Skip to content

Ymweliad Prif Weinidog Cymru â Poitiers, Ffrainc, 2 Rhagfyr 2002

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru
Ar 2 Rhagfyr bûm mewn cyfarfod o Fiwro Gwleidyddol  Cynhadledd y Rhanbarthau Ymylol ac Arfordirol (CPMR) yn Poitiers, canolbarth Ffrainc. Bwriad fy ymweliad oedd trafod goblygiadau y gwahoddiad gan y CPMR i fod yn llefarydd y sefydliad ar faterion polisi rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd.  Rwyf wedi derbyn y gwahoddiad hwnnw.

Sefydlwyd y CPMR yn St Malo yn 1973 ar gais rhanbarth Llydaw a deg ar hugain o ranbarthau eraill a oedd yn pryderu y gallai'r ffaith eu bod mor anghysbell ar lefel Ewropeaidd o gymharu â'r canolfannau economaidd mawr yn Ewrop fod yn anfantais i'w datblygiad economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol.  Ers hynny mae'r CPMR wedi tyfu i fod yn sefydliad o dros 150 o ranbarthau a gweinyddiaethau tebyg. Ei nod yw hybu datblygiad cytbwys yr UE gan dynnu sylw at werth pob ardal ddaearyddol gyda'r bwriad o gryfhau cydlyniad economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol yr Undeb.

Fel sefydliad, mae Cynhadledd y Rhanbarthau Ymylol ac Arfordirol ymhell o fod yn ymylol.  Mae'n llais pwerus iawn i'r rhanbarthau yn Ewrop.  Mae wedi dangos ei gallu i gyrraedd yr aelodau allweddol yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cyfleu safbwyntiau ei haelodau a helpu i ddylanwadu ar ddatblygiad Ewrop yn y dyfodol.  Y Llywydd presennol yw Claudio Martini, sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol yn Llywydd dros ranbarth Toscana.

Dyma gyfle pwysig i ni. Ers creu'r Cynulliad Cenedlaethol, mae wedi cymryd camau i fod ynghanol datblygu polisïau o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mae ein haelodaeth o CPMR yn ganolog i'n hymagwedd strategol tuag at Ewrop.  Mae gwaith Pwyllgor Sefydlog Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad a'r ffaith i ni sefydlu swyddfa ym Mrwsel yn dangos y pwysigrwydd a roddwn i faterion polisi datganoledig a materion polisi nad ydynt wedi'u datganoli.  Rwy'n ystyried datblygiad ein haelodaeth o'r CPMR fel elfen ganolog o'n hymagwedd strategol tuag at Ewrop.

Gyda gweddill y DU, rydym wedi bod yn frwd o blaid ehangu'r UE ac wedi meithrin perthynas gyda rhanbarthau fel Silesia yng Ngwlad Pwyl.  Rydym am i'r aelod-wladwriaethau newydd elwa'n llawn o ganlyniad i ymuno â'n clwb.  

Ond mae hefyd yn hanfodol ein bod, fel rhanbarth dlotach o fewn aelod-wladwriaeth gyfoethocach o'r UE, yn gofalu am ein hanghenion ein hunain.  Golyga hyn weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a sefydliadau'r UE. Rydym ar brydiau'n cael y fraint o gynrychioli'r DU yng nghyfarfodydd Cyngor yr UE ac, fel pob aelod o'r CPMR, un o'n pryderon mwyaf yw sicrhau yr ystyrir ein hanghenion yn safbwyntiau'r aelod-wladwriaeth.


Bydd fy swyddogaeth fel llefarydd y CPMR ar faterion polisi yr UE yn golygu
cydlynu:

 Hyrwyddo ac amddiffyn safbwyntiau'r Gynhadledd gyda'r rhai hynny sy'n gwneud y penderfyniadau ar lefel Ewropeaidd, sef y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop, Pwyllgor y Rhanbarthau, Aelod-wladwriaethau, Aelod-wladwriaethau y dyfodol a'r cyfryngau.  

 Gwneud rhanbarthau sy'n aelodau o'r CPMR yn fwy ymwybodol o sut y bydd newidiadau mewn polisïau sydd ar ddod yn cael effaith arnynt ac ymgynghori â hwy ar ymatebion priodol.  

Y nod yw sicrhau bod argymhellion y Comisiwn Ewropeaidd o ran polisi rhanbarthol yr Undeb wedi 2006, sydd i'w paratoi yn ystod hydref 2003, yn cyfateb mor agos â phosibl â phryderon y rhanbarthau sy'n aelodau o'r CPMR, ac yna bod yr argymhellion hyn yn cael eu derbyn gan yr Aelod-Wladwriaethau yn ystod 2004 a 2005.

Mae'r swyddogaeth yr wyf wedi ei derbyn yn dod ar adeg bwysig yn y drafodaeth ar ddiwygio polisi rhanbarthol yr UE, gyda'r pwyslais pendant ar ddyfodol cronfeydd strwythurol yr UE.  Mae wedi bod yn fraint i ni gael  gwahoddiad i chwarae'r rhan hon o fewn Biwro Gwleidyddol y CPMR.  Mae'n ganmoliaeth fawr i ddatblygiad swyddogaeth Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd.