Skip to content

Datganiad ar Ymgynghoriad yr Adolygiad o’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Carwyn Jones): Yn fy natganiad ar 24 Mehefin, amlinellais yr ymagwedd yr oeddwn yn bwriadu ei chymryd tuag at adolygu cynllun datblygu cynaliadwy’r Cynulliad, ac eglurais sut y byddwn yn cyflwyno adroddiad ar effeithiolrwydd y cynllun hyd yma. Cyfrifoldeb y Cynulliad cyfan yw adolygu’r cynllun, ond dirprwywyd y swyddogaethau cyflwyno adroddiadau ac ymgynghori i Weinidogion.

Yr wyf yn lansio ‘Dechrau Byw yn Wahanol’ heddiw, yr ymgynghoriad ffurfiol ar adolygu’r cynllun, ac yr wyf yn datgan i adroddiad annibynnol gael ei gyhoeddi ar y gwahaniaeth a wnaeth y cynllun. Paratowyd yr adroddiad hwnnw inni gan CAG Consultants, yn seiliedig ar ei ymchwiliadau, adroddiad Davidoff y tynnais eich sylw ato ym mis Mehefin, a deunydd arall.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i gyflwyno adroddiadau yn onest ac yn agored. Yr oeddem am gael adroddiad a fyddai’n cynnwys y da a’r drwg ac a fyddai’n dangos sut y gallem wella ein cynllun a’i weithredu’n well. Mae CAG Consultants wedi rhoi hynny inni, gan iddo ein beirniadu yn erbyn safon uchel. Dyma rai o’i ganlyniadau:

Nid oes amheuaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol weithio’n galed dros y pedair blynedd diwethaf i brif ffrydio datblygu cynaliadwy i’w bolisïau... . Gall y Cynulliad ymfalchïo mewn gosod safon na welir ei bath bron yn unrhyw le arall.

Dulliau cydgysylltu sydd wrth wraidd strwythur gwleidyddol a gweinyddol y Cynulliad.

Ar yr un pryd mae’r Cynulliad wedi llwyddo i rannu’r cyfrifoldeb dros y ddyletswydd ar draws y sefydliad.

Mae’r cynllun wedi codi proffil datblygu cynaliadwy ledled Cymru, ac wedi symbylu nifer o sefydliadau i ddechrau ystyried y mater hwn yn fwy difrifol. Fel y dengys yr adroddiadau blynyddol, mae’r Cynulliad wedi gwneud llawer dros y pedair blynedd diwethaf i hyrwyddo’r ddyletswydd.
Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond barn annibynnol sefydliad uchel ei barch sydd â chryn brofiad yn y maes. Gall pob Aelod ymfalchïo yn yr asesiad hwnnw, yn arbennig Sue Essex, a wnaeth gymaint i’w haeddu.

Fodd bynnag, ni ofynasom am gael ein llongyfarch: yr oeddem am wybod sut y gallem wella. Dywedwyd wrthym:

Hefyd mae meysydd y mae angen eu gwella: mae’r ymdrechion yn wasgaredig, yn hytrach na chanolbwyntio ar bwysau cynaliadwyedd allweddol a materion hollbwysig sy’n wynebu Cymru; nid yw’n glir a fydd y newidiadau polisi a gyflwynwyd yn ddigon i wyrdroi tueddiadau anghynaliadwy; nid yw datblygu cynaliadwy wedi cael ei fwydo’n systematig o bolisïau i arfer y Cynulliad ac arfer sefydliadau eraill; mae angen i bolisïau’r Cynulliad ar gyfer arwain drwy esiampl gael eu gweithredu’n llawnach; a phrin yw’r dystiolaeth bod newid gwirioneddol yn digwydd ar lawr gwlad.

Nid yw hynny’n newyddion cystal. Gwnawn lawer o bethau da, ond nid ydym yn cyflawni ein dyheadau ein hunain eto. Mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion, a chyflawni newid gwirioneddol.

Yr wyf yn ddiolchgar i CAG, ac i bob unigolyn a sefydliad y mae’n adrodd eu barn, am ei feirniadaeth yn ogystal â’i ganmoliaeth. Dyna yr oedd ei eisiau arnom i’n helpu i ffurfio cynigion ar gyfer diwygio’r cynllun. Mae hynny’n fy arwain at ein papur ymgynghori. Ym mis Mehefin, siaradais am drafodaethau anffurfiol gyda rhanddeiliaid i’n helpu i ddatblygu ein cynigion. Diolch i’r 33 cynrychiolydd o’r 29 sefydliad a gymerodd ran yn y trafodaethau hyn, ac yn arbennig y pum sefydliad—Cyngor Sir Caerfyrddin, Groundwork Aberdâr, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a Shotton Paper Company ccc—a’u cynhaliodd neu a gynigiodd eu cynnal. Bu’r trafodaethau hyn o gymorth inni benderfynu pa gynigion i’w cyflwyno yn ein hymgynghoriad. Yr ydym wedi ceisio gwahaniaethu rhwng y cynllun ei hun, sef cyfrifoldeb y Cynulliad cyfan, a chynllun gweithredu i gyflawni newid a fydd yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yr ydym yn bwriadu cryfhau a chyffredinoli egwyddorion y cynllun, egluro sut y mae’n berthnasol i bartneriaid y Cynulliad, diweddaru’r geiriad i adlewyrchu’r datblygiadau ers Tachwedd 2000, a darparu systemau mwy cadarn ar gyfer monitro a chyflwyno adroddiadau. Er mwyn cyflawni newid gwirioneddol, noda’r papur y materion y credwn y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion arnynt. Byddwn yn gweithio i ddatblygu cynllun gweithredu yn ystod ac ar ôl y cyfnod ymgynghori, drwy drafod gyda phartneriaid niferus y Cynulliad. Bydd angen iddo adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad ynghylch y cynllun.

Bydd yn bwysig cael y cynllun yn iawn, fel ein datganiad egwyddorion cyffredin, ond gobeithiaf y bydd dadleuon a thrafodaethau yn ystod y cyfnod ymgynghori yn canolbwyntio cymaint ar gynnwys cynllun gweithredu realistig ag y gwna ar eiriad y cynllun ei hun. Bydd hynny’n ein helpu i gyflawni newid gwirioneddol ar lawr gwlad. Bydd y cyfnod ymgynghori yn parhau am dri mis. Croesawaf fwriad y tri Phwyllgor Rhanbarth i wahodd cyflwyniadau gan sefydliadau â diddordeb. Yn ogystal, yr ydym wedi gofyn i Fforwm Datblygu Cynaliadwy Cymru weithio gyda rhai sefydliadau allweddol i gynnal gweithdai yn canolbwyntio ar gamau posibl mewn meysydd blaenoriaeth. Ar yr un pryd, bydd ymgynghoriad ar y drafft o gynllun gofodol Cymru yn mynd rhagddo. Mae hynny hefyd yn ymwneud â rhoi datblygu cynaliadwy ar waith, felly ceir cyswllt pwysig rhwng y ddau ymgynghoriad.

Byddaf yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ar hynt ein hymgynghoriad. Gobeithiaf gyfarfod â Chadeiryddion Pwyllgorau Pwnc a llefarwyr y pleidiau eraill ar ddatblygu cynaliadwy yn fuan i drafod y cynnydd, a sefydlu a fydd Pwyllgorau Pwnc am fod yn rhan o’r ymgynghoriad neu’n rhan o’r gwaith o ystyried ei ganlyniadau. Dywedais ym mis Mehefin fy mod yn gobeithio y byddai cynllun newydd wedi’i fabwysiadu gan y Cynulliad ym Mawrth 2004. Mae hynny’n parhau i fod yn obaith ac yn fwriad gennyf. Mae cryn ewyllys da ymhlith sefydliadau ac unigolion ledled Cymru y gallwn fanteisio arni. Dywedodd ein harbenigwyr annibynnol wrthym:

O ystyried mai sefydliad newydd ydyw, mae’r Cynulliad wedi cychwyn yn dda.

Yn awr, rhaid inni fwrw ymlaen.