Skip to content

Ieithoedd Tramor Modern yng Nghyfnod Allweddol 2

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

Ar 15 Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gylchlythyr (Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 41/02) yn gwahodd cynigion gan glystyrau cynradd-uwchradd neu awdurdodau addysg lleol (AALl) i redeg prosiectau peilot o ddysgu iaith dramor fodern yng Nghyfnod Allwedddol 2 (oedran 7-11).

Pwrpas y fenter hon yw datblygu profiad yng Nghymru o sut y gall dysgu ac addysgu iaith dramor ategu a chyfoethogi’r cwricwlwm statudol yng Nghyfnod Allweddol 2 a bod o fudd i’r disgyblion pan fyddant yn symud ymlaen at Gyfnod Allweddol 3.

Derbyniwyd cynigion i fod yn rhan o’r fenter gan 34 clwstwr ar draws Cymru.  Cafodd y cynigion eu hystyried a’u hasesu ar eu rhinweddau gan Bwyllgor Llywio’r fenter, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad, ACCAC, Estyn, CILT Cymru  ac ymgynghorwyr AALl.  Cyngor y Pwyllgor Llywio oedd y dylid dethol 21 o’r 34 clwstwr ac yr wyf wedi derbyn y cyngor.

Mae’r 21 clwstwr a ddetholwyd yn cynnwys 96 ysgol gynradd.  Bydd y clystyrau yn cymryd rhan yn y fenter am 3 blwyddyn ysgol, o Fedi 2003 tan Gorffennaf 2006.  Bydd cefnogaeth, canllawiau ac offer gwerthuso ar gael i’r ysgolion sy’n rhan o’r cynllun o du CILT Cymru, ein prif bartner yn y gwaith o weithredu ein Strategaeth Ieithoedd Tramor Modern.  Bydd hawl gan glystyrau hefyd i dderbyn grantiau prosiect gan CILT Cymru o hyd at £2,000 am bob ysgol gynradd.    

Dengys y tabl isod y 21 clwstwr a ddetholwyd.            

PROSIECTAU PEILOT IEITHOEDD TRAMOR MODERN YNG NHGYFNOD ALLWEDDOL 2

Clystyrau a ddetholwyd i gymryd rhan o Fedi 2003

Yr ysgol uwchradd yn y clwstwr

Nifer yr ysgolion cynradd

Ardal AALl

Iaith

Grwpiau Blwyddyn

Ysgol Gyfun Gwynllyw

8

4 AALl Gwent

Ffrangeg

5 & 6

Fairwater High School

4

Tor-faen

Ffrangeg

5 & 6

Ysgol Gyf. Cwm Rhymni

8

Caerffili

Ffrangeg

4, 5 & 6

Lewis Boys/Girls

1

Caerffili

Sbaeneg

5 & 6

Ysgol Gyfun Glantâf

4

Caerdydd

Ffrangeg/

Almaeneg

5 & 6

Whitchurch High School

9

Caerdydd

Alameneg/

Ffrangeg

5 & 6

Cyfarthfa High School

5

Merthyr Tudful

Ffrangeg (peth Sbaeneg & Eidaleg)

5 & 6

(rhai 3, 4)

Ysgol Gyfun y Cymer

5

Rhondda Cynon Taf

Ffrangeg

4,5 & 6

Bryn Celynnog Comp.

5

Rhondda Cynon Taf

Ffrangeg

6

Cowbridge Comp.

3

Bro Morgannwg

Ffrangeg

5 & 6

Llantwit Major School

3

Bro Morgannwg

Ffrangeg

5 & 6

Pencoed Comp

5

Pen-y-bont ar Ogwr

Ffrangeg

5 & 6

Ysgol Gyfun Ystalyfera

5

Castell Nedd Port Talbot

Ffrangeg (peth Sbaeneg)

5 & 6

Ysgol Gyfun Gwyr

4

Abertawe

Ffrangeg

6

Ysgol Glan y Môr

4

Sir Gaerfyrddin

Ffrangeg

6

Ysgol Uwch. Tregaron

7

Ceredigion

Ffrangeg

6

Ysgol y Moelwyn

6

Gwynedd

Ffrangeg

6

Ysgol Syr Thos. Jones

8

Ynys Môn

Ffrangeg

6

Ysgol John Bright

2

Conwy

Sbaeneg & Ffrangeg

(peth Almaeneg)

5 & 6

Ysgol Bryn Elian

1

Conwy

Almaeneg

6

Denbigh High School

1

Sir Ddinbych

Ffrangeg

6