Skip to content

Cyhoeddi Cynllun Wrth-Gefn I Gymru Ar Gyfer Clwy'r Traed A'r Genau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Michael German, Dirprwy Brif Weinidog & Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor: Michael German OBE
Yr wyf yn falch iawn o weld cyhoeddiad y Cynllun Wrth-gefn i Gymru ar gyfer Clwy'r Traed a'r Genau.  Mae copïau ar gael yn y Llyfrgell a bydd hefyd ar gael ar wefan y Cynulliad, o dan y pennawd "Clwy'r Traed a Genau".

Mae'r Cynllun yn mynd law yn llaw â Chynllun wrth-gefn DEFRA ar gyfer y DU ac fe'i cynlluniwyd i gydweithio â Chyfarwyddiadau'r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol a Chynlluniau Wrth-gefn y Swyddfeydd Rhanbarthol Iechyd Anifeiliaid a'r Awdurdodau Lleol.

Nid oedd modd i DEFRA gyflwyno'i gynllun ger bron Llywodraeth y DU ar 24 Mawrth fel y bwriadwyd ei wneud o ganlyniad i rwystrau annisgwyl, felly fe'i cyflwynwyd Dydd Gwener 28 Mawrth.

Mae Cynllun Cymru yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol sef mai cyfrifoldeb DEFRA yw Clwy'r Traed a'r Genau ac nid yw'n gyfrifoldeb sydd wedi ei ddatganoli. Hefyd bod y DU yn uned epidemiolegol unigol.  Mae'n darparu'r fframwaith ar gyfer y strwythurau rheoli gweithredol a fyddai'n cael eu rhoi ar waith yng Nghymru pe bai yna argyfwng arall.

Mae swyddogion y Cynulliad a DEFRA yn edrych ar y posibilrwydd o ddatganoli mwy o bwerau iechyd anifeiliaid ond bydd y rhan fwyaf o'r systemau a'r gweithdrefnau a nodwyd yn y Cynllun hwn yn gymwys pe bai'r pwerau'n cael eu trosglwyddo.  Y gwahaniaeth allweddol fyddai rhoi mwy o reolaeth dros y strategaeth â'r tactegau sydd i'w rhoi ar waith yng Nghymru i’r Cynulliad.  Byddai modd sicrhau cysondeb drwy’r cyngor a dderbynnir oddi wrth Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol y DU.

Datblygu Cynllun Cymru

Cychwynnodd y gwaith ar Gynllun drafft ym mis Ionawr 2002 mewn ymgynghoriad â DEFRA.  Nodwyd yr angen i gynnwys pawb oedd â diddordeb uniongyrchol yn y Cynllun a chyflwynwyd y drafft i'r Rhanddeiliaid a'r Partneriaid ym mis Mehefin 2002, ac yna cynhaliwyd cyfarfod â hwy ar 13 Mehefin 2002.  Cafwyd canllawiau gwerthfawr o'r cyfarfod ar yr hyn yr oedd y Rhanddeiliaid a'r Partneriaid yn eu disgwyl oddi wrth y Cynllun.

Anfonwyd drafft diwygiedig at y Rhanddeiliaid a'r Partneriaid yng Ngorffennaf 2002 a rhoddwyd copi yn Llyfrgell y Cynulliad ac ar wefan y Cynulliad.  Cafwyd cyfnod ymgynghori rhwng Gorffennaf a Hydref 2002.  Wrth lunio'r Cynllun a gyhoeddwyd heddiw, rhoddwyd ystyriaeth i'r sylwadau a'r awgrymiadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i Ymateb y Llywodraethau ar y Cyd i Ymchwiliadau Anderson a Follett a gyhoeddwyd ar 6 Tachwedd 2002 a chanlyniad ymchwiliad y Cynulliad i'r ffordd yr ymdriniwyd â'r Argyfwng Clwy’r Traed a'r Genau yn 2001.

Cynhaliwyd cyfarfod terfynol gyda'r Rhanddeiliaid a'r Partneriaid ar 18 Chwefror 2003 ac yr wyf yn hapus ein bod wedi gwneud pob peth posibl i gynnwys eu safbwyntiau a sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn y dyfodol.

Cynnwys y Cynllun

Mae'r Cynllun yn fwy eglur o rhan y strwythur rheoli a gorchymyn.  DEFRA fydd yn gyfrifol am y rheolaeth strategol a thactegol a chaiff ei rhaeadru i Gymru drwy Ganolfan Gydgysylltu Cymru.

Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymru fydd yn gyfrifol am reoli'r gweithrediadau yma a bydd yn sicrhau bod cyfarwyddiadau y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Rheoli Clefydau yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol yn ogystal â sicrhau bod Gweinidogion y Cynulliad yn gwbl sicr o'r holl agweddau amrywiol er mwyn delio â'r afiechyd drwy law Grw^p Strategaeth y Clwy.

Mae'r Cynllun yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r swyddi allweddol, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Rheolwr Gweithrediadau Lleol, Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a'r rhai sydd â chyfrifoldebau penodol yng Nghanolfan Cydgysylltu Cymru.

Bydd y partneriaid, megis yr awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r RSPCA yn cael gwahoddiad i chwarae rôl gweithredol yng Nghanolfan Cydgysylltu Cymru o'r cychwyn cyntaf.

Bydd y Fyddin yng Nghymru yn derbyn gwybodaeth am unrhyw achos o Glwy'r Traed a'r Genau ond Llywodraeth y DU fydd yn penderfynu a fyddant  yn cael eu defnyddio.  Byddai'n rhaid ystyried defnyddio'r Fyddin pe bai argyfwng mor wael fel ei fod yn rhoi pwysau difrifol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Yr oedd cyfathrebu gwell yn wers benodol a ddysgwyd yn ystod yr argyfwng diwethaf.  Mae trefniadau clir wedi eu pennu rhwng Canolfan Genedlaethol DEFRA ar gyfer Rheoli Clefydau, Canolfan Gydgysylltu Cymru a Gweinidogion. Lluniwyd strategaeth gyfathrebu er mwyn sicrhau bod y gymuned ffermio a phobl Cymru yn derbyn gwybodaeth gyson am hynt yr afiechyd a'u bod yn derbyn cyngor ar faterion megis bio-ddiogelwch, gwaredu, mesurau rheoli symudiadau a rheoli afiechydon.

Chwaraeodd y Rhanddeiliaid a'r Partneriaid ran werthfawr yn ystod yr argyfwng diwethaf, a byddwn yn adeiladu ar hyn drwy sicrhau eu bod yn chwarae rhan o'r cychwyn yn ystod unrhyw argyfwng yn y dyfodol.  Bydd y Cynulliad yn sefydlu Grwpiau Cynghori, a byddant yn cynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid i ddelio'n benodol â materion megis mynediad i gefn gwlad, yr effaith ar yr economi a iechyd pobl.

Brechu

Efallai mai'r newid mwyaf i'r dull o reoli'r clwy yw ei bod bellach yn ofynnol rhoi ystyriaeth gadarnhaol i ddefnyddio brechiadau brys i fyw. Byddai brechiadau yn cael eu defnyddio ar y cyd â mesurau rheoli eraill, a byddai anifeiliaid heintus ac anifeiliaid y credir eu bod yn heintus yn cael eu didol a'u difa.

Sefydlodd Senedd Ewrop bwyllgor dros dro yn 2002 i ystyried y modd yr ymdriniwyd â lledaeniad y clwy yn 2001 a chyflwynwyd ei gasgliadau i Senedd Ewrop ym mis Rhagfyr 2002.  Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynhyrchu Cyfarwyddeb ddrafft yr UE ynghylch y mesurau rheoli sy'n angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw argyfwng yn y dyfodol ac mae'n cyfeirio’n arbennig at frechiadau.  Mae manylion y darpariaethau yn y Gyfarwyddeb ddrafft wrthi'n cael eu trafod â Rhanddeiliaid, Partneriaid ac â Gweinyddiaethau Datganoledig.

Yn sgîl cynigion yr UE a amlinellir yn y Gyfarwyddeb ddrafft mae'n ofynnol i gig gan anifeiliaid sydd wedi'u brechu gael ei dynnu oddi ar yr esgyrn a'i aeddfedu ar gyfer cael ei werthu i'w fwyta gan bobl.  Mae hon yn broblem fawr i Gymru gan y byddai'n effeithio'n ddifrifol ar ei diwydiant cig oen.  Credir nad yw'n gwneud synnwyr economaidd i dynnu cig yr wyn ysgafn yr ydym yn eu cynhyrchu oddi ar yr esgyrn.  Yn sgîl yr effaith arbennig y byddai brechiadau yn ei chael ar fasnach yng Nghymru cynhaliwyd cyfarfod ar 6 Mawrth â rhanddeiliaid, gan gynnwys undebau ffermio, cynhyrchwyr cig a llaeth a ffatrïoedd prosesu cig. Mae sylwadau Rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael eu hystyried yn fanwl fel rhan o broses drafod y DU ynghylch Cyfarwyddeb ddrafft yr UE.

Defnyddir y prawf Protein Heb Strwythur i wahaniaethu rhwng anifeiliaid heintus ac anifeiliaid sydd wedi'u brechu ond mae angen ei ddatblygu ymhellach.  Nid yw'r prawf yn ddilys ar gyfer defaid ar hyn o bryd ond mae cynnydd yn cael ei wneud o ran creu prawf a dderbynnir yn rhyngwladol.

Mae DEFRA, ar y cyd â'r Undeb Ewropeaidd a'r Office International des Epizooties (OIE), yn archwilio gwelliannau i frechiadau a phrofion arolygu er mwyn adfer y statws o fod yn rhydd rhag y clwy yn gynnar fel y gellir ailddechrau allforio cig.  

Mae DEFRA wedi gosod trefniadau dros dro i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau, y timau brechu a digon o gyflenwadau o frechiadau er mwyn ateb unrhyw ofynion brys i frechu. Mae trefniadau parhaol wrthi'n cael eu datblygu drwy weithdrefnau tendro.

Symud Anifeiliaid

Os cadarnheir bod clwy'r traed a'r genau wedi lledu bydd gwaharddiad yn cael ei gyflwyno ar unwaith o ran symud anifeiliaid.  Byddai'r cyfyngiadau symud 6 diwrnod presennol a'r defnydd o frechiadau yn helpu i rwystro lledaeniad y clwy a byddent yn lleihau nifer yr anifeiliaid y byddai'n ofynnol eu lladd.

Mynediad i Gefn Gwlad

Roedd cryn bryder yn 2001 ynghylch y gwaharddiad eang o ran mynediad i gefn gwlad.  Nod y Cynllun yw sicrhau y byddai gymaint â phosibl o gefn gwlad ar agor i'r cyhoedd petai'r clwy yn lledu yn y dyfodol.  Dim ond yr ardal ger safle heintus fyddai ar gau, yn amodol ar gyngor milfeddygon.


Gwaredu

Yn ystod lledaeniad 2001 roedd cryn bryder yn ogystal ynghylch effaith defnyddio coelcerthi ar ffermydd a chladdu nifer fawr o anifeiliaid yn yr un man ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl. Yn y dyfodol nid yw'n debygol iawn y bydd coelcerthi ar ffermydd a chladdedigaethau mawr yn cael eu hystyried er budd yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.

Trefn gwaredu diwygiedig DEFRA ydy: -

i. Llosgi
ii. Rendro
iii. Claddu trwyddedig

Bydd rheoli symudiadau a rhoi brechiadau yn lleihau'r pwysau ar gyfleusterau gwaredu carcasau, a bydd yn dangos y gall ymdopi heb orfod defnyddio coelcerthi a chladdu.  

Mae'r defnydd o gladdu trwyddedig yn amodol ar reoliadau drafft Sgîl-gynhyrchion Anifeiliaid, sydd wrthi'n cael eu trafod gan DEFRA a'r Comisiwn Ewropeaidd.  Ar hyn o bryd mae claddu'n opsiwn o hyd ond gallai gael ei wahardd o dan delerau'r rheoliadau.  Os cadarnheir bod claddu yn opsiwn sydd ar gael ar ôl archwilio'r sefyllfa gyfreithiol bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn trafod y materion perthnasol â mudiadau perthnasol yng Nghymru.

Datblygiad y Cynllun Wrth Gefn yn y Dyfodol

Nid dogfen derfynol mohono'r Cynllun Wrth Gefn a bydd yn datblygu i wynebu heriau newydd. Rhagwelir y bydd yn cael ei hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau hyn. Mae'n arbennig o bwysig i hyfforddi staff allweddol er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y Cynllun a bydd Strategaeth yn cael ei llunio a'i gweithredu mewn perthynas â hyn.  Bwriedir cynnal ymarfer i brofi Cynllun Cymru yn ystod y misoedd nesaf a bydd ymarferion pellach yn cael eu cynnal yn y dyfodol er mwyn sicrhau ei bod yn parhau'n effeithiol.  Bydd y Cynulliad yn cydweithio'n agos â'r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol, â Rhanddeiliaid ac â Phartneriaid i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei diweddaru'n gyson i ymdrin ag amgylchiadau a gofynion sy'n newid yn gyson.