Skip to content

Ymweliadau’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes i Wlad y Basg, yr Iseldiroedd a Rhanbarth Veijle, Denmarc.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

Ar 4 Hydref, roeddwn yn bresennol am y tro cyntaf yng Nghyfarfod Cymdeithas Ewropeaidd Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol ar gyfer Dysgu Gydol Oes (EARLALL) a gynhaliwyd yn Veijle, Denmarc. Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn un o sylfaenwyr y gymdeithas. Sefydlwyd EARLALL ym mis Hydref 2001 er mwyn hwyluso'r broses o rannu profiadau ac arferion gorau ym maes dysgu gydol oes a bwrw ymlaen â'r gwaith datblygu ar y cyd.  Ymysg yr aelodau, mae cynrychiolwyr o lywodraethau rhanbarthol yr Eidal, Sbaen, yr Almaen, Denmarc, Sweden, Norwy a Latfia, yn ogystal â'r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae gan gyrff megis y Nordic Folk Academy ac ELWa - Dysgu ac Addysgu Cymru statws arsylwi.

Oherwydd bod cwmpas diddordebau'r gymdeithas mor eang, mae aelodau wedi gwirfoddoli i arwain a gwneud cynigion ar gyfer gweithredu ar y cyd mewn gwahanol feysydd yn ymwneud â dysgu gydol oes.  Mae Cymru yn arwain ar addysg i oedolion, a chyflwynais ein cynigion amlinellol i gyfarfod y Gymdeithas yn Vejle. Gofynnodd ein papur i aelodau EARLALL ystyried a mynd i'r afael â thri chwestiwn strategol: 

  •  Sut y caiff addysg i oedolion ei chyllido a'i darparu mewn gwahanol gyd-destunau rhanbarthol/cenedlaethol?
  • Beth sy'n ysgogi oedolion i ddysgu a gwneud cynnydd?
  • Sut y gellir monitro a gwerthuso addysg anffurfiol i oedolion yn effeithiol?

Roedd y camau a argymhellwyd yn y papur yn rhagweld:

  • Datblygu is-rwydwaith o aelodau EARLALL er mwyn rhannu profiadau a gwybodaeth; a
  •  Datblygu prosiect (yn ddelfrydol â chefnogaeth cronfeydd rhaglenni Ewropeaidd) er mwyn nodi arferion da o ran dulliau o fesur a sicrhau ansawdd canlyniadau 'meddal' addysg anffurfiol i oedolion.

Cafodd yr argymhellion gefnogaeth frwd gan aelodau EARLALL; a nododd cynrychiolwyr o lywodraethau Toscana, Vasta Gotalands (Sweden), Veijle (Denmarc) a Gwlad y Basg bod diddordeb mawr ganddynt mewn cymryd rhan.  Bydd y gwaith yn cydweddu â chynigion eraill ar gyfer cydweithio a ategwyd yn y cyfarfod mewn perthynas â datblygu rhwydweithiau, llunio strategaethau a datblygu credydau a chymwysterau. Bydd rhai o'r rhanbarthau eraill yn arwain ar y materion hyn, a bydd Cymru'n cael ei chynnwys fel partner.  Bydd ELWa yn arwain dros Gymru (ar ran y Cynulliad Cenedlaethol) a bydd yn ceisio rhoi mwy o fanylder i'n cynigion, ar y cyd â'r sefydliadau perthnasol yng Nghymru a'r rhanbarthau eraill sy'n bartneriaid o fewn EARLALL, gyda golwg ar gyflwyno cais manwl am gyllid o gronfeydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae'r Gymdeithas yn gobeithio, trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu o'r fath, y bydd yn gallu dangos cryfderau llywodraethau rhanbarthol ym maes dysgu gydol oes a chryfhau eu rôl yn nyfodol prosesau creu polisi, a chynllunio a darparu rhaglenni yn yr Undeb Ewropeaidd.  Bydd yn gweithio'n agos â'r Comisiwn a Phwyllgor y Rhanbarthau i fwrw ymlaen â'r nod hwn.

Cynhelir trafodaethau pellach ynghylch y cyfraniad y gall rhanbarthau eraill EARLALL ei wneud yn y dyfodol o ran bwrw ymlaen ag agenda dysgu gydol oes yr Undeb Ewropeaidd yng nghynhadledd y Gymdeithas yn Fflorens fis Rhagfyr. Byddaf i yn bresennol yn y gynhadledd honno. Rwy’n gobeithio y bydd manylion y cyfraniad hwnnw yn weddol derfynol erbyn i ni groesawu'r Gymdeithas i Gymru fis Mehefin nesaf.  

Rhwng 5-7 Mehefin, ymwelais â Tuscany a chyfarfod Senor Paolo Beneseperi, Cadeirydd EARLALL, sy'n cyfateb i mi'n rhanbarthol. Roedd yn ymweliad buddiol a rhoddodd gyfle i ni rannu ein hagweddau tuag at bolisi addysg ac i mi weld drosof fy hun sut maent yn delio â darpariaeth blynyddoedd cynnar ac ehangu TGCh. Roedd nifer o nodweddion diddorol iawn ac yr wyf wedi eu cymryd i ystyriaeth, ers hynny, wrth ddatblygu a gweithredu ein polisïau a'n trefniadau tebyg ein hunain.

Yn ystod fy ymweliad, rhoddais wahoddiad i Senor Benesperi, fel Cadeirydd EARLALL i gynnal cyfarfod yng Nghymru flwyddyn nesaf.  Rydym wedi cytuno, am y tro, y dylai'r cyfarfod hwn ddigwydd diwedd Mehefin a bydd dyddiad pendant yn cael ei drefnu yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas yn Nenmarc ym mis Rhagfyr. Bydd hyn yn ein galluogi ni, nid yn unig i i barhau i wneud cyfraniad sylweddol i'w trafodaethau pwysig, ond, hefyd, i dynnu sylw at ein polisïau ac ymarfer ni ein hunain yma yng Nghymru.

Ar Fedi 24 a 25 ymwelais â Gwlad y Basg i gyfarfod Senora Anjeles Iztueta,  y Gweinidog dros Addysg, Prifysgolion ac Ymchwil, i drafod eu hagweddau tuag at addysg blynyddoedd cynnar a dysgu gydol oes. Yn ystod yr ymweliad, arwyddais Femorandwm Dealltwriaeth, sy'n ceisio hyrwyddo gwelliannau yn ein systemau addysg drwy dynnu ar brofiadau ac ymarfer ein gilydd. Fel sail i'r cytundeb, sefydlir Cydbwyllgor Technegol a fydd yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn a bydd yn ystyried materion i ddiddordeb i'r naill a'r llall. Fel man cychwyn, rwyf wedi cynnig bod y Cydbwyllgor Technegol hwn yn ystyried dysgu gydol oes, y blynyddoedd cynnar ac addysg cyfrwng Cymraeg. Byddai'r pwnc olaf, yn sicr, yn adeiladu ar brofiad Llywodraeth Gwlad y Basg o feithrin twf eu hiaith eu hunain yn eu cyfundrefn addysg.

Yn union ar ôl y cyfarfodydd yng Ngwlad y Basg, bûm yn ymweld â'r Iseldiroedd ar 26 a 27 Medi. Roeddwn yn siaradwr gwadd mewn Cynhadledd Ewropeaidd bwysig ar Addysg ac Iechyd mewn Partneriaeth. Roedd yn amlwg o'r gynhadledd hon ein bod ni ar flaen y gad yn y mater hwn a dangoswyd diddordeb mawr mewn llawer o'r mentrau yr ydym wedi'u sefydlu eisoes yma yng Nghymru. Ar ddiwedd fy ymweliad â'r Iseldiroedd cefais drafodaethau defnyddiol pellach ag uwch swyddogion o'u Hadran Addysg am eu hagweddau tuag at y blynyddoedd cynnar a dysgu gydol oes a chefais gyfarfod hynod o addysgiadol gyda Phennaeth un o'u hysgolion uwchradd mwyaf.  

Yn dilyn fy nghyswllt gyda Llysgenhadaeth Prydain yn yr Iseldiroedd (sy'n gyfrifol am Wlad Belg hefyd), yr wyf yn awr wedi gofyn i Lysgennad Prydain drefnu cyfarfodydd gyda sefydliadau addysgol allweddol yng Ngwlad Belg, ym mis Chwefror, 2003, gobeithio.

Fy mhrif nod yn ymgymryd â'r ymweliadau hyn a chynnal y trafodaethau hyn yw sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i ymarfer da ble bynnag mae'n digwydd, yn enwedig yn y meysydd hynny ble'r ydym ni yn datblygu ein polisïau ein hunain. Mae'r ymweliadau, felly, wedi cael eu targedu'n ofalus i sicrhau fod gennym ddiddordebau cyffredin a gallwn gael budd gwirioneddol ohonynt.