Skip to content

Diwrnod Cofio Cenedlaethol i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi i’r Cynulliad y bydd Gwasanaeth Sul y Cofio ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd yn cael ei ystyried o hyn ymlaen yn Wasanaeth Cofio Cenedlaethol i Gymru.

Bydd Aelodau yn ymwybodol fy mod i, ynghyd â’r Llywydd ac arweinwyr y pleidiau, wedi mynychu Gwasanaeth Sul y Cofio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Yr wyf yn ddiolchgar i Ddeon a Chabidwl yr Eglwys Gadeiriol am ein galluogi i wneud hyn.

Rwyf bob amser wedi teimlo y dylid sefydlu Gwasanaeth Sul y Cofio ger y Gofeb ym Mharc Cathays, Caerdydd yn seremoni genedlaethol. Dylai gyfateb mor agos â phosibl i’r seremoni yn y Senotaff yn Whitehall.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi i’r Cynulliad, yn dilyn trafodaethau rhyngof ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd ac arweinwyr y Pleidiau yn y Cynulliad, ein bod wedi cytuno ar drefniadau i sefydlu gwasanaeth cenedlaethol. Yn y dyfodol bydd y Llywydd, ynghyd â Phedwar Arweinydd y Pleidiau yn y Cynulliad, yn gosod torchau ar ran pobl Cymru ar y cyd â chynrychiolydd Ei Mawrhydi, yr Ysgrifennydd Gwladol, Lleng Frenhinol Prydain a chynrychiolwyr o’r lluoedd arfog yng Nghymru. Bydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn parhau i gynrychioli pobl Caerdydd yn yr un seremoni.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â sefydlu’r gwasanaeth hwn fel gwasanaeth cofio cenedlaethol i Gymru fel y gall Cymru gyfan dalu teyrnged briodol i’r dynion a’r menywod o Gymru a fu farw yn y ddau Ryfel Byd ac mewn brwydrau eraill ar draws y byd.