Skip to content

Datganiad ar Ddatganoli’r Gwasanaeth Tân

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio Edwina Hart

Yr wyf yn falch o hysbysu’r Cynulliad am fwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli cyfrifoldeb llawn dros ymladd tân a diogelwch tân yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cadarnhawyd y bwriad hwn yn y Papur Gwyn, ‘Our Fire and Rescue Service’, a gyhoeddwyd ddoe gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog.


Ar hyn o bryd, rhennir cyfrifoldeb dros y gwasanaeth tân rhwng y Cynulliad a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog. Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am gyllid refeniw’r gwasanaeth tân, tra bo Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yn gyfrifol am gyllid cyfalaf a pholisi tân. Er 1999, yr ydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y gwasanaeth tân yn cael ei gynnal drwy’r trefniadau presennol. Er hynny, ar sail tystiolaeth a phrofiad, daethom i’r casgliad y byddai datganoli cyfrifoldeb i’r Cynulliad yn fodd o reoli a chyllido’r gwasanaeth yn fwy effeithiol.

Meithrinwyd cydberthynas agos a chynhyrchiol rhwng tri awdurdod tân Cymru a’r Cynulliad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ceisio cynnwys yr awdurdodau tân, lle bynnag y bo modd, yn ei gwaith polisi ac wedi ceisio hybu dull cyfannol o ymdrin â diogelwch tân, gan feithrin yn benodol ymagwedd arloesol y gwasanaethau tân at ddiogelwch tân cymunedol ac atal llosgi bwriadol.

Llywodraeth y Cynulliad a gyflwynodd y ddadl dros newid i’r adolygiad annibynnol o’r gwasanaeth tân o dan gadeiryddiaeth Syr George Bain, a argymhellodd ddatganoli cyfrifoldebau pan adroddodd ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Yr oedd adolygiad Bain yn derbyn ein barn y byddai datganoli cyfrifoldeb dros y gwasanaeth tân i’r Cynulliad yn creu llinell cyfrifoldeb sengl i’r awdurdodau tân ac yn cyfrannu at reoli, cynllunio, a darparu gwasanaethau tân yn effeithiol yng Nghymru.


Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw fwriad i newid strwythur presennol yr awdurdodau tân. Credaf fod dadl gryf o blaid sefydlogrwydd. Lleihawyd nifer yr awdurdodau tân o wyth i dri ddim ond saith mlynedd yn ôl. Bydd datganoli’n caniatáu inni hybu cydweithio rhwng yr awdurdodau tân, yr awdurdodau lleol a gwasanaethau brys eraill yng Nghymru.


Dros yr haf, bydd Gweinidogion a swyddogion yn trafod gyda Llywodraeth y DU y trefniadau manwl ar gyfer trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros y gwasanaeth tân. Gobeithiaf y bydd y trefniadau newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

Mae hyn yn dangos agwedd bragmatig at ddatganoli, lle y trosglwyddir pwerau i gyflawni diben, ar sail tystiolaeth y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu’n well drwy ddatganoli.