Skip to content

Datganiad ar Ofal Lliniarol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Croesawaf y cyfle i wneud datganiad ynglyn â gofal lliniarol ac i amlinellu ein cynlluniau i sicrhau y caiff yr arferion da presennol yng Nghymru eu lledaenu’n systematig ar draws Cymru. Yn ffodus, mae gennym nifer fawr o enghreifftiau o arferion da. Fodd bynnag, yr wyf am inni ddatblygu’r ansawdd sy’n bodoli eisoes a’i ymestyn i bob gwasanaeth. Mae cleifion sy’n dioddef o afiechyd angheuol, neu sy’n dioddef poen cronig, yn haeddu’r gwasanaeth gorau gennym; a dylai cymdeithas waraidd sicrhau y cânt y gwasanaeth gorau. Cyn imi symud ymlaen i’m cynlluniau ar gyfer strategaeth gofal lliniarol, hoffwn ddweud pa mor falch oeddwn i glywed y bydd y gronfa cyfleoedd newydd yn darparu £4.5 miliwn o gronfa’r loteri yng Nghymru. Y gronfa fydd yn dyrannu’r arian hwn, ond yr ydym wedi bod yn gweithio gyda’r gronfa i lunio’r meini prawf i’w defnyddio ar gyfer ceisiadau. Gan mai arian unwaith ac am byth ydyw, ymddengys y byddai’n synhwyrol inni gytuno ag awgrym Cymdeithas Hosbis a Gofal Lliniarol Arbenigol Cymru y dylid ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau cyfalaf, gan gynnwys ad-drefnu llety, gwaith adnewyddu, a chael adeiladau newydd yn lle’r hen rai treuliedig. Bydd y sector annibynnol a’r gwasanaethau gwirfoddol yn gallu gwneud cais, a disgwyliaf i’r gronfa cyfleoedd newydd gyhoeddi’r trefniadau ar gyfer gwneud cais yn ddiweddarach eleni.

Mae Mudiad Iechyd y Byd yn diffinio gofal lliniarol fel gofal gweithredol a chyflawn i gleifion nad yw eu hafiechyd yn ymateb i driniaeth wellhaol. Mae rheoli poen, symptomau eraill, a phroblemau seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol yn hollbwysig. Nod gofal lliniarol yw rhoi’r ansawdd bywyd gorau i gleifion a’u teuluoedd. Yn draddodiadol, credid bod gofal lliniarol a gwasanaethau hosbis ond yn berthnasol i bobl sy’n ar fin marw. Fodd bynnag, daeth yn fwyfwy amlwg bod angen gofal lliniarol yn aml o adeg canfod yr afiechyd, lle nad yw’nr afiechyd yn ymateb o bosibl i driniaeth wellhaol. Mae’n amlwg bod gofal lliniarol yn gallu bod yn fanteisiol o ran ansawdd bywyd unigolion a’u teuluoedd. O’r herwydd newidiwyd y pwyslais wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau tuag at weithio ochr yn ochr gyda’r meysydd arbenigol eraill ar gam cynharach o’r afiechyd. Ar yr un pryd, mae gwasanaethau wedi dechrau cael mwy o rôl wrth ofalu am bobl sy’n dioddef o fathau eraill o afiechyd na ellir eu gwella, ar wahân i ganser. Rhaid i wasanaethau ymateb hefyd i’r angen i ddarparu gofal profedigaeth i ofalwyr.

Mae’n bwysig sylweddoli bod angen gofal lliniarol ar gleifion sy’n dioddef o unrhyw afiechyd cynyddol sy’n cyfyngu ar fywyd. Mae egwyddorion allweddol a ddylai reoli eu hymagwedd tuag at gomisiynu, darparu a gwerthuso gwasanaethau gofal lliniarol. Dylai pob un sy’n dioddef o salwch datblygedig, salwch cynyddol a salwch na ellir ei wella gael gofal lliniarol sy’n addas i’w hanghenion a aseswyd. Dylai pob gweithiwr proffesiynol gofal iechyd ymgorffori gofal lliniarol sylfaenol yn eu hymagwedd tuag at arfer clinigol, a gwybod pryd y dylid galw cydweithwyr arbenigol ym maes gofal lliniarol i mewn i gynnal ansawdd bywyd eu cleifion. Dylai pob corff comisiynu gofal iechyd sicrhau bod strategaeth glir ar gyfer darparu gofal lliniarol i’w boblogaeth ddiffiniedig er mwyn i’r adnoddau, y cyfleusterau a’r staff hyfforddedig fod ar gael i weithredu’r cynlluniau ac er mwyn i ddarparwyr gofal gyrraedd safonau darparu y cytunwyd arnynt. Dylai pob corff comisiynu gofal iechyd sicrhau y gall y GIG a darparwyr yn y sector gwirfoddol gydweithio fel partneriaid cyfartal wrth ddatblygu strategaeth gofal lliniarol a darparu gwasanaethau.

Bûm yn pryderu ynglyn â’r angen am strategaeth ar gyfer gofal lliniarol i Gymru gyfan ers tro. Yn arbennig, mae rhai o Aelodau’r Cynulliad wedi sôn wrthyf am y problemau y maent hwy eu hunain wedi dod ar eu traws wrth ofyn am gymorth i aelodau o’r teulu neu wrth ymdrin â phroblemau tebyg ar ran eu hetholwyr. Buom mewn cysylltiad agos â Chymdeithas Hosbis a Gofal Lliniarol Cymru, sef y corff ambarél sy’n dwyn ynghyd yr holl sectorau â diddordeb mewn gofal lliniarol, gan gynnwys gofal lliniarol i blant a’r mudiad hosbis. Buom yn gweithio gyda’r gymdeithas i lunio strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghoriad pellach. Tynnwyd yr holl ddeunydd angenrheidiol ynghyd a lluniwyd drafft cyntaf, sydd bellach yn cael ei fireinio cyn ei gyhoeddi a chynnal ymgynghoriad llawn arno y mis nesaf.

Gwn o’m gohebiaeth fod gofal lliniarol yn gyfystyr â hosbisau ym meddyliau llawer o bobl. Mae modd rhoi gofal lliniarol yn y cartref, yn y gymuned ac mewn ysbytai hefyd. Rhaid inni gydnabod bod gan hosbisau rôl bwysig i’w chwarae—Canolfan Holme Tower Marie Curie a Chanolfan Gofal Hosbis George Thomas yn enghreifftiau da o’r modd y gellir integreiddio gofal hosbis â’r gwasanaethau statudol—ond rhaid inni gydnabod y rhoddir y rhan fwyaf o ofal lliniarol mewn lleoliadau eraill. Wrth gwrs, caiff hosbisau gryn gefnogaeth yn lleol ac mae llawer o bobl yn ymgysylltu’n gryf â’u hosbis lleol. Credaf fod yn rhaid inni fabwysiadu ymagwedd gytbwys tuag at ofal lliniarol ac ymyrrais i annog y gwasanaethau statudol i gynnwys y sector gwirfoddol yn eu prosesau cynllunio a chomisiynu.

Disgwyliaf i’r strategaeth atgyfnerthu’r neges hon a hyrwyddo’r cydweithrediad gorau posibl rhwng y gwasanaethau statudol a’r mudiad hosbisau annibynnol pan fo hosbisau yn yr arfaeth a phan fydd apeliadau lleol i godi arian yn cael eu lansio. Mae’n bwysig bod y gymuned iechyd leol yn llawn ymrwymedig i brosiectau o’r fath pan ddechreuir arnynt. O gofio hynny, yr oeddwn yn falch o drafod cynlluniau Hosbis Plant Ty Gobaith i sefydlu hosbis i blant yn y Gogledd, ac yr wyf yn ystyried a oes modd inni gefnogi hynny drwy daliad unwaith ac am byth fel y gwnaethom yn achos Ty Hafan yn y De. Bu fy swyddogion yn bresennol mewn cyfarfod yn Llanelli yn ddiweddar i drafod y problemau sydd ynghlwm wrth agor y cyfleusterau sydd heb eu hagor eto yn Hosbis Ty Bryngwyn yn y dref. Er y bu’n anodd dod o hyd i ateb i’r broblem hon, yr wyf yn obeithiol o hyd y gellir cael ateb lleol ac y gall y Cynulliad chwarae ei ran i helpu yn y broses hon.

Hanfod y strategaeth gofal lliniarol fydd gwella’r holl elfennau sy’n rhan o wasanaeth gofal lliniarol da—gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, gwasanaethau cymdeithasol, ysbytai, clinigau a hosbisau, pa un a ydynt yn rhai gwirfoddol neu’n rhai a ddarperir gan y GIG. Mae’r holl sefydliadau hyn, ynghyd â’u cleifion a’u gofalwyr, yn rhanddeiliaid ym maes gofal lliniarol. Byddaf yn sicrhau y caiff pob partner y cyfle i gyfrannu at y strategaeth.

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddaf yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y strategaeth wedi ei chostio ac wedi ei gweithredu’n llawn ledled Cymru. Yr wyf yn benderfynol y dylid ei rhoi ar waith mewn modd systematig a theg er mwyn inni gael gwasanaethau y gallwn ymfalchïo ynddynt, am eu bod yn darparu ar gyfer pobl pan fônt fwyaf diamddiffyn.