Skip to content

Datganiad Llafar ar Ddiswyddiadau yn LG Philips Displays

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies AC, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Mae’r datganiad hwn yn ymwneud â’r cyhoeddiad gan LG Philips Displays ar 22 Mai ei fod yn bwriadu cau ei waith yng Nghasnewydd, gan ddiswyddo 870 o weithwyr.

Fel y gwyr Aelodau, cyn gynted ag y cyhoeddwyd hysbysiad y cwmni i’r wasg, rhoddais ddatganiad i holl Aelodau’r Cynulliad gan fynegi siom ddybryd Llywodraeth y Cynulliad o glywed y newyddion. Cyn troi at y cau, a’n gwaith o ran helpu’r rhai a ddiswyddir, gwnaf gyfeirio at ddatblygiadau dros y misoedd diwethaf.

Fel y gwyr llawer ohonoch, mae sïon ar led ynghylch dyfodol y gwaith ers cryn amser. Bu swyddogion y Swyddfa Gymreig ac, ers 1999, swyddogion Llywodraeth y Cynulliad, mewn cysylltiad rheolaidd â’r cwmni ers y buddsoddi gwreiddiol yn 1997. Tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf, fodd bynnag, daeth yn amlwg bod angen ymdrin â materion y tu hwnt i gwmpas y rheolwyr lleol, a gofynnais i uwch swyddogion Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdod Datblygu Cymru fynd ar eu trywydd. Cynhaliwyd dau gyfarfod gyda rheolwr gyfarwyddwr LGPD Europe, a chynhaliwyd trydydd cyfarfod gyda chadeirydd a phrif weithredwr LGPD yn Hong Kong. Yn y cyfarfodydd hynny, trafodwyd yr anawsterau yn y farchnad tiwbiau llun, ac anogwyd y cwmni i ystyried cyflwyno cynhyrchion eraill yng Nghasnewydd.

Cyn gynted ag y cawsom wybod bod penderfyniad ar fin cael ei wneud, ysgrifennais at Andreas Wente, cadeirydd a phrif weithredwr LGPD, i fynegi fy siom ddirfawr ym mhenderfyniad y cwmni, ac i ofyn iddo ailystyried safbwynt y cwmni. Yn ymateb Mr Wente, ac yn natganiad y cwmni wedyn, rhoddir ar ddeall bod y penderfyniad yn ganlyniad i’r amgylchedd economaidd byd-eang a’r effaith a gafodd y marchnadoedd tiwbiau teledu a monitorau cyfrifiadur ar y cwmni. Ceisiodd y cwmni ehangu portffolio cynhyrchion y gwaith yng Nghasnewydd y llynedd, ond ni fu hynny’n fodd i drawsnewid ei weithrediadau.

Cefais sicrwydd gan Mr Wente hefyd nad yw’r penderfyniad yn adlewyrchu o gwbl ar berfformiad y gwaith neu’r gweithwyr, sydd wedi amlygu ymroddiad mawr yn gyson dros y blynyddoedd. Mae’r cwmni eisoes wedi cau gweithfeydd mewn mannau eraill yn Ewrop, ac yr oedd y cyhoeddiad ar 22 Mai yn cyfeirio hefyd at gau gwaith yn Southport, Lloegr. Fodd bynnag, nid yw’r bwriad i gau yn effeithio ar waith cyfagos LG Electronics Wales, lle y cydosodir monitorau a chyfrifiaduron, y ceir galw cynyddol amdanynt. Mae’r gwaith hwnnw’n cyflogi 430 o bobl ar hyn o bryd.

Hefyd, drwy’r WDA, yr ydym mewn cysylltiad â chyflenwyr gwaith LGPD, ac yr ydym yn cadw llygad barcud arnynt. Y dasg gyntaf, fodd bynnag, yw sicrhau y caiff gweithwyr LG bob cymorth posibl i ddod o hyd i waith arall. Yn dilyn fy llythyr at Mr Wente, derbyniais sicrwydd ganddo y bydd y cwmni’n cydweithredu’n llawn ag asiantaethau Tîm Cymru i helpu staff i ddod o hyd i waith newydd. Deallwn y bydd 800 o weithwyr yn gadael ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori 90 diwrnod ar 20 Awst. Wedyn dechreuir digomisiynu’r gwaith, a bydd y 70 o staff sy’n weddill yn gadael ar ôl cwblhau hynny ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae’r cwmni wedi penodi asiantaeth all-leoli i gynorthwyo’r gweithwyr a ddiswyddir. Cynhaliwyd dau gyfarfod eisoes ag asiantaethau Tîm Cymru—y WDA, Canolfan Byd Gwaith, Dysgu ac Addysgu Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, a Gyrfa Cymru—a chytunwyd ar gynllun gweithredu ar gyfer y ffordd ymlaen. Bûm mewn cysylltiad hefyd â’r undeb llafur yn y gwaith, Amicus, i sicrhau ei fod yn cymryd rhan yn y broses hon. Sefydlir canolfan wybodaeth ar y safle, a dechreuir rhoi cyngor yn y dyddiau nesaf. Byddwn yn cadw golwg manwl ar y sefyllfa i sicrhau bod y gweithwyr yn cael pob cymorth posibl.

Dywedaf eto fod Llywodraeth y Cynulliad yn siomedig tu hwnt ym mhenderfyniad y cwmni, ac mae’r rhai a ddiswyddir, eu teuluoedd, a’r cymunedau lle y maent yn byw yn ein meddyliau. Fodd bynnag, mae’r gweithlu hwn wedi’i hyfforddi’n dda ac, er gwaethaf yr anffawd hon, mae sefyllfa gyffredinol y sector electroneg, a’r farchnad lafur yn y rhan honno o Gymru, yn dda. Byddaf yn ymweld â nifer o gwmnïau electroneg yn yr ardal yn ddiweddarach y mis hwn. Efallai y gwyr Aelodau’n barod fod sawl cwmni eisoes wedi rhoi gwybod i weithwyr LG am swyddi gwag, a bydd y broses o ganfod gwaith arall addas yn dwysáu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Gan hynny, yr ydym yn weddol ffyddiog y bydd y rhan fwyaf o’r gweithwyr yn gallu dod o hyd i waith newydd yn gymharol fuan a gwnawn weithio gyda’r cwmni, yr undeb llafur, ac asiantaethau cymorth Tîm Cymru, i ofalu bod hynny’n digwydd.