Skip to content

Monitor lles plant a phobl ifanc

Dolenni perthnasol

Ein nod yw rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.
Ystadegau am dlodi ac amddifadedd plant.
Mae'n bleser gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddatgan bod Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cymru 2008 wedi'i gyhoeddi.

Mae monitor 2008 yn canolbwyntio ar les plant a phobl ifanc 0 i 18 oed yng Nghymru, ac yn ceisio darparu darlun holistaidd o'u bywydau. Mae'n dwyn ynghyd ystadegau ac ymchwil o ystod o wahanol ffynonellau ac mae'n adrodd ar amrywiaeth o ddangosyddion yn ymwneud â lles plant.

Mae'r monitor wedi'i seilio ar themâu o saith nod craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Dyma'r themâu:

  • y blynyddoedd cynnar
  • iechyd
  • addysg
  • mynediad at chwarae, chwaraeon, hamdden a diwylliant
  • hawliau
  • cartref a chymuned diogel
  • a sicrhau nad yw unrhyw blentyn na pherson ifanc dan anfantais oherwydd tlodi

Mae'r monitor hefyd yn adrodd ar hynt targedau Llywodraeth y Cynulliad ar dlodi plant, ac yn eu hystyried yng nghyd-destun y pethau eraill rydym yn eu gwybod am amgylchiadau a phrofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fonitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cymru, cysylltwch â Swyddfa'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

E-bost: research.evaluation@wales.gsi.gov.uk