Skip to content

Lesley Griffiths AC

Dolenni perthnasol

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth eang iawn o wasanaethau i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Lesley Griffiths AC
Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

Cafodd Lesley Griffiths ei magu yn y Gogledd-ddwyrain ac mae wedi byw a gweithio yn Wrecsam ers yn oedolyn. Mae ganddi ddwy ferch ac mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol ac yn gynghorydd cymuned. Bu’n gweithio yn Ysbyty Wrecsam Maelor am ugain mlynedd. Cyn iddi gael ei hethol, bu’n gweithio fel cynorthwyydd etholaethol i Ian Lucas, AC. Fel rhywun sy’n gadarn o blaid datganoli i Gymru, chwaraeodd ran weithgar yn yr ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ ym 1997. Mae’n aelod o undeb Unsain.

Fe’i hetholwyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007 ac mae wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, y Pwyllgor Cynaliadwyedd, y Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5. Hi sefydlodd y Grŵp Hosbis Trawsbleidiol a hi hefyd a gadeiriodd y grŵp hwnnw. Ym mis Rhagfyr 2009, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau.  Ar ôl ei hailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, penodwyd Lesley Griffiths yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac ym mis Mawrth 2013, penodwyd fel y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, ei phrif ddiddordebau yw cerddoriaeth, cerdded a gwylio Clwb Pêl-droed Wrecsam. Bu Lesley, ar un adeg, yn un o gyfarwyddwyr etholedig Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.

Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn gyfrifol am:

  • Y system graddio'r dreth gyngor yng Nghymru;  
  • Y polisi ar gyfer "rhoi cap" ar y dreth gyngor ar gyfer awdurdodau lleol ac awdurdodau'r heddlu;
  • Ariannu awdurdodau lleol ac awdurdodau'r heddlu yng Nghymru â chyllid sydd heb ei neilltuo, gan ddefnyddio'r setliadau refeniw a chyfalaf ar gyfer llywodraeth leol (er mai mater i'r Swyddfa Gartref yw cyllid cyfalaf ar gyfer yr heddlu);
  • Materion cyllid cyfalaf a chyfrifyddu sy'n ymwneud ag awdurdodau lleol, gan gynnwys cymeradwyaethau'r Fenter Cyllid Preifat (cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw awdurdodau'r heddlu yn hyn o beth);  
  • Noddi Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Prisio;  
  • Materion sy'n ymwneud â chyflog cyfartal a chyflog statws sengl ymysg llywodraeth leol;  
  • Cymorth ariannol brys i awdurdodau lleol (Cynllun "Bellwin" gynt);  
  • Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol a'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn gyffredinol;  
  • Gwaith yr awdurdodau lleol yn gweithredu Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella (gwerth gorau);  
  • Perfformiad awdurdodau lleol a'r modd y maent yn atebol am eu perfformiad eu hunain;
  • Gwaith cynllunio strategol lleol yr awdurdodau lleol a'u partneriaid (Sylwch: nid cynllunio defnydd tir);  
  • Y taliadau y mae llywodraeth leol yn eu codi am wasanaethau anstatudol, a'u trefniadau i fasnachu yn y gwasanaethau hynny;  
  • Goruchwyliaeth a chyfarwyddyd i awdurdodau lleol yng Nghymru a chyswllt ag awdurdodau'r heddlu;  
  • Gwaith yr awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau gwerth gorau;  
  • Lwfansau cynghorwyr a'u safonau ymddygiad;  
  • Mynediad gan y cyhoedd i gyfarfodydd awdurdodau lleol;  
  • Gwaith yr awdurdodau lleol yng Nghymru i reoleiddio mynwentydd ac amlosgfeydd;  
  • Cadarnhau is-ddeddfau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud yng Nghymru;  
  • Amseriad etholiadau lleol;
  • Sylwch mai'r canlynol yw "awdurdodau lleol at ddibenion cyfrifoldebau'r Gweinidog: cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub, a chynghorau cymuned neu gynghorau tref;
  • Y cyfrifoldeb cyffredinol am gyd-drefnu rhaglenni o fesurau i wella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus;
  • Diwygio'r Sector Cyhoeddus;
  • Y cyfrifoldeb trawsbynciol am weithio mewn ffordd strategol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y cyfrifoldeb am faterion megis perfformiad, cydweithredu a chanolbwyntio ar y dinesydd;
  • Goruchwyliaeth ar y gwaith o reoleiddio, archwilio ac arolygu o ran sut maent yn berthnasol i wella gwasanaethau cyhoeddus;
  • Bwrw ati â'r gwaith i wella'r modd y caiff gwasanaethau lleol eu cyflenwi.
  • Diogelwch Cymunedol, a'r berthynas â'r Heddlu ac Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill, gan gynnwys materion gwrthderfysgaeth;  
  • Cyfiawnder Ieuenctid;
  • Trais yn y cartref;  
  • Y Gwasanaethau Tân ac Achub, gan gynnwys gwaith diogelwch rhag tân yn y gymuned;  
  • Pwynt cyswllt ar gyfer y Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chyn-filwyr (y Gweinidog portffolio perthnasol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau fel iechyd ac addysg);
  • Cyfrifoldeb am reoli busnes Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad yn unol â'r rheolau sefydlog.

Ysgrifennu at Weinidogion

Cysylltwch ag gwenda thomas drwy e-bostio: gohebiaeth.lesley.griffiths@cymru.gsi.gov.uk

Rydym yn anelu at ymateb i ohebiaeth a anfonir at Weinidogion, gan gynnwys y post electronig, cyn pen 17 diwrnod gwaith.  Bydd y Gweinidogion yn ymateb i ohebiaeth ynghylch materion sy’n berthnasol i’w portffolios. Dilynwch yr eitem ‘Ysgrifennu at y Gweinidogion’ ar ochr chwith y dudalen fel bod eich gohebiaeth yn cyrraedd y Gweinidog cywir.