Skip to content

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gyfle i bobl roi eu barn ar ystod eang o faterion sy'n effeithio arnyn nhw a'u hardal leol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fod y penderfyniadau a'r camau mae’n gwneud yn ystyried barn pobl Cymru. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn u o’i prif ffynonellau o wybodaeth ar farn pobl a’u hamgylchiadau.

Bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i helpu gwneud Cymru yn lle gwell i fyw. Byddant yn ein helpu i:

  • gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn;
  • monitro newidiadau dros amser;
  • nodi meysydd o arfer da y gellir eu rhoi ar waith yn ehangach; a
  • nodi meysydd neu grwpiau a fydd yn elwa o gymorth lleol, fel bod camau yn cael eu targedu yn y modd mwyaf effeithiol.
I gysylltu â'r tîm sy'n rhedeg yr Arolwg Cenedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru, e-bostiwch:  arolygon@cymru.gsi.gov.uk.