cynhwysfawr, a fyddai’n mynd â’r ardd oddi wrth yr ymddiriedolwyr annibynnol, a’i rhoi ym meddiant y cyhoedd, yn costio o leiaf £20 miliwn i’r Cynulliad hwn, ac felly i drethdalwyr Cymru.
Dros y 15 mis diwethaf, gweithiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn agos ac yn benderfynol gydag ymddiriedolwyr Middleton, a phartneriaid allweddol eraill yn y sector cyhoeddus, gan wneud ymdrech ar y cyd i sicrhau dyfodol hirdymor, cynaliadwy i’r ardd. Cefnogwyd hynny gennym drwy roi chwistrelliad sylweddol o arian cyhoeddus i’r ymddiriedolaeth. Ers Medi 2002, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi mwy na £1.6 miliwn fel y gall yr ymddiriedolaeth ymdrin â phroblem nifer yr ymwelwyr a’i hamgylchiadau ariannol. Dangosodd yr arian hwnnw ein hymrwymiad i sicrhau bod yr ymddiriedolwyr yn cael pob cyfle i ddiogelu dyfodol yr ardd. Yn anffodus, er y chwistrelliad sylweddol hwnnw o arian cyhoeddus, mae Middleton yn wynebu argyfwng ariannol o hyd. Y ffaith drist yw nad yw gam yn agosach at ddod o hyd i ateb hirdymor a chynaliadwy i’w dyfodol na phan gysylltodd yr ymddiriedolwyr â Llywodraeth Cynulliad Cymru gyntaf am gymorth yn ystod haf 2002.
Ar 2 Rhagfyr, cyflwynodd yr ymddiriedolwyr eu strategaeth adfer i mi. Wrth wneud hynny, bu iddynt gydnabod na fuont yn llwyddiannus wrth ddatblygu’r sefydliad mewn meysydd allweddol. Yn arbennig, maent yn cydnabod yn awr y dylent fod wedi defnyddio’r adnoddau i gynyddu nifer yr ymwelwyr a, thrwy hynny, wireddu realiti masnachol, gan wella’r cyfleusterau a ddarperir ar gyfer ymwelwyr cyffredinol yn ogystal â’r cyfleusterau ar gyfer y rhai sydd â diddordeb brwd mewn botaneg.
Mae nodwedd ganolog y strategaeth adfer yr un peth yn y bôn â’r cynllun busnes blaenorol, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Awst 2003. Fodd bynnag, nod y cynllun newydd yw cyflawni’r un canlyniad am gost is. Y gofyniad allweddol yw bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn darparu cymhorthdal refeniw parhaus gwerth miliynau o bunnoedd. Yn y byrdymor, er mwyn sefydlogi’r sefydliad, mae’r ymddiriedolwyr yn ceisio ymrwymiad gwarantu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o dros £3 miliwn—£1.132 miliwn ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn nesaf i gyd, a £1.9 miliwn arall o arian cyheoddus ar gyfer y cyfnod dilynol o dair blynedd. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn anelu at sicrhau arian gan ffynonellau eraill, a fyddai, pe’i cyflawnid, yn cael yr effaith o leihau swm yr arian sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r sefydliadau eraill hyn wedi rhoi unrhyw ymrwymiadau ac, felly, nid oes unrhyw sicrwydd a gaiff cynlluniau’r ymddiriedolwyr eu cyflawni.
Mae’r strategaeth hefyd yn ymchwilio i sawl opsiwn ar gyfer rhesymoli’r strwythur trefniadol yn Middleton, sy’n cynnwys y posibilrwydd o lunio contract rheoli gyda phartner sector preifat a fyddai’n gyfrifol am weithrediadau masnachol yr ardd. Byddai gweithredwr masnachol yn fwy tebygol o gynyddu incwm gan ymwelwyr—prin y gallai wneud yn waeth. Fodd bynnag, y gwir plaen yw na fydd newid trefniadol ynddo’i hun yn datrys y sefyllfa bresennol ac enbyd o ran dyledion sydd tua £2.8 miliwn ar hyn o bryd.
O ran marchnata, mae’r cynigion diwygiedig mewn rhai ffyrdd yn fwy realistig o ran ehangu’r farchnad darged i Middleton, ond byddai ymgyrch farchnata effeithiol yn golygu costau sylweddol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi darparu mwy na £300,000 i gynnal staff marchnata penodedig a gweithgareddau marchnata dros y 15 mis diwethaf ac, er gwaethaf yr arian cyhoeddus ychwanegol hwn, mae nifer yr ymwelwyr wedi parhau i ostwng. Mae’r ymddiriedolwyr wedi cydnabod iddynt fethu â thargedu marchnadoedd newydd na gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, mae’n anodd gweld sut y byddai’r arian cyhoeddus ychwanegol a gynigiwyd yn y strategaeth yn cael effaith fwy cadarnhaol ar nifer yr ymwelwyr yn y dyfodol.
Er mwyn datblygu’r cynnyrch, mae’r ymddiriedolwyr wedi cynnig rhaglen buddsoddiad cyfalaf o £3 miliwn. Rhagwelant y byddai’r buddsoddiad hwn yn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr o’r 120,000 y flwyddyn a geir ar hyn o bryd i 233,000 erbyn 2008-09. Fodd bynnag, mae hyn yn groes i’r cynllun busnes blaenorol, a ddywedodd y byddai angen rhaglen buddsoddiad cyfalaf o £8 miliwn i gynhyrchu’r nifer hwn o ymwelwyr. Seilir y ddau gynllun ar ymchwil yr ardd ei hun ac, o gofio graddfa wahanol iawn y buddsoddiadau arfaethedig, yr wyf yn argyhoeddedig o hyd y byddai’r buddsoddiad llai a gynigir yn y strategaeth adfer yn rhoi’r cynnydd arfaethedig yn nifer yr ymwelwyr.
O ran datblygu partneriaethau newydd ac ymgymryd â buddsoddiad cyfalaf, mae’r ymddiriedolwyr wedi seilio’r strategaeth adfer ar waredu tir a nifer o adeiladau y maent yn berchen arnynt fel ymddiriedolaeth elusennol. Pe gallent wneud hyn—ac mae’n ‘pe’ mawr—a phe gallent atal y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, efallai y byddent mewn sefyllfa i glirio rhai o’r dyledion y mae angen eu talu’n ddybryd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn broses syml, a byddai angen sawl cytundeb a chaniatâd, gan gynnwys cymeradwyaethau cynllunio. Nid yw’n sicr, o bell ffordd, y byddai’r ymddiriedolwyr yn gallu sicrhau’r cymeradwyaethau hyn na gwireddu’r symiau a awgrymir yn y strategaeth adfer. Mae problem amseru hefyd o ran sicrhau cymorth ariannol yn ystod y cyfnod hwn, a deallaf fod y banciau wedi dweud na fyddent yn fodlon cynyddu uchafswm gorddrafft yr ymddiriedolaeth.
Yr ydym wedi gwrando ar yr ymddiriedolwyr ac wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’w cynigion, ond, am y rhesymau a amlinellais heddiw, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu peidio â darparu’r gwarantau ariannol y gofynnodd yr ymddiriedolwyr amdanynt. Ysgrifennais heddiw at gadeirydd bwrdd yr ymddiriedolwyr, yn ei hysbysu o’r canlyniad hwn gan egluro’n fanwl y rhesymau dros ein penderfyniad. O gofio’r diddordeb mawr sydd gan yr Aelodau yn y mater hwn, yr wyf wedi rhoi copi o’m llythyr yn Llyfrgell y Cynulliad. Bydd hwn yn newyddion siomedig i’r ymddiriedolwyr, ond rhaid imi esbonio ymrwymiad parhaol Llywodraeth y Cynulliad i helpu i sicrhau dyfodol hirdymor yr ardd fel atyniad o safon, a fydd yn denu ymwelwyr i’r ardal ac yn cynhyrchu cyflogaeth. Eisoes mynegodd sawl darpar fuddsoddwr ddiddordeb, ac yr ydym yn barod, gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus, i weithio gydag unrhyw sefydliad sydd â chynigion ymarferol ar gyfer yr ardd.