Skip to content

Datganiad ar Sefydlu Tribiwnlys Anabledd ac Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Jane Davidson

Yn ‘Y Wlad sy’n Dysgu’ y mynegais gyntaf fy mwriad i ddatblygu tribiwnlys anghenion addysgol arbennig ar wahân i Gymru. Mae Deddf Addysg 2002 yn diwygio Deddf Addysg 1996 er mwyn caniatáu sefydlu tribiwnlys anghenion addysgol arbennig i Gymru.

Sefydlwyd y tribiwnlys presennol, sy’n gweithredu ledled Cymru a Lloegr, yn 1993 ac, y llynedd, o dan ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2002, fe’i hailgyfansoddwyd yn dribiwnlys anghenion addysgol arbennig ac anabledd. O dan y trefniadau presennol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu at y rhaglen ac at gostau rhedeg y tribiwnlys i Gymru a Lloegr.

Yr wyf yn falch heddiw o gydnabod y rôl bwysig a chwaraeodd y tribiwnlys presennol dros Gymru a Lloegr ers ei sefydlu. Mae’r hawl sydd gan rieni i apelio yn erbyn penderfyniadau gan awdurdodau lleol am asesu, darparu a chyflwyno addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig yn un pwysig. Mae’n sicr yn cydweddu â pholisïau Llywodraeth y Cynulliad o ganolbwyntio ar gynnwys rhieni a disgyblion yn y prosesau penderfynu sy’n effeithio ar ddisgyblion.

Er hynny, bu llawer o newid er 1993. Mae sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r datganoli ar faterion addysgol i Lywodraeth y Cynulliad o ganlyniad i hynny—gan gynnwys anghenion addysgol arbennig, wrth gwrs—yn enghraifft ragorol. Mae’n briodol i Gymru fodern ar ôl datganoli feddu ar sefydliadau sy’n adlewyrchu anghenion, amodau a dyheadau neilltuol y wlad.

Ers Ebrill 2002, mae gan Gymru, am y tro cyntaf, ei chod ymarfer neilltuol ei hun ar gyfer anghenion addysgol arbennig. Mae’r cod yn rhoi arweiniad ar asesu anghenion addysgol arbennig a’r ddarpariaeth ar eu cyfer. Rhaid i awdurdodau addysg lleol ac ysgolion gymryd sylw o’r cod ac, os gweithredwyd yn groes iddo, gall rhieni apelio i’r tribiwnlys. Cyn cyflwyno apêl, fodd bynnag, byddem yn disgwyl i rieni fod wedi cael cyfle i ddefnyddio gwasanaeth datrys anghydfodau’r awdurdod, fel y nodir yn y cod ymarfer. Mae’r gwasanaeth amhleidiol hwn yn ceisio osgoi unrhyw begynu ar safbwyntiau. Wrth gwrs, nid yw ei ddefnyddio’n golygu na chaiff rhieni gyflwyno apêl i’r tribiwnlys. Mae’r cod ymarfer anghenion addysgol arbennig i Gymru’n wahanol i’r un ar gyfer Lloegr ac, er mwyn darparu ar gyfer y gwahaniaethau hyn a’r posibilrwydd y byddant yn graddol ymwahanu ymhellach yn y dyfodol, mae’n ymddangos yn gwbl resymegol y dylid sefydlu tribiwnlys neilltuol ac ar wahân.

Mae tribiwnlys Cymru i’w sefydlu o heddiw, 1 Ebrill, gyda’i bencadlys gweinyddol yn Llandrindod. Bydd yn ystyried apelau o 1 Medi ymlaen a caiff gwrandawiadau eu cynnal mewn lleoliadau ledled Cymru o fewn cyfnodau penodedig. Mae’r apelau cyntaf yn debygol o gael gwrandawiad yn Rhagfyr. O dan drefniadau interim, bydd y tribiwnlys anghenion addysgol arbennig ac anabledd presennol yn dal i wrando apelau a ddaeth i law cyn 1 Medi. Yn achos anabledd, nad yw’n swyddogaeth a ddatganolwyd, bydd tribiwnlys Cymru’n gwrando apelau yn erbyn gwahaniaethu canfyddedig ar sail anabledd o dan drwydded. Gan hynny, bydd yn rhaid iddo wneud hynny yn ôl meini prawf ar gyfer Cymru a Lloegr.

Dylwn bwysleisio, er y bydd y Cynulliad yn cyllido ei weithrediad yn llawn, y bydd y penderfyniadau a wnaiff y tribiwnlys yn dal i fod yn annibynnol ar Lywodraeth. Bu i’r rheoliadau presennol sy’n ymdrin â gweithrediad y tribiwnlys ystyried bod tribiwnlys ar gyfer Cymru i’w sefydlu, a’r rhain, yn y lle cyntaf o leiaf, a fydd yn rheoli’r prosesau apêl ar gyfer y ddau dribiwnlys. Yr wyf yn disgwyl cael gwybodaeth oddi wrth adran yr Arglwydd Ganghellor am ganlyniadau cyfweliadau diweddar i benodi llywydd rhan-amser, a delir drwy ffioedd, ar gyfer y tribiwnlys. Bydd ysgrifenyddiaeth y tribiwnlys yn swyddogaeth i’r gwasanaeth sifil o hyd, a deallaf y gwneir penodiadau cyn bo hir.
Ar ôl ei staffio, bydd cyfle pwysig gan y tribiwnlys i sefydlu grwpiau defnyddwyr i sicrhau y rhoddir pob ystyriaeth i anghenion yr holl randdeiliaid, boed hwy’n rhieni, yn ddisgyblion, yn awdurdodau addysg lleol neu’n grwpiau cefnogi. Mae’n amlwg bod cyfle i ddysgu oddi wrth yr arferion da presennol ac i adeiladu arnynt. Yr wyf hefyd yn awyddus i’r tribiwnlys allu gweithredu’n ddwyieithog, o ddelio ag ymholiadau cychwynnol i gyflwyno apelau, hyd at eu datrys a chael hysbysrwydd am benderfyniadau. Mae cynllun iaith Gymraeg gan y tribiwnlys presennol, sy’n darparu ar gyfer gwrando apelau yn y naill iaith neu’r llall, ond bydd sefydlu tribiwnlys newydd yn caniatáu i unrhyw newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud.

Bydd y llywydd yn paratoi adroddiad blynyddol, a bydd hwn yn darparu gwybodaeth am iaith yn ogystal â thueddiadau eraill mewn apelau mewn gwahanol rannau o’r wlad. Bydd y data hynny’n bwysig, a hynny’n anad dim o ran mesur mynychter apelau, meysydd a allai fod yn ddiffygiol a mapio darpariaeth anghenion addysgol arbennig ar gyfer y dyfodol.

Hyderaf y bydd y tribiwnlys yn dal i ddarparu gwasanaeth pwysig ac y bydd ganddo’r gallu i ymaddasu i newidiadau ym maes anghenion addysgol arbennig yng Nghymru. Gan hynny, fe’i cymeradwyaf ichi’n wresog.